Deor a thyfu adar ifanc
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys deor a thyfu adar ifanc.
Bydd deor a thyfu adar yn cynnwys monitro a chynnal yr amodau amgylcheddol priodol, trin yr adar yn gywir a monitro twf yr adar.
Wrth weithio gydag anifeiliaid fferm neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â deor a thyfu adar ifanc.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
bod yn ymwybodol o’r peryglon sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni
gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r offer, cyfarpar a’r deunyddiau, yn ddiogel ac yn gywir
gwirio bod ardaloedd deor/tyfu a’r amodau amgylcheddol yn addas ar gyfer derbyn adar ifanc
cynnal ardaloedd a’r amgylchedd deor/tyfu, yn unol â’r cyfarwyddiadau
symud adar ifanc i’r ardaloedd deor/tyfu yn y niferoedd gofynnol, i gynnal eu hiechyd a’u llesiant
gwirio’r amodau amgylcheddol, yn unol â’r cyfarwyddiadau
monitro ac adnewyddu cyflenwadau bwyd a dŵr ar gyfer yr adar ifanc, pan fo angen
monitro ymddygiad yr adar ifanc a chymryd y camau priodol i hybu eu hiechyd a’u llesiant
symud ac ymdrin ag adar sâl neu wedi eu niweidio yn y ffordd gywir
gwirio, yn unol â’r cyfarwyddiadau, bod twf yr adar ifanc yn bodloni’r targedau cynhyrchu a hysbysu ynghylch unrhyw faterion, yn unol â’r cyfarwyddiadau
parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith
cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol â’r cyfarwyddiadau
prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r cyfarwyddiadau
gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y peryglon sydd yn gysylltiedig â deor a thyfu adar ifanc
y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sy’n ofynnol a sut i’w paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a'u cadw a'u storio yn ddiogel ac yn gywir
yr amodau amgylcheddol sy’n ofynnol i gynyddu twf ac iechyd a llesiant
yr amodau gwasarn cywir ar gyfer deor/tyfu adar ifanc
sut dylid trin adar ifanc a gofynion codau llesiant perthnasol mewn perthynas â symud adar ifanc
y gofynion ar gyfer cyflenwad bwyd a dŵr a sut y caiff y rhain eu cynnal
y dangosyddion iechyd a’r dulliau ar gyfer adnabod a thrin adar sâl neu wedi eu niweidio, yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer didoli trugarog
y mathau o broblemau gyda deor/tyfu adar ifanc a’r camau cywir i’w cymryd, o fewn terfynau eich cyfrifoldeb
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd orau o wneud hyn
y gofynion hylendid a bioddiogelwch mewn perthynas â deor a thyfu adar ifanc
pwysigrwydd bodloni safonau diogelwch bwyd perthnasol a safonau sicrhau ansawdd y diwydiant
sut i brosesu’r mathau gwahanol o wastraff sy’n cael ei gynhyrchu gan y gweithgaredd, yn cynnwys carcasau
eich cyfrifoldebau dros lesiant adar yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid perthnasol a chodau ymarfer
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
y dulliau rheoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan y busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig