Casglu a storio semen anifeiliaid fferm i’w ddefnyddio yn y dyfodol

URN: LANLP37
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cynnwys casglu a storio semen anifeiliaid fferm i’w ddefnyddio yn y dyfodol. Nid yw’n cynnwys casglu semen at ddibenion ei ailwerthu fel y gwneir gan weithredwyr arbenigol.

Mae’r safon hon yn cynnwys nodi anifeiliaid fferm sydd yn addas i gael eu defnyddio at ddibenion bridio, casglu semen, ac asesu’r ansawdd a’i storio’n briodol. Mae’n rhaid i’r dulliau a ddefnyddir ar gyfer casglu semen fod yn addas ar gyfer math a brid yr anifeiliaid fferm cysylltiedig.      

Wrth weithio gydag anifeiliaid fferm neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.

Mae’r safon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn casglu, yn paratoi ac yn storio semen anifeiliaid fferm i’w ddefnyddio yn y dyfodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni

  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas

  3. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer, cyfarpar a’r deunyddiau gofynnol, yn ddiogel ac yn gywir

  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol ag arferion busnes

  5. cadarnhau bod yr ardal waith yn ddiogel ac yn addas ar gyfer casglu semen

  6. adnabod, paratoi a thrin anifeiliaid fferm addas mewn ffordd sy’n debygol o gynnal eich diogelwch eich hun, lleihau straen i anifeiliaid fferm a chynnyrch ac ansawdd y semen

  7. gwneud yr addasiadau angenrheidiol i ddulliau gwaith ac offer trwy gydol y broses

  8. casglu semen gan ddefnyddio dulliau cydnabyddedig

  9. cadarnhau bod y semen sy’n cael ei gasglu o’r ansawdd a’r maint cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol, a chymryd camau pan fydd yn methu bodloni’r manylebau cynhyrchu

  10. dychwelyd anifeiliaid fferm i’w hamgylchedd byw yn ddiogel

  11. trin semen gan ddefnyddio’r dulliau priodol

  12. labelu cynwysyddion storio yn glir ac yn gywir a’u rhoi yn y lleoliad cywir

  13. storio semen ar y tymheredd cywir i’w ddefnyddio yn y dyfodol, yn unol â’r manylebau cynhyrchu

  14. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo

  15. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes

  16. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u storio fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg

  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas ar gyfer y gweithgaredd

  3. y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sy’n ofynnol a sut i baratoi, defnyddio a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir

  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn

  5. pam mae rhai gwrywod yn anaddas at ddibenion bridio a sut i adnabod anifeiliaid fferm sydd yn anaddas ar gyfer casglu semen

  6. y dulliau o baratoi anifeiliaid fferm ar gyfer casglu semen yn ddiogel

  7. y ffyrdd o leihau straen mewn anifeiliaid fferm

  8. y mathau o addasiadau i’r broses ar gyfer casglu a storio semen anifeiliaid fferm a allai fod ei angen

  9. y dulliau o asesu cyflwr y semen

  10. y camau i’w cymryd pan nad yw’r semen yn bodloni manylebau cynhyrchu

  11. y ffordd y dylid trin a storio semen i gynnal ei ansawdd

  12. y ffyrdd y mae’n rhaid labelu semen ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol

  13. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn

  14. eich cyfrifoldebau ar gyfer llesiant anifeiliaid fferm, codau ymarfer a pholisïau busnes

  15. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes

  16. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP37

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Fferm, Technegydd Amaethyddol

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

anifeiliaid fferm; anifail; cynhyrchu; semen; ffrwythloni artiffisial; AI