Monitro a chynnal y gwaith o ddeori wyau

URN: LANLP34
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal y gwaith o ddeori wyau wrth gynhyrchu mewn deorfa. Gallai’r system fod â llaw neu’n fecanyddol.
   
Rydych yn debygol o fod â chyfrifoldeb cyffredinol dros y rhan yma o’r cynhyrchu a chael cymorth yn y rhinwedd hon gan weithwyr eraill. Bydd angen bod gennych wybodaeth sylweddol a sgiliau ymarferol ac mae’n rhaid eich bod yn gallu nodi a datrys unrhyw broblemau sydd yn digwydd.
 
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad gyfredol, lle bo angen.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb dros fonitro a chynnal y gwaith o ddeori wyau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
  3. cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a’r deunyddiau sydd eu hangen yn cael eu dethol, eu paratoi, eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw’n ddiogel ac yn gywir
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
  5. monitro a chynnal yr ardaloedd deori er mwyn sicrhau eu bod yn lân, yn ddiogel ac yn barod i’w defnyddio
  6. monitro’r system ar gyfer dethol wyau i gael eu deori
  7. monitro dethol wyau ar gyfer deori, yn unol ag amserau penodol a chynllun y ddeorfa
  8. monitro’r gwaith o lwytho wyau i mewn i’r dehorydd
  9. monitro a chynnal system larwm y dehorydd er mwyn sicrhau ei fod yn gweithio’n gywir a chymryd y camau priodol os nad ydyw
  10. monitro a chynnal yr amodau amgylcheddol yn y dehorydd, yn unol â gofynion cynhyrchu
  11. gwirio ffrwythlondeb wyau ar y cyfnodau cywir a chymryd y camau priodol yn seiliedig ar y dehongliad o’r canlyniadau
  12. cadarnhau bod wyau’n cael eu dethol ar gyfer trosglwyddo a deor yn unol â gofynion cynhyrchu
  13. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’r gwaith
  14. rheoli gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
  15. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  16. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u storio fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sydd eu hangen a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  5. y gofynion cynhyrchu a’r safonau sydd eu hangen ar gyfer deori a deor
  6. gofynion amseru’r system ddeori, beth allai effeithio ar y rhain a’r camau unioni angenrheidiol
  7. y ffyrdd y mae’n rhaid i wyau gael eu llwytho i mewn i’r dehorydd, y rhesymau dros hyn, a goblygiadau peidio â llwytho’r wyau yn gywir
  8. diben larymau sydd yn gweithio a’r ffordd y cânt eu monitro a’u cynnal a’u cadw
  9. yr amodau amgylcheddol cywir sydd yn ofynnol yn y dehorydd, y ffordd y caiff y rhain eu monitro a’u cynnal a’r addasiadau i’r system a allai fod yn angenrheidiol
  10. y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth ddeori wyau a’r camau angenrheidiol i’w cymryd 
  11. goblygiadu system yn methu
  12. y dulliau a’r cyfnodau cywir ar gyfer gwirio ffrwythlondeb wyau, y ffordd y caiff y wybodaeth yma ei defnyddio a’r camau i’w cymryd pan fydd problemau’n codi
  13. pryd mae’r wyau’n barod i gael eu trosglwyddo a’r ffordd y caiff y trosglwyddo ei gyflawni
  14. pryd ac i bwy y dylid anfon gwybodaeth ymlaen a pham y mae’n rhaid bodloni terfynau amser
  15. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  16. pwysigrwydd bodloni safonau diogelwch bwyd a sicrhau ansawdd perthnasol y diwydiant
  17. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol ag arferion cyfreithiol a busnes perthnasol
  18. eich cyfrifoldebau ar gyfer lles adar yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol a chodau ymarfer
  19. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol a pholisïau busnes
  20. y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan y busnes


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP34

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Uned, Goruchwyliwr, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

wyau; adar; iâr; twrci; dodwy; deori; deorfa