Monitro a chynnal gori a thwf adar ifanc
URN: LANLP36
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal gori a thwf adar ifanc.
Rydych yn debygol o fod â chyfrifoldeb cyffredinol dros y rhan yma o gynhyrchu a chael cymorth yn y rhinwedd hon gan weithwyr eraill. Bydd angen gwybodaeth drwyadl a sgiliau ymarferol arnoch ac mae’n rhaid eich bod yn gallu nodi a datrys problemau sydd yn digwydd.
Mae’r safon hon yn cynnwys sicrhau bod yr ardaloedd gori a thwf a’r amodau amgylcheddol yn unol â gofynion cynhyrchu.
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am fonitro a chynnal gori a thwf adar ifanc.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
- cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
- cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a’r deunyddiau angenrheidiol yn cael eu dethol, eu paratoi, eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw, yn ddiogel ac yn gywir
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
- cadarnhau bod y llety a’r ardaloedd gori/tyfu yn cael eu sefydlu’n gywir ar gyfer derbyn adar diwrnod oed ac ifanc
- monitro a chynnal yr amodau amgylcheddol, yn unol â gofynion cynhyrchu
- cadarnhau bod adar ifanc yn cael eu symud i’r ardaloedd gori/tyfu yn y niferoedd angenrheidiol ac mewn ffordd sydd yn cynnal eu hiechyd a’u lles
- monitro’r amodau byw yn rheolaidd a lle y bo’n briodol, eu haddasu i wella twf i fodloni targedau cynhyrchu
- cadarnhau bod cyflenwadau bwyd a dŵr yn cael eu monitro a’u hadnewyddu, fel sydd yn ofynnol gan y system gynhyrchu ac yn unol â gofynion cynhyrchu
- monitro bod twf adar ifanc yn bodloni targedau cynhyrchu
- monitro iechyd a lles adar ifanc a chadarnhau bod y camau cywir yn cael eu cymryd i ymdrin ag adar sâl neu wedi eu niweidio
- cael a gwerthuso cyngor arbenigol lle bo angen, yn cynnwys eich milfeddyg
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’r gwaith
- rheoli gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â deddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sydd eu hangen a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y mathau o lety ar gyfer systemau cynhyrchu gwahanol a sut i’w sefydlu
- y ffordd y gall y tymhorau a’r tywydd effeithio ar ori/twf adar ifanc
- yr amodau amgylcheddol sydd eu hangen gan y rhywogaeth arbennig a’r cyfnod datblygu, ac effaith bosibl unrhyw newidiadau ar gynhyrchu
- sut i fonitro a chynnal yr amodau amgylcheddol
- y gofynion cynhyrchu a sut i fonitro a chynnal targedau yn ymwneud â gori/twf adar ifanc
- y ffordd y dylid archwilio a thrin adar ifanc, a gofynion codau lles mewn perthynas â symud adar ifanc
- datblygiad ffisiolegol cywir yr adar ifanc
- y dwyseddau stoc angenrheidiol ar gyfer y rhwyogaeth a’r cyfnod datblygu a’r ffordd y mae hyn yn effeithio ar dwf a chynhyrchiant
- gofynion cywir deiet a dŵr ar gyfer y rhywogaeth a’r cyfnod datblygu ac effaith bosibl unrhyw newid
- ffynonellau dibynadwy cyngor arbenigol, yn cynnwys eich milfeddyg
- y camau i’w cymryd i ymdrin ag adar sâl neu wedi eu niweidio a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer difa dyngarol
- y camau i’w cymryd os bydd methiant cyflenwad neu gamweithrediad cyfarpar
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith a’r ffordd y dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd bodloni safonau diogelwch bwyd a sicrhau ansawdd perthnasol y diwydiant
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraf, yn cynnwys carcasau, yn unol ag arferion cyfreithiol a busnes perthnasol
- eich cyfrifoldebau dros les adar yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol a chodau ymarfer
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan y busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLP36
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Rheolwr Uned, Goruchwyliwr, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
dofednod; aderyn; iâr; twrci; gori