Gweithredu rhaglen iechyd anifeiliaid fferm
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gweithredu rhaglen iechyd anifeiliaid fferm.
Mae cynnal iechyd a lles yr holl anifeiliaid fferm yn allweddol i’w perfformiad ac felly mae sefydlu a gweithredu rhaglen iechyd anifeiliaid fferm yn effeithiol yn hanfodol er mwyn i’r fenter fod yn llwyddiannus ac yn broffidiol.
Mae’n rhaid sefydlu a gweithredu’r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer, canllawiau gan sefydliadau lles anifeiliaid a gofynion neu bolisïau sefydliadol
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer ffermwr neu fugail.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
nodi a chadarnhau argaeledd yr adnoddau sydd yn ofynnol i weithredu'r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm
- rhoi systemau ar waith i reoli'r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm
- rhoi'r defnydd o dechnolegau a geir yn y rhaglen iechyd anifeiliaid fferm ar waith
- cyfathrebu'r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm i bawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod anifeiliaid fferm yn cael eu monitro ar gyfer clefydau adnabyddadwy yn unol â'r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm
- cadarnhau bod gan yr anifeiliaid fferm yr ydych yn gweithio gyda nhw fynediad at amodau amgylcheddol addas yn unol â'r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm
- rhoi triniaethau perthnasol ar waith ar gyfer anifeiliaid fferm y unol â'r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm
- cadarnhau bod unrhyw frechlynnau neu imiwneiddiadau diweddar wedi cael eu gweinyddu a, lle bo angen, wedi eu gweithredu yn unol â'r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm
- monitro a chadarnhau bod mesurau hylendid a bioddiogelwch wedi eu sefydlu a'u cynnal yn unol ag arferion sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
- monitro, adolygu ac argymell diwygiadau i'r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm lle bo angen
- rheoli gwastraff yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol ac ymarfer sefydliadol
- dewis, gwisgo a chynnal dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn berthnasol i'r gweithgaredd
- cadarnhau cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol lles anifeiliaid, codau ymarfer, sicrwydd ansawdd fferm, polisïau ac amcanion sefydliadol
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a'u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth, cynlluniau sicrhau ansawdd â'r polisïau sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
- yr adnoddau â'r dechnoleg sydd yn ofynnol ar gyfer rhoi'r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm ar waith
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- elfennau allweddol gofynion iechyd a lles anifeiliaid fferm yn y system cynhyrchu anifeiliaid fferm yr ydych yn gweithio gyda hi
- cydrannau allweddol rhaglen iechyd anifeiliaid fferm
statws iechyd presennol eich anifeiliaid fferm a sut i reoli unrhyw glefyd, anhwylder ac ati presennol, yn cynnwys y gofynion ar gyfer ynysu anifeiliaid fferm
goblygiadau defnyddio triniaethau ar anifeiliaid fferm yn cynnwys cyfnodau diddyfnu ac ymwrthedd i gynnydd
- y ffordd y gall amodau amgylcheddol effeithio ar iechyd a lles anifeiliaid fferm
- systemau rheoli iechyd a lles anifeiliaid fferm sydd yn atal ac yn rheoli'r tebygolrwydd o glefydau, anhwylderau a materion eraill iechyd a lles anifeiliaid
- y brechlynnau neu'r imiwneiddiadau perthnasol sydd yn ofynnol gan yr anifeiliaid fferm yr ydych yn gweithio gyda nhw a sut i'w rhoi ar waith yn unol â'r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm
- y dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch â'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- pwysigrwydd monitro ac adolygu'r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm ac argymell diwygiadau lle bo angen
- sut i drafod, cludo, storio a gwaredu mathau gwahanol o wastraff yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer ac arferion sefydliadol
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- deddfwriaeth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer, sicrwydd ansawdd fferm, polisïau ac amcanion sefydliadol
- y cofnodion y mae angen eu cadw mewn perthynas â rhoi'r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm ar waith a phwysigrwydd eu cwblhau yn unol â chodau ymarfer sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
Cwmpas/ystod
cael yr adnoddau canlynol i roi’r rhaglen iechyd anifeiliaid fferm ar waith:
- pobl
- bwyd
- llety (dan do/awyr agored)