Monitro a chynnal y gwaith o baratoi adar ar gyfer eu ffrwythloni
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal y gwaith o baratoi adar yn barod ar gyfer eu ffrwythloni. Gall ffrwythloni ddigwydd trwy ffrwythloni artiffisial (AI) neu trwy ddulliau naturiol.
Mae'r safon hon yn cynnwys cynllunio gofynion adar ar gyfer eu ffrwythloni a sicrhau bod adar yn cael eu trin yn unol â'r gofynion llesiant perthnasol.
Rydych yn debygol o fod â chyfrifoldeb cyffredinol dros y rhan hon o'r cynhyrchu a chael cefnogaeth gweithwyr eraill yn rhinwedd y swydd hon. Bydd angen gwybodaeth a sgiliau ymarferol sylweddol arnoch ac mae'n rhaid eich bod yn gallu nodi a datrys problemau sydd yn digwydd.
Wrth weithio gydag anifeiliaid fferm neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gyfrifol am fonitro a chynnal y gwaith o baratoi adar ar gyfer eu ffrwythloni.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
- cadarnhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas yn cael eu gwisgo
- cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a'r deunyddiau gofynnol yn cael eu dewis, eu paratoi, eu defnyddio a'u cynnal a'u cadw yn ddiogel ac yn gywir
- monitro systemau ar gyfer adnabod adar sydd yn addas i gael eu ffrwythloni
- cadarnhau addasrwydd adar ar gyfer dibenion bridio, yn unol â'r cynllun atgenhedlu
- monitro cyflwr corfforol adar a'u parodrwydd i gael eu ffrwythloni
- dewis adar i gael eu ffrwythloni ar yr amser gorau yn unol â'r cynllun atgenhedlu
- monitro'r gwaith o baratoi adar ar gyfer eu ffrwythloni
- monitro a chynnal yr amodau amgylcheddol er mwyn sicrhau bod ffrwythloni'n digwydd, yn unol â'r cynllun atgenhedlu
- monitro a chynnal y gwaith o drin a chasglu adar, yn unol â gofynion deddfwriaethol a llesiant perthnasol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'r gwaith
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
- rheoli gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â deddfwriaeth berthnasol ac arferion busnes
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau'r sefydliad
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a'u storio fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sy'n ofynnol a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- sut i fonitro addasrwydd neu anaddasrwydd yr adar i gael eu ffrwythloni
- y dulliau gwahanol o ffrwythloni adar
- y system a ddefnyddir gan y busnes ar gyfer adnabod a chasglu adar i gael eu ffrwythloni
- y ddeddfwriaeth a'r codau ymarfer perthnasol mewn perthynas â ffrwythloni
- sut i asesu parodrwydd yr adar i gael eu ffrwythloni
- sut gallai newidiadau yng nghyflwr corfforol yr adar effeithio ar eu cylch atgenhedlu, ffrwythloni a'r camau i'w cymryd i unioni hyn
- y ffyrdd o fonitro cyflwr corfforol ac ymddygiad yr adar
- sut i baratoi adar i gael eu ffrwythloni trwy ffrwythloni naturiol ac artiffisial
- y dos gofynnol o semen a defnydd a diben teneuwr os oes angen
- proses ffrwythloni artiffisial mewn adar
- yr amodau amgylcheddol cywir sy'n ofynnol ar gyfer ffrwythloni
- gofynion yr adar o ran porthiant a dŵr a sut dylid cyflenwi'r rhain
- y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth baratoi adar ar gyfer eu ffrwythloni a sut dylid eu trin
- diben y cynllun atgenhedlu a phwysigrwydd cadw cofnodion
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- pwysigrwydd bodloni safonau diogelwch bwyd perthnasol a safonau sicrhau ansawdd y diwydiant
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff; yn unol ag arferion cyfreithiol a busnes perthnasol
- eich cyfrifoldebau dros lesiant adar yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid a chodau ymarfer perthnasol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan y busnes