Paratoi adar ar gyfer atgenhedlu a galluogi ffrwythloni

URN: LANLP23
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys paratoi adar ar gyfer atgenhedlu a galluogi ffrwythloni i ddigwydd. Mae angen i chi nodi a dewis adar sydd yn addas ar gyfer bridio. Mae’n rhaid i chi hefyd allu adnabod unrhyw arwyddion bod yr adar yn anaddas ar gyfer bridio, fel os yw’r adar yn sâl neu os yw’r gwrywod yn rhy drwm.
   
Gall ffrwythloni ddigwydd trwy ffrwythloni artiffisial neu trwy ddulliau naturiol.
   
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn paratoi adar ar gyfer atgenhedlu ac yn galluogi ffrwythloni.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o’r peryglon sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r offer, y cyfarpar a’r deunyddiau angenrheidiol, yn ddiogel ac yn gywir
  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol â’r cyfarwyddiadau
  5. cadarnhau bod yr ardal waith yn ddiogel ac yn addas at ddibenion bridio
  6. casglu’r adar a nodwyd yn ddiogel yn yr ardal gywir, yn unol â’r cyfarwyddiadau
  7. gwirio cyflwr corfforol yr adar a sefydlu eu parodrwydd ar gyfer atgenhedlu
  8. darparu porthiant a dŵr lle bo angen
  9. cynnal yr amgylchedd mewn ffordd sy’n hwyluso atgenhedlu
  10. dewis yr adar sydd wedi cael eu nodi i fod yn barod ac yn addas ar gyfer bridio ar yr amser gorau
  11. trin a symud adar mewn ffordd sy’n lleihau straen
  12. paratoi adar at ddibenion bridio i alluogi ffrwythloni
  13. cynnal iechyd a lles benywod trwy gydol y cylch atgenhedlu
  14. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith
  15. ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r cyfarwyddiadau
  16. gwneud yr holl waith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, deddfwriaeth asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  17. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y peryglon sydd yn gysylltiedig â pharatoi adar ar gyfer atgenhedlu
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sydd yn angenrheidiol a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  4. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  5. sut i baratoi’r ardal waith i alluogi atgenhedlu
  6. sut i asesu parodrwydd yr adar at ddibenion atgenhedlu
  7. y mathau o amodau ffisegol allai effeithio ar ffrwythloni a’r cylch atgenhedlu
  8. y dulliau o gasglu’r adar yn barod ar gyfer ffrwythloni
  9. y gofynion ar gyfer porthiant a dŵr a’r ffordd y dylid cyflenwi’r rhain
  10. y ffordd y mae atgenhedlu’n cael ei wella trwy reoli amodau amgylcheddol
  11. sut i nodi a dewis adar sydd yn addas ar gyfer bridio
  12. y ffordd y dylid trin a symud adar a’r arferion lles angenrheidiol
  13. y ffyrdd y mae adar yn cael eu paratoi at ddibenion bridio
  14. y dulliau ffrwythloni ar gyfer adar
  15. y dulliau ar gyfer cynnal iechyd a lles adar trwy gydol y cylch atgenhedlu
  16. graddfa eich cyfrifoldeb wrth baratoi adar ar gyfer atgenhedlu
  17. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  18. pwysigrwydd bodloni safonau sicrhau ansawdd y diwydiant
  19. sut i brosesu’r mathau gwahanol o wastraff sydd yn cael eu cynhyrchu gan y gweithgaredd
  20. eich cyfrifoldebau am les yr adar yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol a chodau ymarfer
  21. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  22. y dulliau o reoli stoc, cadw cofnodion ac adrodd a ddefnyddir gan eich busnes


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig 
   
Dulliau ffrwythloni: ffrwythloni artiffisial (AI) a naturiol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP23

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Fferm Dofednod, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

dofednod; ieir; iâr; twrci; gwyddau; hwyaid; brîd; ffrwythloni