Cynorthwyo i odro anifeiliaid fferm

URN: LANLP13
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cynnwys cynorthwyo i odro anifeiliaid fferm, yn cynnwys gwartheg, geifr a defaid.

Mae’n ofynnol arnoch i ddilyn cyfarwyddiadau i gynnal cyflwr a llesiant yr anifeiliaid fferm trwy gydol y weithdrefn odro. Mae hyn yn cynnwys y godro ei hun, a thra bod yr anifeiliaid fferm yn mynd i mewn i’r parlwr godro ac yn gadael. Wrth gwblhau’r weithdrefn odro, mae’n rhaid glanhau a diheintio’r ardal waith a’r offer yn drwyadl.

Wrth weithio gydag anifeiliaid fferm neu beiriannau, dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn cynorthwyo i odro anifeiliaid fferm.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. bod yn ymwybodol o beryglon sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni

  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas

  3. sicrhau bod yr ardal waith yn lân ac yn daclus, a bod yr offer godro’n cael ei baratoi cyn godro’r anifeiliaid fferm

  4. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol â’r cyfarwyddiadau

  5. cynorthwyo’r gwaith o gasglu’r anifeiliaid fferm sydd yn aros i gael eu godro, gan gynnal eich diogelwch eich hun ac iechyd a llesiant yr anifeiliaid fferm bob amser

  6. arsylwi ymddygiad a gweithgaredd yr anifeiliaid fferm a hysbysu’r person sy’n gyfrifol am y godro ynghylch problemau

  7. darparu porthiant, yn unol â’r cyfarwyddiadau, os yw’r anifeiliaid fferm i gael eu bwydo wrth eu godro

  8. paratoi cadeiriau ar gyfer godro, gan sicrhau eu bod yn lân a chysylltu’r unedau yn unol â’r cyfarwyddiadau

  9. gwirio a monitro gweithrediad yr offer cyn ac yn ystod o broses odro a hysbysu’r person sy’n gyfrifol am odro ynghylch problemau

  10. adnabod adegau pan fydd anifeiliaid fferm yn cynhyrchu llaeth sydd yn anaddas i bobl ei ddefnyddio

  11. tynnu a gosod unedau yn y safle cywir, yn unol â’r cyfarwyddiadau, pan fydd llif y llaeth yn dod i ben

  12. gosod triniaethau ar yr anifeiliaid fferm, os ceir cyfarwyddyd i wneud hynny, wrth gwblhau’r godro

  13. cwblhau’r gweithdrefnau godro yn yr amser priodol, yn unol â’r cyfarwyddiadau

  14. sicrhau bod y llaeth yn rhydd rhag halogiad

  15. gwaredu llaeth sydd yn anaddas i bobl ei ddefnyddio yn ddiogel yn unol â’r cyfarwyddiadau

  16. cynorthwyo gyda’r gwaith o symud anifeiliaid fferm o’r ardal odro mewn ffordd sy’n achosi’r straen lleiaf posibl

  17. cwblhau gweithdrefnau glanhau ar ôl godro, gan adael yr ardal waith a’r offer yn y cyflwr cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol

  18. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes

  19. cynorthwyo’r gwaith o gwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y peryglon sydd yn gysylltiedig â godro anifeiliaid fferm

  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd

  3. y math o barlwr godro sy’n cael ei ddefnyddio a’r offer sy’n ofynnol ar gyfer godro

  4. sut i gynnal a defnyddio’r offer yn ddiogel ac yn gywir

  5. y trefniadau hylendid a bioddiogelwch mewn perthynas â godro anifeiliaid fferm

  6. sut i adnabod anifeiliaid fferm iach ac arwyddion salwch

  7. y dulliau gwahanol o fwydo anifeiliaid fferm wrth odro

  8. safle cywir anifeiliaid fferm yn yr ardal odro

  9. y ffyrdd y mae anifeiliaid fferm yn ymateb i’ch ymddygiad a sut i drin anifeiliaid fferm anodd yn ddiogel

  10. y dulliau ar gyfer paratoi cadeiriau ar gyfer godro, yn cynnwys glanhau a gwiriadau cyn godro

  11. sut i adnabod cadair lân

  12. arwyddion mastitis mewn anifeiliaid fferm, y rhesymau pam y dylid gwaredu llaeth o’r fath a’r gweithdrefnau ar gyfer ei waredu

  13. sut i adnabod adegau pan mae anifeiliaid fferm yn cynhyrchu llaeth sydd yn anaddas i bobl ei ddefnyddio

  14. y ffyrdd y gellir halogi llaeth a sut i leihau hyn

  15. sut i wirio gweithrediad yr offer godro

  16. sut i osod triniaethau ar yr anifeiliaid fferm, lle bo angen, ar ôl cwblhau’r weithdrefn odro

  17. pwysigrwydd hysbysu’r person sy’n gyfrifol am y godro ynghylch materion neu broblemau

  18. y rhesymau pam y mae graddfeydd amser yn bwysig wrth odro anifeiliaid fferm

  19. dulliau a phwysigrwydd profi llaeth

  20. y safonau diogelwch bwyd mewn perthynas â godro a phwysigrwydd cadw atynt

  21. eich cyfrifoldebau dros lesiant anifeiliaid fferm yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau busnes

  22. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau busnes

  23. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP13

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Fferm Cyffredinol

Cod SOC

9111

Geiriau Allweddol

buwch; gafr; dafad; cadair; godro