Deor wyau a dosbarthu dofednod
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys deor wyau a dosbarthu dofednod, yn unol â’r cyfarwyddiadau. Mae’n cynnwys y gwaith sy’n cael ei wneud mewn deorfa. Mae’n rhaid cynnal y gweithdrefnau hylendid cywir trwy gydol y gweithgareddau.
Wrth weithio gydag anifeiliaid fferm neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn deor wyau ac yn dosbarthu dofednod.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
bod yn ymwybodol o’r peryglon sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni
gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r offer, y cyfarpar a’r deunyddiau gofynnol, yn ddiogel ac yn gywir
gwirio bod y deorwyr a’r offer mewn cyflwr addas ar gyfer deor wyau
derbyn a gosod wyau y tu mewn i’r deorwr
sicrhau bod yr amodau amgylcheddol cyn deor yn unol â gofynion y system
gwirio cyflwr dofednod sydd newydd ddeor a’u trosglwyddo ymlaen i gael nodi eu rhyw a/neu eu rhoi mewn blychau
adnabod a gwaredu cynnyrch islaw’r safon yn unol â’r cyfarwyddiadau
paratoi dofednod sydd newydd ddeor i’w dosbarthu, yn unol â’r cyfarwyddiadau
cadw’r ardal waith a’r amodau amgylcheddol mewn cyflwr addas trwy gydol y gweithrediadau
parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith
cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol â’r cyfarwyddiadau
prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r cyfarwyddiadau
gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y peryglon sydd yn gysylltiedig â deor wyau a dosbarthu dofednod
y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sy’n ofynnol a sut i’w paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir
y defnydd o ddeorwyr ac offer deor
safle’r wyau yn y deorwr a’r dylanwad y mae hyn yn ei gael ar gynhyrchu
yr amodau amgylcheddol gofynnol i hybu deor
y dulliau ar gyfer glanhau’r ardal ddeor a’r rheswm pam y mae hyn yn bwysig
y dulliau o baratoi dofednod sydd newydd ddeor ar gyfer eu dosbarthu a’u cludo
y ffyrdd cywir o roi’r dofednod sydd newydd ddeor mewn blychau
y rhesymau pam y mae angen i’r dofednod sydd newydd ddeor gael eu trosglwyddo i nodi eu rhyw a/neu eu rhoi mewn blychau
sut i adnabod cynnyrch islaw’r safon a’r camau i’w cymryd
yr amodau gofynnol yn yr ardal waith
terfynau eich cyfrifoldeb ar gyfer deor wyau a dosbarthu dofednod
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith a sut dylid gwneud hyn
pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau o gyflawni hyn
pwysigrwydd bodloni safonau sicrhau ansawdd perthnasol ar gyfer diogelwch bwyd a’r diwydiant
sut i brosesu’r mathau gwahanol o wastraff sy’n cael eu creu gan y gweithgaredd
eich cyfrifoldebau o ran llesiant adar yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid perthnasol a chodau ymarfer
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan y busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig