Cyflwyno anifeiliaid newydd i ddeiliadaeth

URN: LANLP39
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys yr arferion rheoli a’r rhagofalon y dylid eu cymryd wrth gyflwyno anifeiliaid newydd i grŵp sydd wedi ei sefydlu, neu wrth gymysgu grwpiau o ffynonellau gwahanol a sefydlu uned newydd. 

Mae clefydau modern yn aml yn heintus iawn felly mae bioddiogelwch da yn rhan allweddol o’r safon hon.
   
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant, a meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth wneud eich gwaith, mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am gyflwyno anifeiliaid newydd i ddeiliadaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. gwisgo dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. paratoi’r amgylchedd ar gyfer cyflwyno’r anifail (anifeiliaid) newydd i’r ddeiliadaeth
  4. creu cynllun iechyd ar gyfer cyflwyno’r anifail (anifeiliaid) newydd 
  5. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
  6. cymryd camau i gadw anifail (anifeiliaid) newydd wedi eu hynysu o grwpiau eraill am y cyfnod gofynnol, yn unol â mesurau bioddiogelwch
  7. cyflwyno triniaethau a gweithdrefnau penodol i anifeiliaid newydd, fel brechlynnau a chael gwared ar lyngyr, yn unol â chyngor y milfeddyg, cyn eu cyflwyno i grwpiau wedi eu sefydlu neu anifeiliaid eraill 
  8. cyflwyno’r anifail (anifeiliaid) newydd i’r ddeiliadaeth, gan gymryd camau i osgoi unrhyw fwlio corfforol, ymladd a chyswllt â chlefydau
  9. arsylwi iechyd yr anifail (anifeiliaid) yn barhaus a chofnodi eich canfyddiadau
  10. cael cyngor milfeddygol, lle bo angen
  11. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  12. gwneud eich gwaith i gyd yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  13. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y risgiau sydd yn gynhenid i drin a symud anifeiliaid a’r ffordd y gellir lleihau’r rhain
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. pam y mae angen i chi gyflwyno’r anifail (anifeiliaid) newydd a goblygiadau cyflwyno anifeiliaid newydd i grwpiau sydd wedi eu sefydlu
  4. y dulliau o gyflwyno anifeiliaid newydd i ddeiliadaeth 
  5. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  6. sut i weithio gyda’r milfeddyg i greu cynllun iechyd ar gyfer cyflwyno anifeiliaid newydd i ddeiliadaeth 
  7. y triniaethau a’r gweithdrefnau sydd yn angenrheidiol ar yr anifail (anifeiliaid) newydd
  8. statws iechyd cyfredol y grŵp sydd wedi ei sefydlu a’r anifail (anifeiliaid) newydd
  9. beth yw uned ynysu, sut i anfon un a sut dylid ei ddefnyddio
  10. arwyddion cynnar salwch mewn anifeiliaid, beth allai’r rhain fod yn arwydd ohono a’r camau i’w cymryd
  11. y cyfnodau ynysu sydd yn angenrheidiol i ganfod clefydau heintus 
  12. ymddygiad anifeiliaid a’r hyn allai ddigwydd wrth gyflwyno anifeiliaid newydd i grŵp am y tro cyntaf
  13. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  14. eich cyfrifoldebau ar gyfer lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  15. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  16. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP39

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau, Ffermwr, Rheolwr Fferm, Rheolwr Uned, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Tyddynnwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

anifeiliaid; llety; tir pori; cae; praidd; haid; fferm