Monitro a chynnal cyflenwad porthiant a dŵr i anifeiliaid

URN: LANLP2
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys monitro a chynnal cyflenwad porthiant a dŵr i anifeiliaid. Bydd hyn yn unol â gofynion deietegol, milfeddygol a chynhyrchu.

Mae’n cynnwys monitro a chynnal cyflenwad parhaus porthiant a dŵr ac mae hefyd yn cynnwys sicrhau bod yr anifeiliaid yn bwyta ac yn yfed meintiau addas o borthiant a dŵr. 

Mae angen i chi hefyd fonitro perfformiad iach yr anifeiliaid mewn perthynas â’r gofynion cynhyrchu.
   
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am fonitro a chynnal cyflenwad porthiant a dŵr i anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  3. cadarnhau bod y cyfarpar a ddefnyddir i gyflenwi porthiant a dŵr i anifeiliaid yn ddiogel, yn lân ac mewn cyflwr da ac yn gwbl weithredol
  4. cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael ei gynnal yn unol ag arferion busnes
  5. monitro a chynnal y gwaith o storio’r holl borthiant anifeiliaid i’w ddiogelu rhag plâu a chynnal ei ansawdd
  6. monitro cyflwr porthiant a dŵr cyn cyflenwi a chymryd y camau priodol lle bo angen
  7. cadarnhau bod anifeiliaid yn cael y math a’r maint cywir o borthiant, ac unrhyw atchwanegiadau, yn unol â’r rhaglen ddeietegol
  8. cadarnhau bod cyflenwad o ddŵr glân, ffres yn cael ei ddarparu, yn unol â gofynion anifeiliaid
  9. monitro arferion bwydo ac yfed yr anifeiliaid ac adrodd am bryderon ar unwaith wrth y person perthnasol
  10. cadarnhau bod iechyd a lles yr anifeiliaid yn cael ei gynnal trwy gydol y broses fwydo a dyfrhau 
  11. monitro ac adrodd ar effeithiolrwydd y rhaglen ddeietegol yn bodloni ei hamcanion 
  12. monitro ac adrodd ar ymddygiad a lles yr anifeiliaid
  13. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  14. cadarnhau bod gwastraff yn cael ei brosesu’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  15. gwneud eich holl waith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes 
  16. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cynnal a’u storio fel y bo angen gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â chynnal cyflenwad porthiant a dŵr i anifeiliaid
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o gyfarpar sydd eu hangen ar gyfer darparu porthiant a dŵr i anifeiliaid 
  4. y dulliau o lanhau a chynnal a chadw cyfarpar bwydo a dyfrhau a phwysigrwydd sicrhau na all y cyfarpar achosi anaf i’r anifeiliaid 
  5. y mathau o blâu a fermin a sut i’w hatal rhag cael mynediad at gyflenwadau porthiant a dŵr 
  6. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  7. y mathau o lefelau porthiant a stoc sydd eu hangen i fodloni’r rhaglen ddeietegol
  8. sut i gynnal ansawdd porthiant anifeiliaid a chanlyniadau posibl porthiant o ansawdd gwael neu feintiau llai o borthiant  
  9. y dulliau a’r gweithdrefnau cywir ar gyfer darparu mynediad at borthiant a dŵr ar gyfer anifeiliaid
  10. ymgymeriad disgwyliedig bwyd a dŵr yr anifeiliaid yr ydych yn eu monitro a’r hyn y gallai newidiadau mewn arferion bwydo a dyfrhau ddangos
  11. y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth fwydo a dyfrhau a therfynau eich cyfrifoldeb mewn perthynas â datrys unrhyw broblemau a nodwyd
  12. y mathau gwahanol o feddyginiaeth a phorthiant ategol y gellir eu defnyddio ar gyfer yr anifeiliaid yr ydych yn eu monitro, diben y rhain a’r ffordd y gellir eu darparu trwy borthiant neu ddŵr
  13. pwysigrwydd monitro ymddygiad a lles anifeiliaid am arwyddion o salwch neu anaf a’r ffordd y dylid adrodd am y rhain
  14. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  15. sut i drin, storio, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol ac arferion busnes
  16. eich cyfrifoldebau dros les anifeiliaid yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  17. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  18. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Porthiant: 
un cynhwysyn
cyfuniadau
deiet cymysg cyfan
gwair
silwair
silwair sych
llaeth, ac ati

Gallai perfformiad iach gynnwys twf, datblygiad ac atgenhedlu.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP2

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Fferm Dofednod, Gweithiwr Fferm Foch, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

deiet; maethynnau; anifeiliaid; gwartheg; defaid; moch; dofednod; camelod; porthiant; dŵr