Paratoi, monitro a chynnal a chadw systemau wedi eu rheoli’n fecanyddol a ddefnyddir i gynhyrchu anifeiliaid fferm
Trosolwg
Mae'r safon hon yn cynnwys paratoi, monitro a chynnal a chadw systemau wedi eu rheoli'n fecanyddol a ddefnyddir i gynhyrchu anifeiliaid fferm.
Mae'r safon hon yn cynnwys meysydd cynhyrchu anifeiliaid fferm lle defnyddir systemau wedi eu rheoli'n fecanyddol, er enghraifft peiriannau godro robotaidd, systemau bwydo a dyfrio awtomatig, ysgrafellwyr biswail ac awyryddion awtomatig, cloriannau pwyso, gatiau siediau a gwelliannau amgylcheddol fel gwyntyllwyr, ysgeintwyr a brwshis. Gellir gweithredu offer o'r fath ar amserwyr, symudiad neu adnabod electronig.
Wrth weithio gydag anifeiliaid fferm neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.
Wrth wneud eich gwaith mae'n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am baratoi, monitro a chynnal a chadw systemau wedi eu rheoli'n fecanyddol a ddefnyddir i gynhyrchu anifeiliaid fferm.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni, yn cynnwys cyflenwad trydan diogel heb unrhyw gerrynt crwydr
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- gwirio a chadarnhau bod y system wedi ei rheoli'n fecanyddol a ddefnyddir i gynhyrchu anifeiliaid fferm yn gweithio'n gywir, cyn ei defnyddio, a bod unrhyw larymau, rhybuddion neu ddyfeisiadau methiant diogel yn gweithio
- gwirio a chadarnhau bod y system wedi ei rheoli'n fecanyddol wedi ei pharatoi a'i gosod yn gywir
- monitro gweithrediad y system wedi ei rheoli'n fecanyddol er mwyn sicrhau bod iechyd a llesiant yr anifeiliaid fferm yn cael eu cynnal
- gwneud addasiadau i'r system wedi ei rheoli'n fecanyddol lle mae amrywiadau o'r amodau gweithio gorau yn digwydd
- cymryd y camau gofynnol i ymateb i broblemau gyda'r system wedi ei rheoli'n fecanyddol
- glanhau a chynnal a chadw'r system wedi ei rheoli'n fecanyddol, lle bo angen, yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol, iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg yn cynnwys y risg o drydaniad neu gerrynt crwydr
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau gwahanol o systemau wedi eu rheoli'n fecanyddol a ddefnyddir i gynhyrchu anifeiliaid fferm, sut maent yn gweithio a sut i'w paratoi
- y larymau, rhybuddion a'r dyfeisiadau methiant diogel a ddefnyddir gyda systemau wedi eu rheoli'n fecanyddol
- y gofynion sydd gan anifeiliaid fferm gwahanol yn ystod cyfnodau cynhyrchu gwahanol
- sut mae systemau wedi eu rheoli'n fecanyddol o fudd i gynhyrchu anifeiliaid fferm
- amodau gwaith gorau y system wedi ei rheoli'n fecanyddol sy'n cael ei defnyddio
- pwysigrwydd monitro systemau wedi eu rheoli'n fecanyddol er mwyn sicrhau bod iechyd a llesiant anifeiliaid yn cael ei gynnal pan fydd angen ymyrraeth pobl
- y mathau o broblemau a allai ddigwydd gyda systemau wedi eu rheoli'n fecanyddol a chyfyngiadau eich cyfrifoldeb mewn perthynas â datrys problemau a nodir
- y ffynonellau cymorth a chefnogaeth wrth ddefnyddio systemau a reolir yn fecanyddol
- terfynau eich cyfrifoldeb mewn perthynas â chynnal a chadw offer yn y system a rheolir yn fecanyddol
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes
- eich cyfrifoldebau ar gyfer llesiant anifeiliaid fferm yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Systemau wedi eu rheoli'n fecanyddol a ddefnyddir i gynhyrchu anifeiliaid fferm e.e.
- peiriannau godro robotaidd
- systemau bwydo a dyfrio awtomatig
- ysgrafellwr biswail ac awyryddion
- cloriannau pwyso
- gatiau siediau
- gwelliant amgylcheddol fel gwyntyllwyr, ysgeintwyr a brwshis
Set: e.e. amseriadau, meintiau, cyflymder, tymheredd