Monitro a chynnal anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd

URN: LANLP4
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd. Mae disgwyl i chi ofalu am anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd; bydd hyn yn cynnwys monitro eu hiechyd, eu lles a’u cyflwr a chymryd y camau perthnasol pan fydd gennych bryderon. 
   
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn meddu ar ardystiad perthnasol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
 
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
 
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n monitro ac yn cynnal anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol ag arferion busnes
  4. cynnal yr amgylchedd cywir ar gyfer yr anifeiliaid trwy gydol beichiogrwydd
  5. monitro a chynnal iechyd, lles a chyflwr yr anifeiliaid beichiog a chymryd y camau angenrheidiol os oes problemau, yn unol ag arferion busnes
  6. darparu porthiant, dŵr ac atchwanegiadau, lle bo angen, yn unol â gofynion anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd
  7. cynnal triniaethau fel mater o drefn, yn unol â gofynion cynhyrchu a’r cynllun iechyd a lles
  8. gwneud y paratoadau angenrheidiol ar gyfer yr enedigaeth mewn da bryd i ganiatáu genedigaeth gynnar bosibl 
  9. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  10. gwneud yr holl waith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  11. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â chynnal anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  4. sut i fonitro a chynnal yr amgylchedd cywir ar gyfer yr anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd
  5. gofynion yr anifeiliaid ar gyfer porthiant, a dŵr yn ystod beichiogrwydd a phryd dylid darparu atchwanegiadau
  6. y cyfnod cario ar gyfer yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw a chyfnodau gwahanol beichiogrwydd 
  7. y rhesymau dros fonitro cyflwr yr anifeiliaid yn ystod cyfnodau amrywiol beichiogrwydd
  8. yr arwyddion sy’n dynodi iechyd ac ymddygiad arferol yr anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd, a’r angen i gymryd camau ar unwaith os canfyddir unrhyw amrywiadau o’r rhain
  9. y clefydau a’r anhwylderau sydd yn gysylltiedig â beichiogrwydd a’r camau i’w cymryd os oes unrhyw un o’r rhain yn bresennol
  10. symptomau erthyliadau, sut i ymdrin â’r anifeiliaid sydd wedi erthylu a’r gofynion cyfreithiol ar gyfer adrodd
  11. y ffordd y bydd beichiogrwydd yn effeithio ar gynnyrch cynhyrchu’r anifeiliaid
  12. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  13. eich cyfrifoldebau ar gyfer lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  14. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  15. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Amgylchedd: mewnol, awyr agored 
   
Mae monitro cyflwr yr anifeiliaid yn cynnwys: 
ymddangosiad
ystum a symudiad
ymddygiad
cylch atgenhedlu
clefydau ac anhwylderau
oed yr anifail a’i feichiogrwydd diwethaf 


Dolenni I NOS Eraill

​LANLP5 Monitro a chynnal gofal anifeiliaid yn ystod ac ar ôl esgor 


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP4

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Fferm Foch, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

bridio; cyfnod cario; beichiogrwydd; anifeiliaid