Cynnal iechyd a llesiant anifeiliaid fferm
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys cynnal iechyd a llesiant anifeiliaid fferm. Mae'r term "llesiant" yn cyfeirio at lesiant ehangach yr anifeiliaid fferm, yn cynnwys lleihau straen a'r potensial ar gyfer anafiadau yn ogystal â chlefydau, anabledd, anhwylderau a phlâu.
Mae'n rhaid i chi fonitro a gwirio cyflwr yr anifeiliaid fferm, yn unol â gofynion cynhyrchu. Gall fod angen mesurau penodol i gynnal iechyd a llesiant yr anifeiliaid fferm, fel gwneud addasiadau i'r amodau amgylcheddol neu newid darpariaeth porthiant neu ddŵr. Mae'n rhaid eich bod yn gallu adnabod arwyddion o iechyd gwael ymysg anifeiliaid fferm a chymryd y camau priodol.
Wrth weithio gydag anifeiliaid fferm neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant a meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.
Wrth wneud eich gwaith mae'n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal iechyd a llesiant anifeiliaid fferm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd gofynnol
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- monitro cyflwr corfforol, ymddygiad a llesiant yr anifeiliaid fferm yn rheolaidd, yn unol â'r cyfarwyddiadau
- trin anifeiliaid fferm mewn ffordd sydd yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol, yn lleihau'r tebygolrwydd o straen neu anaf, ac yn cynnal iechyd a llesiant yr anifeiliaid fferm
- rhoi digon o gyfleoedd effeithiol i anifeiliaid fferm symud a chynnal gweithrediad corfforol
- rhoi mynediad i anifeiliaid fferm at borthiant a dŵr addas, yn unol â gofynion deietegol, milfeddygol a chynhyrchu
- darparu amgylchedd addas i anifeiliaid fferm gynnal eu hiechyd a'u llesiant
- darparu a chynnal y safonau iechyd a llesiant priodol ar gyfer rhywogaethau gwahanol o anifeiliaid fferm, yn unol â deddfwriaeth berthnasol a chodau ymarfer
- cael cyngor gan y person priodol os ydych yn ansicr am ymddygiad neu gyflwr yr anifeiliaid fferm
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pa mor aml y dylid monitro anifeiliaid fferm, beth i edrych amdano wrth fonitro, a sut i asesu eu hiechyd a'u llesiant
- ymddygiad, osgo a symudiad, ymddygiad a gweithrediad corfforol anifeiliaid fferm iach
- yr arwyddion sydd yn dangos problemau posibl gydag iechyd a llesiant anifeiliaid fferm a'r camau priodol i'w cymryd mewn achos o'r fath
- sut i gynnal iechyd a llesiant anifeiliaid fferm a lleihau eu straen neu anafiadau
- pam mae angen mynediad at borthiant a dŵr ar anifeiliaid fferm a'r ffordd y mae'r math a'r maint yn amrywio ar adegau gwahanol yn y broses gynhyrchu
- pam mae angen i anifeiliaid fferm symud a sut mae math a graddau hyn yn amrywio ar adegau gwahanol yn y broses gynhyrchu
- y ffordd y gellir addasu'r amgylchedd i gynnal iechyd a llesiant yr anifeiliaid fferm
- yr amgylchiadau pan byddai angen i anifeiliaid fferm gael eu dethol ar gyfer ewthanasia a'r dulliau gwahanol o ewthanasia/dethol
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- eich cyfrifoldebau dros lesiant anifeiliaid fferm yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid perthnasol, codau ymarfer a pholisi busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cyfarwyddiadau fod ar lafar neu'n ysgrifenedig.
Mae problemau gydag iechyd a llesiant anifeiliaid fferm yn cynnwys:
- clefydau
- anabledd
- anhwylderau
- plâu
- trawma
Dolenni I NOS Eraill
LANLP18 Cyflwyno triniaethau i anifeiliaid fferm