Casglu, graddio a pharatoi wyau i’w cludo
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys casglu, graddio a pharatoi wyau i gael eu cludo naill ai i ddeorfa neu ar gyfer manwerthu. Gellir casglu a graddio naill ai â llaw neu’n fecanyddol.
- Casglu a phacio wyau yn barod i’w cymryd i’r orsaf raddio neu bacio 
- Casglu a gosod wyau ar hambyrddau yn barod i fynd â nhw i gael eu deori a phacio wyau sydd yn anaddas ar gyfer deori 
- Casglu a pharatoi wyau i gael eu graddio ar raddiwr ar-lein, lle mae wyau’n cael eu cludo i’r graddiwr ar gludydd. 
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o’r peryglon sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni 
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas 
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal yr offer, cyfarpar a’r peiriannau gofynnol yn ddiogel ac yn gywir 
- casglu wyau gan ddefnyddio dulliau sy’n lleihau straen i’r adar, ac sydd yn unol â chodau a chyfarwyddiadau llesiant perthnasol 
- casglu wyau ar yr adeg iawn o’r dydd, yn unol â’r cyfarwyddiadau 
- gwirio’n rheolaidd am unrhyw niwed i wyau 
- trin wyau yn gywir i atal niwed, a’u paratoi ar gyfer dethol 
- graddio wyau yn gywir a thynnu wyau sydd yn anaddas i’w defnyddio 
- defnyddio marciau adnabod sydd yn glir, yn gywir, yn gyflawn ac yn cydymffurfio â’r cyfarwyddiadau 
- gosod yr wyau yn gywir ar hambyrddau addas 
- paratoi a phacio’r wyau yn y cynwysyddion gofynnol mewn ffordd sy’n lleihau niwed wrth gludo 
- gosod cynwysyddion yn yr ardal storio yn ddiogel ac yn sefydlog, ac yn unol â’r cyfarwyddiadau 
- gadael yr ardal waith a’r offer mewn cyflwr sydd yn addas i’w ddefnyddio yn y dyfodol 
- monitro a chynnal amodau storio, yn unol â gofynion busnes 
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith 
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol â’r cyfarwyddiadau 
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r cyfarwyddiadau 
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes 
- cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon sydd yn gysylltiedig â chasglu, graddio a pharatoi wyau ar gyfer eu cludo 
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd 
- y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sy’n ofynnol a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir 
- y dulliau o gasglu wyau sy’n lleihau straen i’r adar 
- pwysigrwydd amseru cywir wrth gasglu wyau 
- sut gall y system casglu wyau niweidio wyau a sut caiff hyn ei leihau 
- y problemau a all ddigwydd wrth gasglu wyau a’r camau y dylid eu cymryd 
- y categorïau gwahanol o wyau 
- sut i raddio wyau 
- y dulliau a ddefnyddir i atal halogiad a niwed i’r wyau 
- y marciau adnabod a phwysigrwydd eu gwirio 
- sut i osod marciau adnabod 
- y dulliau ar gyfer pacio a gosod wyau ar hambyrddau 
- arwyddion wyau o ansawdd gwael a’r camau i’w cymryd mewn achos fel hyn 
- y mathau a chyflwr yr ardaloedd storio 
- y gofynion ar gyfer amodau storio ar gyfer yr wyau 
- y problemau a all ddigwydd wrth storio wyau, a’r camau y dylid eu cymryd 
- sut i baratoi wyau i leihau niwed wrth gludo 
- terfynau eich cyfrifoldeb wrth gasglu, graddio a pharatoi wyau ar gyfer eu cludo 
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith a sut dylid gwneud hyn 
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn 
- pwysigrwydd bodloni safonau diogelwch bwyd a sicrhau ansawdd diwydiant perthnasol 
- sut i brosesu’r mathau gwahanol o wastraff sy’n cael ei gynhyrchu gan y gweithgaredd 
- eich cyfrifoldebau ar gyfer llesiant adar yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid a chodau ymarfer perthnasol 
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes 
- y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan eich busnes 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
*Cyfarwyddiadau*: llafar neu ysgrifenedig