Monitro cynhyrchiant wyau

URN: LANLP24
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn cynnwys monitro cynhyrchiant wyau trwy gynnal haid o adar sydd yn dodwy yn unol â'r cyfarwyddiadau.         

Mae cynhyrchu wyau yn cynnwys cyfnod o amser yn fuan ar ôl dosbarthu dofednod sydd yn dodwy wyau, hyd at gyfnod yn syth ar ôl y cynhyrchiant gorau, cyfnod sydd fel arfer yn parhau am ryw ddau fis.         

Wrth weithio gydag anifeiliaid fferm neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn monitro cynhyrchiant wyau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. bod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  3. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer, cyfarpar a'r peiriannau gofynnol, yn ddiogel ac yn gywir
  4. cymryd camau i sicrhau bod wyau'n cael eu dodwy yn y lle priodol
  5. gwneud tasgau cynhyrchu wyau yn unol â'r cyfarwyddiadau
  6. monitro ymddygiad yr adar, nodi pryderon a hysbysu ynghylch y rhain, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  7. monitro ansawdd wyau a hysbysu ynghylch unrhyw bryderon, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  8. gwirio'r amodau amgylcheddol, lle bo angen, yn unol â gofynion busnes
  9. monitro a chynnal iechyd a llesiant yr adar, yn unol â gofynion deddfwriaethol a busnes perthnasol
  10. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith
  11. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  12. prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â'r cyfarwyddiadau
  13. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  14. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y peryglon sydd yn gysylltiedig â monitro cynhyrchiant wyau
  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o offer, cyfarpar a pheiriannau sy'n ofynnol a sut i'w paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a'u cadw a'u storio yn ddiogel ac yn gywir
  4. sut i wirio'r amodau amgylcheddol a sut dylid hysbysu ynghylch y rhain
  5. lefelau cynhyrchu wyau disgwyliedig yr adar
  6. ymddygiad normal ac annormal yr adar yn y system a'r camau priodol i'w cymryd
  7. sut i fonitro a chynnal iechyd a llesiant yr adar
  8. sut i fonitro ansawdd wyau
  9. terfynau eich cyfrifoldeb
  10. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith a sut dylid gwneud hyn
  11. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  12. pwysigrwydd bodloni safonau diogelwch bwyd a sicrhau ansawdd y diwydiant
  13. sut i brosesu'r mathau gwahanol o wastraff a gynhyrchir gan y gweithgaredd
  14. eich cyfrifoldebau dros lesiant adar yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid a chodau ymarfer perthnasol
  15. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes
  16. y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan eich busnes

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae amodau amgylcheddol yn cynnwys: goleuo, tywydd, gwres, lleithder, awyru

Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP24

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Fferm Dofednod

Cod SOC

9111

Geiriau Allweddol

iâr; adar; twrci; dodwy; buarth