Sefydlu a chadarnhau beichiogrwydd mewn anifeiliaid

URN: LANLP3
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys sefydlu a chadarnhau beichiogrwydd, trwy ddulliau naturiol neu â chymorth, mewn anifeiliaid. Mae atgenhedlu anifeiliaid yn rhan hanfodol o lawer o fentrau anifeiliaid.
   
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant priodol, ac yn medu ar ardystiad perthnasol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb dros sefydlu a chadarnhau beichiogrwydd mewn anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer, y cyfarpar a’r deunyddiau angenrheidiol, yn ddiogel ac yn gywir
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol ag arferion busnes
  5. monitro cyflwr corfforol yr anifeiliaid a sicrhau bod stoc dethol yn addas ac yn y cyflwr cywir ar gyfer bridio, yn unol â’r cynlluniau bridio 
  6. paratoi’r anifeiliaid ar gyfer bridio, yn unol â’r cynlluniau bridio 
  7. monitro anifeiliaid am arwyddion o wres cyn bridio 
  8. symud anifail/anifeiliaid ar gyfer bridio i ardal ddynodedig, fel y bo angen
  9. defnyddio’r dulliau naturiol neu â chymorth angenrheidiol i sefydlu ffrwythloni/beichiogrwydd, yn unol â’r cynlluniau bridio
  10. monitro anifeiliaid am arwyddion o wres ar ôl gwasanaeth 
  11. defnyddio’r dull perthnasol i wirio a chadarnhau beichiogrwydd, yn unol â’r cynlluniau bridio, a chymryd y camau perthnasol
  12. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  13. gwneud eich gwaith i gyd yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  14. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â sefydlu a chadarnhau beichiogrwydd mewn anifeiliaid
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  4. y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sydd yn angenrheidiol ar gyfer cynorthwyo gyda sefydlu a chadarnhau beichiogrwydd mewn anifeiliaid, a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir, yn cynnwys y defnydd o dechnoleg
  5. y ffordd y gallai amodau maeth ac iechyd effeithio ar genhedlu a beichiogrwydd, yn cynnwys pwysigrwydd cyflawni a chynnal y sgôr cyflwr cywir ar gyfer yr anifail yn ystod pob cyfnod 
  6. y dulliau naturiol ac â chymorth gwahanol o sefydlu ffrwythloni a/neu feichiogrwydd mewn rhywogaethau gwahanol o anifeiliaid a phwysigrwydd amseru
  7. ymreolaeth systemau atgenhedlu gwrywaidd a benywaidd yr anifeiliaid ar gyfer yr anifeiliaid yr ydych yn gweithio gyda nhw
  8. sut i nodi anifeiliaid sydd yn addas ar gyfer bridio a’u dulliau o baratoi 
  9. y ffactorau sydd yn dylanwadu ar gyfraddau cenhedlu
  10. cylchoedd bridio’r anifeiliaid ac arwyddion o wres
  11. y ffordd y gall amodau amgylcheddol effeithio ar gylch bridio anifeiliaid
  12. y dulliau gwahanol o wirio a chadarnhau beichiogrwydd a’r camau i’w cymryd os cadarnheir bod anifeiliaid yn feichiog neu ddim yn feichiog
  13. yr arwyddion sy’n dynodi beichiogrwydd nas cynlluniwyd a’r camau angenrheidiol i’w cymryd
  14. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  15. eich cyfrifoldebau dros les anifeiliaid yn unol â deddfwraieth berthnasol iechyd a lles anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau busnes
  16. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes
  17. y cofnodion sydd angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai sefydlu ffrwythloni/beichiogrwydd fod trwy: 
ffrwythloni artiffisial, ffrwythloni naturiol, trosglwyddo embryo 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP3

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Fferm Foch, Cynghorydd Technegol Amaethyddol, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

anifail; bridio; ffrwythloni; naturiol; ffrwythloni artiffisial; cylch atgenhedlu; trosglwyddo embryo