Cyflawni a chwblhau’r gwaith o gneifio anifeiliaid
URN: LANLP14
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cyflawni a chwblhau’r gwaith o gneifio anifeiliaid, yn cynnwys defaid, camelod a geifr. Mae’n rhaid i anifeiliaid fod yn sych ac yn rhydd o faw a thameidiau gormodol cyn cael eu cneifio a dylai’r cneifio gael ei wneud ar gyflymder sy’n dderbyniol yn fasnachol.
Trwy gydol y gwaith mae’n rhaid cynnal llesiant a lles cyffredinol yr anifeiliaid. Os bydd toriadau’n digwydd, mae’n rhaid eich bod yn gallu taenu’r triniaethau priodol ar yr anifeiliaid ar unwaith.
Mae’n rhaid i’r cynnyrch gorffenedig (cnu neu ffeibr) gael ei rolio’n gywir a’i storio mewn bagiau gwlân i atal niwed. Mae’n rhaid i’r ardal waith gael ei hadfer i gyflwr addas ar ôl cwblhau’r cneifio hefyd.
Wrth weithio gydag anifeiliaid neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn cyflawni ac yn cwblhau’r gwaith o gneifio anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau cyn gwneud y gwaith o gneifio anifeiliaid
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- cadarnhau bod y lleoliad cneifio mewn ardal sydd yn addas ar gyfer yr anifeiliaid a’r cneifwyr
- cadarnhau bod yr ardal waith yn ddiogel, yn lân ac yn addas ar gyfer cneifio, yn cynnwys cyflenwad trydan diogel gyda nodweddion diogelwch priodol
- dewis, paratoi, defnyddio a storio’r offer a’r cyfarpar angenrheidiol yn ddiogel ac yn gywir
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
- casglu’r anifeiliaid sydd yn aros i gael eu cneifio, yn ddiogel ac yn unol â’r niferoedd priodol, mewn ardal gadw addas
- cadarnhau bod yr anifeiliaid yn sych, yn rhydd o faw a thameidiau gormodol, ac yn addas ar gyfer eu cneifio
- nodi ac ymdrin ag anifeiliaid sydd yn anaddas ar gyfer eu cneifio
- trin a gosod anifeiliaid yn gywir bob amser tra’n cyflawni’r cneifio
- cynnal llesiant a lles cyffredinol yr anifeiliaid bob amser
- cynnal ansawdd y cnu/ffeibr tra’n cyflawni’r cneifio
- tynnu’r cnu/ffeibr gan achosi’r straen a’r anafiadau lleiaf posibl i’r anifeiliaid
- gwneud yr addasiadau priodol i’r broses gneifio lle gallai newidiadau mewn amodau leihau ansawdd y cnu/ffeibr
- taenu triniaethau a gosod prawf adnabod, lle bo angen, ar yr anifeiliaid ar ôl cwblhau’r cneifio
- symud anifeiliaid o’r ardal waith ar ôl cwblhau’r cneifio, yn ddiogel ac mewn ffordd sy’n achosi’r straen lleiaf posibl
- didoli a graddio cnu/ffeibrau fel y bo angen, wrth gwblhau’r cneifio, a’u gorchuddio a’u storio’n gywir ac mewn ffordd sydd yn cynnal eu hansawdd
- gadael yr ardal waith mewn cyflwr addas, yn barod ar gyfer ei defnyddio yn y dyfodol a chyda’r offer a’r cyfarpar yn lân ac yn barod i’w felino neu ei hogi
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau’r ardaloedd gwaith a’r gweithgaredd cneifio, yn cynnwys diogelwch y cyflenwad pŵer
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o offer a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer cneifio anifeiliaid a sut i baratoi, cynnal a chadw, defnyddio a storio’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y systemau ymdrin addas sy’n briodol ar gyfer cneifio anifeiliaid
- yr ardaloedd cadw addas ar gyfer anifeiliaid a’r angen i ardaloedd o’r fath fod yn gadarn
- cyflwr ac ymddangosiad anifeiliaid sydd yn addas ar gyfer y weithdrefn gneifio, a’r rhesymau pam y gallai anifeiliaid fod yn anaddas ar gyfer eu cneifio
- pwysigrwydd amseru ar gyfer cneifio bridiau gwahanol ac mewn lleoliadau gwahanol
- y dulliau o drin a gosod anifeiliaid wrth gneifio
- y ffyrdd y mae anifeiliaid yn ymateb i’ch ymddygiad a’r dulliau addas o ymdrin ag anifeiliaid anodd
- y rhesymau dros, a’r dulliau o, gynnal lles yr anifeiliaid wrth gyflawni, a chwblhau, cneifio
- pwysigrwydd tynnu’r cnu a pham y mae cnu cyflawn, heb eu niweidio yn fwy dymunol
- y mathau o niwed i’r cnu/ffeibr a allai ddigwydd tra’n cyflawni’r cneifio, a’r ffyrdd y gellir lleihau’r rhain
- yr effeithiau y gall newidiadau yn y tywydd a pherfformiad y cyfarpar eu cael ar gneifio, a’r addasiadau y gellir eu gwneud i’r broses gneifio
- y mathau o anaf i’r anifeiliaid a allai ddigwydd, a’r ffyrdd y mae’n rhaid lleihau’r rhain
- y mathau o driniaethau ar gyfer anifeiliaid a allai fod yn angenrheidiol a sut dylid taenu’r rhain
- pwysigrwydd cneifio, yn fasnachol ac ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid
- y gofynion ar gyfer didoli a graddio cnu/ffeibrau lle bo angen, a’r dulliau o’u lapio a’u storio mewn ardal lân, sych i gynnal eu hansawdd
- y rhesymau pam y dylid gadael yr ardal waith, yr offer a’r cyfarpar yn lan ac yn y cyflwr cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- eich cyfrifoldebau dros les anifeiliaid yn unol â deddfwraieth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae camelod yn cynnwys: lamaod, alpacas
Dolenni I NOS Eraill
LANLP18 Cyflwyno triniaethau i anifeiliaid
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLP14
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
dafad; gafr; lama; alpaca; anifeiliaid; cnu; ffeibr; cneifio