Cyflwyno triniaethau i anifeiliaid

URN: LANLP18
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cyflwyno triniaethau i anifeiliaid. Defnyddir y gair “triniaeth” yn ei ystyr ehangach i gynnwys gweithdrefnau nad ydynt yn llawfeddygol a thriniaethau gofal fel mater o drefn sydd yn cyd-fynd â’r cynllun iechyd a lles cyffredinol ar gyfer menter anifeiliaid.
   
Byddwch yn cyflwyno triniaethau i anifeiliaid sydd yn cyd-fynd â gofynion cyfreithiol cenedlaethol a chodau ymarfer. Dylai triniaethau gofal iechyd o’r fath ond cael eu cyflawni ar eich anifeiliaid eich hun neu anifeiliaid eich cyflogwr.
   
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am gyflawni triniaethau i anifeiliaid.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i gael ei wneud
  2. gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) i gyflwyno triniaethau i anifeiliaid
  3. defnyddio a storio’r cyffuriau, y feddyginiaeth a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflwyno triniaethau i anifeiliaid, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau’r milfeddyg neu’r cynhyrchydd ac arferion busnes 
  4. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r cyfarpar angenrheidiol yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion busnes
  5. paratoi’r ardal waith, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  6. cynnal hylendid a bioddiogelwch bob amser wrth gyflwyno triniaethau i anifeiliaid, yn unol ag arferion busnes
  7. atal yr anifail yn gadarn ac yn ddiogel mewn ffordd sy’n bodloni eich rhwymedigaethau dyletswydd gofal yn unol â deddfwriaeth lles anifeiliaid
  8. defnyddio’r technegau cywir i gyflwyno’r triniaethau gofal iechyd fel mater o drefn penodol ar yr adeg gywir, yn unol â’r cyfarwyddiadau
  9. defnyddio meddyginiaeth a ragnodwyd gyfredol a heb ei halogi ar gyfer yr anifail a fwriadwyd yn unig 
  10. defnyddio’r arferion a’r technegau cywir y gyflawni gweithdrefnau gofynnol nad ydynt yn llawfeddygol, a chydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol perthnasol
  11. cael cymorth ar unwaith gan y person perthnasol pan fydd problemau yn cyflwyno triniaethau i anifeiliaid
  12. lleihau unrhyw anesmwythdra a darparu ôl-ofal da i anifeiliaid ar ôl triniaethau
  13. arsylwi anifeiliaid ar ôl derbyn triniaethau a chymryd y camau angenrheidiol os bydd gennych bryderon ynghylch iechyd a lles yr anifail, yn unol ag arferion busnes
  14. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  15. gwaredu cyfarpar wedi ei ddefnyddio, cynwysyddion gwag, triniaethau dros ben, lle mae’r dyddiad wedi dod i ben neu’n anaddas, yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion y cynhyrchydd ac arferion busnes
  16. gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
  17. cwblhau cofnodion triniaethau fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol, codau ymarfer, gofynion sicrwydd ansawdd a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â chyflwyno triniaethau i anifeiliaid
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y mathau o offer a chyfarpar sydd yn angenrheidiol i gyflwyno triniaethau i anifeiliaid a sut i gynnal a chadw, defnyddio a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  4. pwysigrwydd paratoi’r ardal waith, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  5. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  6. y mathau gwahanol o driniaethau gofal iechyd fel mater o drefn sydd ar gael ar gyfer anifeiliaid a sut i’w gweinyddu yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
  7. y gofynion cyfreithiol a gofynion y cynhyrchydd ar gyfer defnyddio a storio cyffuriau, meddyginiaeth a’r cyfarpar a ddefnyddir i gyflwyno triniaethau i anifeiliaid 
  8. y mathau o weithdrefnau nad ydynt yn llawfeddygol ar gyfer anifeiliaid a sut i’w cyflwyno’n gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes 
  9. y ffordd y mae’r driniaeth yn cyd-fynd â chynllun iechyd a lles cyffredinol yr anifeiliaid
  10. terfynau eich cyfrifoldebau yn cyflwyno triniaethau i anifeiliaid
  11. arwyddocâd dyddiadau dod i ben i gyffuriau a meddyginiaethau/brechlynnau
  12. ffynonellau halogiad posibl i feddyginiaethau/brechlynnau a’r mathau o niwed
  13. y rhesymau a’r gofynion deddfwriaethol ar gyfer cyfnodau diddyfnu ar gyfer yr anifeiliaid sydd yn derbyn cyffuriau a chanlyniadau peidio â dilyn cyfnodau diddyfnu
  14. canlyniadau gostyngiad yn effeithiolrwydd cyffuriau neu feddyginiaeth, yn cynnwys ymwrthedd cyffuriau ac imiwnedd cyffuriau
  15. y technegau atal gwahanol y gellir eu defnyddio ar anifeiliaid a phwysigrwydd defnyddio’r technegau cywir i leihau straen a sicrhau diogelwch y triniwr a’r anifail
  16. pwysigrwydd cadw at gyfarwyddiadau ar gyfer cyflwyno triniaethau i anifeiliaid a chanlyniadau posibl peidio â gwneud hynny
  17. y materion a allai ddigwydd wrth gyflwyno triniaethau i anifeiliaid, yn cynnwys pan nad yw triniaethau yn addas, a’r camau i’w cymryd yn yr achos yma
  18. yr ôl-ofal sydd ei angen i hybu adferiad yr anifail
  19. pam y mae’n bwysig monitro ymddygiad anifeiliaid ar ôl triniaeth a’r camau i’w cymryd pan fydd gennych bryderon
  20. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a’r ffordd y dylid gwneud hyn
  21. y dulliau gwahanol o nodi anifeiliaid sydd wedi cael eu trin
  22. sut i drin, cludo, storio a gwaredu pob math o wastraff wrth gyflwyno gofal iechyd fel mater o drefn a gweithdrefnau nad ydynt yn rhai llawfeddygol, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion y cynhyrchydd ac arferion busnes
  23. y polisi busnes mewn perthynas â chyflwyno triniaethau anifeiliaid a’ch cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol a chodau ymarfer
  24. eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
  25. y gofynion ar gyfer adrodd a chofnodi a’r amser y dylid cadw cofnodion


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Gallai cyfarwyddiadau fod yn llafar neu’n ysgrifenedig 

Gallai gweithdrefnau nad ydynt yn llawfeddygol gynnwys: 
tocio cynffon
sbaddu
tori dannedd ac ewinedd
digornio
tynnu a rhwystro crafangau
tocio adenydd
triniaeth pig is-goch

Gallai triniaethau gofal iechyd fel mater o drefn gynnwys: 
brechu
cael gwared ar lyngyr
triniaethau lleol
dipio
meddyginiaeth sylfaenol
ychwanegu triniaethau at fwyd


Dolenni I NOS Eraill

​LP17 Cynnal iechyd a lles anifeiliaid


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP18

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Technegydd Anifeiliaid Fferm, Gweithiwr Dofednod, Gweithiwr Moch, Tyddynnwr, Crofftwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

tacluso traed; meddyginiaeth; brechu; dipio; cael gwared ar lyngyr; anifail; moch; dofednod; gwartheg; cynnyrch llaeth; defaid; eidion; geifr; camelod