Derbyn a dewis wyau ar gyfer deor
URN: LANLP26
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2019
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys derbyn a dewis wyau ar gyfer deor. Mae'n ofynnol arnoch chi i nodi wyau sydd yn dod i mewn yn gywir o ran ffynhonnell a chodau. Mae'n ofynnol arnoch hefyd i wirio bod yr wyau ar y lefel gywir o lanweithdra, yn unol â'r cyfarwyddiadau.
Wrth weithio gydag anifeiliaid fferm neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn derbyn ac yn dewis wyau ar gyfer deor.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer, cyfarpar a'r deunyddiau gofynnol, yn ddiogel ac yn gywir
- sicrhau bod yr ardal waith yn ddiogel ac yn addas i'w defnyddio
- derbyn wyau sydd yn dod i mewn yn gywir yn ôl ffynhonnell, rhif a chôd
- sicrhau bod yr wyau ar y lefel gywir o lanweithdra, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- dewis wyau yn barod ar gyfer eu deori a'u deor
- trin, graddio a rhoi wyau ar hambyrddau yn barod ar gyfer deori a'u deor yn unol â'r cyfarwyddiadau
- symud a gwaredu wyau sydd yn anaddas ar gyfer eu deori, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- adnabod a storio wyau sydd wedi eu dewis, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cynnal yr amgylchedd storio yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gadael yr ardal waith a'r offer mewn cyflwr sydd yn addas ar gyfer ei ddefnyddio ar ôl hynny
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith
- cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â'r cyfarwyddiadau
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a'r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon sydd yn gysylltiedig â derbyn a dewis wyau ar gyfer deor
- y mathau o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sy'n ofynnol a sut i'w paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a'u chadw a'u storio'n ddiogel ac yn gywir
- y dulliau ar gyfer adnabod y ffynhonnell, rhif a'r côd wrth dderbyn wyau
- y wybodaeth sydd yn angenrheidiol wrth i wyau ddod i mewn a sut dylid cofnodi hyn
- amodau amgylcheddol gofynnol yr amgylchedd storio
- y ffyrdd y dylid trin yr wyau, eu rhoi ar hambyrddau a'u storio
- sut i ddefnyddio cemegau yn ddiogel, ar y cyfraddau gwanhau cywir, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- y dulliau o ddewis a graddio wyau a sut i waredu wyau sydd yn anaddas
- terfynau eich cyfrifoldeb wrth dderbyn a dewis wyau ar gyfer deor
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- pwysigrwydd bodloni safonau diogelwch bwyd a sicrhau ansawdd perthnasol y diwydiant
- sut i brosesu'r mathau gwahanol o wastraff a gynhyrchir gan y gweithgaredd
- eich cyfrifoldebau dros lesiant adar yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid a chodau ymarfer perthnasol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan eich busnes
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLP26
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Fferm Dofednod
Cod SOC
9111
Geiriau Allweddol
iâr; twrci; dofednod; wyau; deori; deor