Monitro a chynnal cynhyrchiant wyau
URN: LANLP31
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2022                        
                    
                Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal cynhyrchiant wyau trwy gynnal haid o adar sydd yn dodwy.
Caiff cynhyrchu wyau ei fonitro o’r pwynt dodwy hyd nes bod yr haid wedi symud/cael eu lladd. Mae’n cynnwys cyflawni’r gweithgareddau angenrheidiol i ddod ag adar i ddodwy, ar yr adeg iawn, ac i gynhyrchu’r nifer gorau o wyau.
Rydych yn debygol o fod â chyfrifoldeb cyffredinol dros y rhan hon o’r cynhyrchu a chael cymorth yn rhinwedd y swydd hon gan weithwyr eraill. Bydd angen gwybodaeth a sgiliau ymarferol sylweddol arnoch ac mae’n rhaid eich bod yn gallu nodi a datrys unrhyw broblemau sydd yn digwydd.
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar yr ardystiad cywir lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am fonitro a chynnal cynhyrchiant wyau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
- cadarnhau bod dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu gwisgo
- cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a’r deunyddiau angenrheidiol yn cael eu dewis, eu paratoi, eu defnyddio a’u cynnal a’u cadw yn ddiogel ac yn gywir
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
- monitro cynhyrchiant wyau yn erbyn y cynllun cynhyrchu wyau
- monitro a chynnal adnoddau i gynyddu cynhyrchiant wyau
- monitro datblygiad a chynhyrchiant yr adar yn rheolaidd, a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol
- monitro a chynnal yr amodau amgylcheddol priodol, yn unol â gofynion busnes
- monitro ymddygiad yr adar, nodi pryderon, a chymryd y camau perthnasol
- monitro a chynnal ansawdd wyau, nodi pryderon yn ymwneud ag ansawdd wyau, a chymryd y camau perthnasol
- nodi ffactorau sy’n effeithio ar berfformiad yr wyau, a chymryd y camau perthnasol
- cael a gwerthuso cyngor arbenigol lle bo angen, yn cynnwys eich milfeddyg
- dehongli’r cofnodion cynhyrchu, a chymryd y camau angenrheidiol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’r gwaith
- rheoli gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cadw a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â chynnal cynhyrchiant wyau
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sydd eu hangen, a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- yr adnoddau sydd eu hangen i wella lles a chynhyrchiant adar
- pwysigrwydd monitro datblygiad a chynhyrchiant adar i’r busnes
- y camau i’w cymryd pan nad yw perfformiad yn bodloni cynlluniau cynhyrchu
- pwysigrwydd monitro a chynnal yr amodau amgylcheddol
- y newidiadau sydd yn gallu digwydd mewn amodau amgylcheddol, a’r camau i’w cymryd yn yr achos hwn
- ymddygiad arferol ac anarferol yr adar
- y ffyrdd o fonitro a chynnal cynhyrchiant ac ansawdd wyau
- lefelau cynhyrchu gorau yr adar
- y ffactorau sy’n effeithio ar lefel perfformiad yr adar, a’r camau i’w cymryd i wella’r perfformiad
- ffynonellau dibynadwy cyngor arbenigol, yn cynnwys eich mifeddyg
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith a’r ffordd y dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd bodloni safonau sicrhau ansawdd perthnasol diogelwch bwyd a’r diwydiant
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r arferion cyfreithiol a busnes perthnasol
- eich cyfrifoldebau dros les adar yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid a’r codau ymarfer perthnasol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan y busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amodau amgylcheddol: 
•   tywydd
•    lleithder
• tai
•   deunydd gwely
• golau
• gwres
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        LANLP31
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Rheolwr Uned, Goruchwyliwr, Tyddynnwr, Crofftwr        
    
Cod SOC
        5111
        
    
Geiriau Allweddol
            dofednod; adar; deor; dodwy; wyau