Cynllunio, sefydlu a chynnal cyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid
URN: LANLP16
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth Amaethyddol,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cynllunio, sefydlu a chynnal cyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid. Gallai’r systemau fod yn barhaol neu’n symudol neu’n gymysgedd o’r ddau a gellir eu hadeiladu o amrywiaeth eang o ddeunyddiau. Mae cost a hyblygrwydd yn ystyriaethau allweddol wrth gynllunio cyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid.
Mae cyfleusterau trin ac atal da yn hanfodol i gynnal safonau uchel diogelwch anifeiliaid a gweithredwyr, yn arbennig pan fyddwch yn gweithio ar eich pen eich hun neu gyda chymorth cyfyngedig.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n rheoli’r gwaith o gynllunio, sefydlu a chynnal cyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ystyried gofynion y sefyllfa ffermio a’r math o anifeiliaid, wrth gynllunio cyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid
- ystyried a oes angen i’r cyfleusterau/systemau fod yn sefydlog neu’n symudol neu’n gymysgedd o’r ddau
- ystyried ymddygiad tebygol y math o anifeiliaid wrth gynllunio cyfleusterau/systemau anifeiliaid ac atal
- ystyried unrhyw nodweddion neu ofynion arbennig yr anifeiliaid
- ymchwilio i argaeledd, ansawdd adeiladu a phris cynnyrch wedi eu cynhyrchu sydd ar y farchnad, yn cynnwys gwasanaeth ar ôl gwerthu ac argaeledd rhannau amnewid
- gwerthuso opsiynau ar gyfer hunanadeiladu, yn cynnwys deunyddiau addas i’w defnyddio, eu gwydnwch, eu natur cludadwy (lle mae hyn yn ofyniad), gofynion cynnal a phris
- gwerthuso opsiynau ar gyfer prynu cynnyrch wedi eu cynhyrchu, hunanadeiladu neu gyfuniad o’r ddau, fydd yn cyd-fynd orau â gofynion y sefyllfa ffermio a’r math o anifeiliaid
- arsylwi cyfleusterau/systemau gwahanol sydd yn cael eu defnyddio i asesu eu haddasrwydd
- ceisio a gwerthuso cyngor arbenigol lle bo angen, yn cynnwys cyngor gan eich milfeddyg
- cynllunio cyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid, yn cynnwys gofynion cynnal
- gwirio a chadarnhau bod y dyluniad yn bodloni’r safonau iechyd a diogelwch perthnasol a’r codau ymarfer ar gyfer anifeiliaid a gweithredwyr
- gweithredu’r cynllun a sefydlu’r cyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid
- cynnal cyfleusterau/systemau trin ac atal yr anifeiliaid er mwyn sicrhau bod y cydrannau’n cael eu cadw mewn cyflwr gweithredol llawn
- adolygu diogelwch ac effeithiolrwydd y cyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid, yn unol ag arferion busnes, a gwneud gwelliannau lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- diben y cyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid sydd yn ofynnol, ac a oes angen iddynt fod yn sefydlog, yn symudol neu’n gymysgedd o’r ddau
- sut i gynllunio’r mathau gwahanol o gyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid, yn cynnwys eu dimensiynau, eu dyluniad a’u hadeiladwaith, ar gyfer mathau gwahanol o anifeiliaid
- ymddygiad tebygol y math o anifeiliaid tuag at y cyfleusterau/systemau trin ac atal
- yr angen i ystyried unrhyw nodweddion neu ofynion arbennig yr anifeiliaid
- y ffordd y bydd mathau gwahanol o anifeiliaid yn symud/llifo’n naturiol trwy system a’r nodweddion dylunio fydd yn cynorthwyo hyn
- y cyfarpar atal addas ar gyfer mathau gwahanol o anifeiliaid
- nodweddion deunyddiau gwahanol a’u haddasrwydd ar gyfer sefydlu cyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid
- sut i ymchwilio’r farchnad a sut i gael mynediad at gyngor arbenigol
ble i arsylwi cyfleusterau/systemau gwahanol sydd yn cael eu defnyddio
ffynonellau dibynadwy cyngor arbenigol, yn cynnwys eich llawfeddyg
- y safonau sy’n berthnasol i sefydlu cyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid
- y ddeddfwriaeth, codau ymarfer, gofynion iechyd a diogelwch, a safonau lles anifeiliaid perthnasol ar gyfer cyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid, ar gyfer anifeiliaid a gweithredwyr
- gofynion cynnal ar gyfer mathau gwahanol o gyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid
- pwysigrwydd adolygu diogelwch ac effeithiolrwydd cyfleusterau/systemau trin ac atal anifeiliaid yn rheolaidd
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gofynion: gallu, cynllun, dyluniad, adeiladwaith
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLP16
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Rheolwr Fferm, Rheolwr Uned, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
anifeiliaid; eidion; defaid; gwartheg; geifr; alpacas; fferm; trin; atal