Monitro a chynnal y gwaith o ddeor ac anfon dofednod
URN: LANLP35
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2019
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal y gwaith o ddeor ac anfon dofednod.
Rydych yn debygol o fod â chyfrifoldeb cyffredinol dros y rhan hon o’r cynhyrchu a chael cymorth yn y rhinwedd hon gan weithwyr eraill. Bydd angen gwybodaeth drwyadl arnoch a sgiliau ymarferol ac mae’n rhaid eich bod yn gallu nodi a datrys unrhyw broblemau sydd yn digwydd.
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar yr ardystiad cywir, lle bo angen.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am fonitro a chynnal y gwaith o ddeor ac anfon dofednod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
- cadarnhau bod dillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
- cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a’r deunyddiau sydd eu hangen yn cael eu dethol, eu paratoi, eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw yn ddiogel ac yn gywir
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
- cynllunio safle wyau a monitro safle wyau, yn unol â gofynion cynhyrchu
- monitro a chynnal yr amodau amgylcheddol, yn unol â gofynion cynhyrchu
- monitro cyflwr dofednod sydd newydd ddeor a chadarnhau eu bod yn cael eu trosglwyddo ymlaen yn gywir ar gyfer pennu rhyw a/neu eu rhoi mewn blychau
- cadarnhau bod adar o dan y safon yn cael eu nodi a’u gwaredu gan ddefnyddio’r dulliau cywir
- monitro’r gwaith o baratoi dofednod sydd newydd ddeor a chadarnhau eu bod yn barod ar gyfer eu hanfon
- monitro a chynnal y gwaith o anfon dofednod sydd newydd ddeor
- cadarnhau bod y cyfarpar yn cael ei adael mewn cyflwr glân ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’r gwaith
- rheoli gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau busnes
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u storio fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sydd eu hangen a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- amodau sefydlu, defnyddio a gweithredu deorwyr a chyfarpar deor
- sut i fonitro gofynion cynhyrchu ar gyfer deor wyau
- y safle a gynlluniwyd ar gyfer wyau a phwysigrwydd hyn i’r cynhyrchu
- sut i fonitro a chynnal yr amodau amgylcheddol i hyrwyddo deor, a’r addasiadau angenrheidiol i’r system a allai fod yn angenrheidiol
- sut i fonitro’r gwaith o drin a throsglwyddo dofednod sydd newydd ddeor
- sut i adnabod adar sydd islaw’r safon a’r dull cywir ar gyfer eu gwaredu yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- y dulliau o baratoi dofednod sydd newydd ddeor ar gyfer eu hanfon a’u cludo
- y ffyrdd cywir o roi dofednod sydd newydd ddeor mewn blychau
- y brechlynnau a’r profiotigau y gellir eu rhoi i ddofednod
- y mathau o broblemau cynhyrchu a allai ddigwydd a’r camau i’w cymryd os ydynt yn digwydd
- y dulliau ar gyfer glanhau’r ardal ddeor a pham y mae’n bwysig monitro bod hyn wedi cael ei wneud
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith a’r ffordd y dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd bodloni safonau diogelwch bwyd a sicrhau ansawdd perthnasol y diwydiant
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol ag arferion cyfreithiol a busnes perthnasol
- eich cyfrifoldebau dros les adar yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol a chodau ymarfer
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan y busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLP35
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Rheolwr Uned, Goruchwyliwr, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
wyau; adar; iâr; dofednod; deorfa