Adnabod a chynnal maethynnau pridd ar gyfer cnydau glaswelltir a phorthiant
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys adnabod a chynnal maethynnau pridd ar gyfer cnydau glaswelltir a phorthiant.
Mae cynhyrchu porthiant yn rhan hanfodol o'r rhan fwyaf o systemau cynhyrchu anifeiliaid fferm. Mae'r rôl yn gofyn am gymryd samplau pridd a dehongli'r canlyniadau, defnyddio'r maethynnau mewn ffordd ddiogel, yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r gofynion deddfwriaethol.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am adnabod a chynnal maethynnau pridd ar gyfer cnydau glaswelltir a phorthiant.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r peryglon sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni 
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas 
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a storio’r offer, y cyfarpar a’r deunyddiau gofynnol, yn ddiogel ac yn gywir 
- nodi cyflwr y pridd, yn unol â gofynion cynhyrchu cnydau glaswelltir a phorthiant 
- cynnal ystod o dechnegau samplu pridd 
- ceisio a gwerthuso cyngor arbenigol lle bo angen 
- nodi’r gofynion ar gyfer defnyddio maethynnau pridd ar gyfer y cnydau glaswelltir a phorthiant 
- parhau i ddefnyddio maethynnau pridd, lle bo angen, yn unol â gofynion twf cnydau a’r ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol 
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo 
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes 
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes 
- cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg 
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd 
- y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau a sut i baratoi, defnyddio a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir 
- y mathau gwahanol o bridd 
- y dulliau gwahanol o archwilio strwythur pridd a ffactorau sydd yn gallu effeithio ar y strwythur 
- y dulliau o wella strwythur pridd 
- y technegau samplu pridd gwahanol 
- sut i ddehongli dadansoddiad o’r pridd a’r camau perthnasol i’w cymryd 
- pwysigrwydd pH pridd 
- y mathau pridd risg uchel 
- ble i gael gafael ar ffynonellau gwybodaeth a chyngor arbenigol ar ddefnyddio maethynnau pridd ar gyfer cnydau glaswelltir a phorthiant 
- y gofynion maeth ar gyfer cnydau glaswelltir a phorthiant a’r mathau o faethynnau pridd y gellir eu defnyddio 
- y dulliau gwahanol o ddefnyddio maethynnau pridd a phryd dylid eu defnyddio 
- y berthynas rhwng twf a datblygiad cnydau, a’r defnydd o faethynnau pridd 
- gofynion y ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol ar gyfer darparu maethynnau pridd 
 y ffyrdd o leihau niwed amgylcheddol yn ystod gweithgareddau gwaith
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn 
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes 
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes 
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau