Monitro a chynnal y gwaith o gasglu a graddio wyau

URN: LANLP32
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal y gwaith o gasglu a graddio wyau ar gyfer eu cludo naill ai i ddeorfa neu i’w gwerthu. Gall casglu a graddio fod â llaw neu’n fecanyddol.
   
Mae’r safon hon yn ymwneud ag amrywiaeth o systemau a gallai gynnwys un neu fwy o’r canlynol:
monitro a chynnal y gwaith o gasglu a phacio wyau yn barod i fynd â nhw i’r graddiwr neu i’r orsaf bacio
monitro a chynnal y gwaith o gasglu a rhoi wyau ar hambyrddau yn barod i fynd â nhw ar gyfer eu deori, a phacio wyau nad ydynt yn addas ar gyfer deori
monitro a chynnal y gwaith o gasglu a pharatoi wyau i gael eu graddio ar raddiwr ar-lein, lle mae wyau’n cael eu cludo i’r graddiwr ar gludydd.
   
Rydych yn debygol o gael cyfrifoldeb cyffredinol dros y rhan hon o’r cynhyrchu a chael cymorth yn y rhinwedd hon gan weithwyr eraill. Bydd angen gwybodaeth a sgiliau ymarferol sylweddol arnoch ac mae’n rhaid eich bod yn gallu nodi a datrys unrhyw broblemau sydd yn digwydd.

Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael eich hyfforddi, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am fonitro a chynnal y gwaith o gasglu a graddio wyau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
  3. cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a’r deunyddiau sydd eu hangen yn cael eu dethol, eu paratoi, eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw yn ddiogel ac yn gywir
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
  5. monitro a chynnal y gwaith o gasglu wyau, yn unol â gofynion cynhyrchu ac arferion busnes
  6. cadarnhau bod y dulliau o gasglu a ddefnyddir yn lleihau straen i’r adar, a’u bod yn unol â’r codau lles perthnasol
  7. cadarnhau bod yr wyau’n cael eu casglu ar yr adeg gywir o’r dydd, ac ar gyfnodau sy’n cynyddu nifer yr wyau sy’n cael eu casglu
  8. monitro niwed i wyau a rhoi gweithdrefnau yn eu lle i leihau niwed
  9. monitro ymdrin a graddio wyau a nodi unrhyw wyriadau o’r dulliau trin cywir, a chymryd y camau perthnasol
  10. cadarnhau bod marciau nodi’n glir ac yn unol ag arferion busnes
  11. cadarnhau bod wyau’n cael eu storio mewn amodau glân 
  12. monitro ac addasu storio wyau i’w cynnal yn yr amodau amgylcheddol priodol
  13. cadarnhau bod wyau’n cael eu graddio/pacio mewn cynwysyddion priodol mewn ffordd sy’n lleihau niwed wrth gludo
  14. cadarnhau bod yr ardal storio wyau yn ddiogel ac yn gadarn, a’i haddasu os oes angen, yn unol ag arferion busnes
  15. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’r gwaith
  16. rheoli gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
  17. gwneud eich gwaith i gyd yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  18. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â chasglu a graddio wyau
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y math o offer, cyfarpar a deunyddiau sydd yn angenrheidiol a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  5. y dulliau a’r systemau sefydliadol ar gyfer casglu wyau
  6. y ffordd y gall casglu wyau gynyddu cynhyrchiant
  7. sut i leihau straen mewn adar wrth gasglu’r wyau
  8. pwysigrwydd amseru cywir wrth gasglu wyau
  9. y ffordd y gall y system casglu wyau niweidio wyau a’r ffordd y caiff hyn ei leihau
  10. y problemau a allai ddigwydd wrth gasglu wyau yn y system a’r camau y dylid eu cymryd 
  11. y gofynion cynhyrchu ar gyfer niferoedd wyau, y rhesymau pam y mae niferoedd yn amrywio, a’r camau i’w cymryd yn yr achos hwn
  12. y categorïau gwahanol o wyau 
  13. arwyddion ansawdd plisg/ŵy gwael a’r camau i’w cymryd yn yr achos hwn
  14. y ffordd y mae wyau’n cael eu halogi, a’r camau i’w cymryd i atal hyn
  15. pwysigrwydd a swyddogaeth marciau nodi
  16. y dulliau gwahanol o raddio a pharatoi neu bacio wyau i gynyddu eu gallu i ddeor a/neu gynyddu nifer yr wyau o ansawdd uchel
  17. yr amodau storio priodol ar gyfer yr wyau, yn unol â’u cyrchfan a’r dulliau o fonitro’r wyau sy’n cael eu storio
  18. effeithiau amodau storio amhriodol
  19. y mathau a chyflwr cynwysyddion storio, a’r problemau a allai ddigwydd gyda nhw
  20. y dulliau a ddefnyddir i leihau’r niwed i wyau wrth eu cludo
  21. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith
  22. pwysigrwydd bodloni safonau diogelwch bwyd a sicrwydd ansawdd y diwydiant
  23. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r arferion cyfreithiol a busnes perthnasol
  24. eich cyfrifoldebau dros les adar yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol a chodau ymarfer
  25. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  26. y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan y busnes


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP32

Galwedigaethau Perthnasol

Crefftau, Ffermwr, Rheolwr Uned, Goruchwyliwr, Tyddynnwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

dofednod; adar; wyau; gradd