Monitro a chynnal glaswelltir a chnydau porthiant i gefnogi pori anifeiliaid fferm

URN: LANLP21
Sectorau Busnes (Cyfresi): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal glaswelltir a chnydau porthiant er mwyn cefnogi pori anifeiliaid fferm.         

Mae cynhyrchu porthiant yn rhan hanfodol o'r rhan fwyaf o systemau cynhyrchu anifeiliaid fferm. Bydd y broses yn cynnwys nodi glaswelltir amaethyddol cyffredin a chnydau porthiant sydd yn addas ar gyfer pori.        

Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.        

Wrth wneud eich gwaith mae'n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.

Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am fonitro a chynnal glaswelltir a chnydau porthiant i gefnogi pori anifeiliaid fferm.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  3. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r offer, cyfarpar a'r peiriannau gofynnol, yn ddiogel ac yn gywir
  4. monitro bod maint ac ansawdd y glaswelltir a'r cnydau porthiant yn briodol i gefnogi pori anifeiliaid fferm
  5. defnyddio patrymau pori addas ar gyfer y glaswelltir a'r cnydau porthiant
  6. monitro'r glaswelltir a'r cnydau porthiant am chwyn, plâu a chlefydau a allai leihau cynnyrch ac effeithio ar berfformiad anifeiliaid fferm
  7. monitro patrymau pori a ddefnyddir ar gyfer glaswelltir a chnydau porthiant
  8. cymryd camau i gynnal ansawdd glaswelltir a chnydau porthiant tra'u bod yn cael eu pori
  9. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  10. prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  11. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  12. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r busnes

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg
  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o offer, cyfarpar a pheiriannau sydd eu hangen a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain, yn ddiogel ac yn gywir
  4. y mathau gwahanol o laswelltir a chnydau porthiant a ddefnyddir i gefnogi pori anifeiliaid fferm a sut i'w hadnabod
  5. sut i adnabod chwyn, plâu a chlefydau a dulliau rheoli addas
  6. sut i fonitro a nodi pan fydd angen gwella glaswelltir
  7. sut i fonitro twf cnydau porthiant gwahanol a phan fydd cnwd porthiant yn addas i gefnogi pori anifeiliaid fferm
  8. y camau i'w cymryd i gynnal a gwella ansawdd glaswelltir a chnydau porthiant er mwyn cefnogi pori anifeiliaid fferm
  9. y dulliau gwahanol o bori glaswelltir a chnydau porthiant
  10. pryd dylid symud anifeiliaid fferm o'r glaswelltir a'r cnydau porthiant neu gynnig porthiant ategol iddynt
  11. pryd dylid addasu cyfraddau stoc anifeiliaid fferm
  12. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  13. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  14. eich cyfrifoldebau dros lesiant anifeiliaid fferm yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  15. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  16. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP21

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Rheolwr Fferm, Gweithiwr Fferm Cyffredinol

Cod SOC

9111

Geiriau Allweddol

cae; cnydau; chwyn; tir pori; glaswelltir; anifeiliaid fferm; porthiant