Cyflwyno ffrwythloni artiffisial i anifeiliaid fferm
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys prif nodweddion cyflwyno ffrwythloni artiffisial i anifeiliaid fferm. Mae ffrwythlondeb yr haid yn ffactor hanfodol mewn unrhyw fenter fridio, ac mae ffrwythloni artiffisial (AI) wedi dod yn weithdrefn flaenllaw yn y broses atgenhedlu ar lawer o unedau bridio. Ar y lefel hon bydd disgwyl i chi gyflwyno pob agwedd ar y broses ffrwythloni.
Mae’r safon hon yn cynnwys proses ffrwythloni artiffisial a rheoli’r weithdrefn o ganfod oestrws ac amseru’r gwasanaeth i gadw cofnodion. Mae’n ofynnol bod gennych brofiad o drin anifeiliaid fferm sy’n oedolion a’ch bod yn gwneud y gweithgareddau hyn yn unol ag arferion busnes.
Wrth weithio gydag anifeiliaid fferm neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am gyflwyno ffrwythloni artiffisial i anifeiliaid fferm sydd wedi cael hyfforddiant priodol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni
gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a storio’r offer gofynnol mewn cyflwr diogel a sterilaidd
cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
cadarnhau bod yr ardal waith yn ddiogel ac yn addas ar gyfer ffrwythloni artiffisial mewn anifeiliaid fferm
nodi’r anifeiliaid fferm i dderbyn ffrwythloni artiffisial
symud a thrin yr anifeiliaid fferm mewn ffordd sy’n debygol o gynnal eich diogelwch eich hun a lleihau straen i’r anifeiliaid fferm
cyflwyno ffrwythloni artiffisial i anifeiliaid fferm gan leihau anesmwythdra gymaint â phosibl tra’n hybu llesiant anifeiliaid
dychwelyd anifeiliaid fferm i adeiladau a’u monitro am unrhyw broblemau a allai ddigwydd
parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i adnabod peryglon ac asesu risg
y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
yr offer sy’n ofynnol a sut i’w baratoi, ei ddefnyddio a’i storio yn ddiogel ac mewn cyflwr sterilaidd
pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
arwyddion oestrws mewn anifeiliaid fferm a’r dyfeisiadau y gellir eu defnyddio i gynorthwyo eu canfod
hyd oestrws ac amseriad ffrwythloni artiffisial i gyflawni beichiogrwydd
y dull cywir o gyflwyno ffrwythloni artiffisial i anifeiliaid fferm
yr amodau arferol lle dylid atal anifeiliaid fferm yn ystod ffrwythloni artiffisial, er mwyn hybu eu llesiant
y dulliau ar gyfer symud anifeiliaid fferm ar gyfer ffrwythloni artiffisial lle gallai eu hymddygiad newid gan bresenoldeb oestrws
y problemau a allai ddigwydd ar ôl i ffrwythloni artiffisial ddigwydd a sut i ymdrin â’r rhain
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
eich cyfrifoldebau ar gyfer llesiant anifeiliaid fferm yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau