Paratoi, llwytho a deori wyau
URN: LANLP27
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi, llwytho a deori wyau ar gyfer deor yn unol â'r cyfarwyddiadau.
Wrth weithio gydag anifeiliaid fferm neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn paratoi, llwytho a deori wyau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer, cyfarpar a'r deunyddiau gofynnol, yn ddiogel ac yn gywir
- paratoi'r ardal a'r amgylchedd deori yn ddiogel, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- lwytho wyau i mewn i'r deorydd yn gywir, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cynorthwyo'r gwaith o wirio system larwm y deorydd
- deori wyau yn unol â'r cyfarwyddiadau
- monitro'r deori a hysbysu ynghylch unrhyw namau gydag amgylchedd y deorydd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cynorthwyo'r gwaith o wirio ffrwythlondeb wyau yn ystod y cyfnodau gofynnol, yn unol â gofynion busnes
- dewis wyau ar gyfer eu deor a'u trosglwyddo gan ddefnyddio'r dulliau cywir, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon sydd yn gysylltiedig â pharatoi, llwytho a deori wyau
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sy'n ofynnol a sut i'w paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a'u cadw a'u storio yn ddiogel ac yn gywir
- y dulliau o baratoi'r ardal ddeori a'r amgylchedd
- gofynion amseru'r system ddeori
- y ffyrdd y dylid llwytho wyau i mewn i'r deorydd
- y dulliau a'r rhesymau dros fonitro amgylchedd y deorydd
- yr arwyddion bod angen addasu amgylchedd y deorydd a'r camau i'w cymryd mewn achos fel hyn
- y defnydd o larymau a'r camau i'w cymryd os bydd larwm yn seinio
- y dulliau o wirio ffrwythlondeb wyau
- sut i wybod bod yr wyau yn barod i'w trosglwyddo
- terfynau eich cyfrifoldeb dros baratoi, llwytho a deori wyau
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- pwysigrwydd bodloni safonau diogelwch bwyd a sicrhau ansawdd perthnasol y diwydiant
- sut i brosesu'r mathau gwahanol o wastraff a gynhyrchir gan y gweithgaredd
- eich cyfrifoldebau dros lesiant adar yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid a chodau ymarfer perthnasol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan y busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLP27
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Fferm Dofednod
Cod SOC
9111
Geiriau Allweddol
dofednod; iâr; wyau; twrci; fferm; deorfa