Cyflawni a chwblhau’r gwaith o odro anifeiliaid
URN: LANLP10
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cyflawni a chwblhau’r gwaith o odro anifeiliaid, yn cynnwys gwartheg, geifr a defaid.
Bydd angen i chi gynnal cyflwr a lles yr anifeiliaid trwy gydol y gwaith o odro. Mae hyn yn cynnwys gwneud y godro ei hun, a thra bod yr anifeiliaid yn dod i mewn i’r parlwr godro ac yn gadael. Wrth gwblhau’r gwaith o odro, mae’n rhaid glanhau a diheintio’r ardal waith a’r cyfarpar yn drwyadl.
Wrth weithio gydag anifeiliaid a pheiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am gyflawni a chwblhau’r gwaith o odro anifeiliaid.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd angenrheidiol
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- cadarnhau bod yr ardal waith a’r cyfarpar godro mewn cyflwr addas, cyn cyflawni’r gwaith o odro anifeiliaid
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion busnes
- casglu anifeiliaid sydd yn aros i gael eu godro, gan gynnal eich iechyd a’ch diogelwch eich hun a lles yr anifeiliaid bob amser
- arsylwi ymddygiad a gweithgaredd yr anifeiliaid a nodi ac adrodd ar unrhyw broblemau
- darparu porthiant os yw’r anifeiliaid i gael eu bwydo wrth odro
- paratoi cadeiriau/pyrsiau ar gyfer godro, gan sicrhau eu bod mewn cyflwr glân ac iach, a chysylltu’r unedau yn gywir
- gwirio a monitro gweithrediad y cyfarpar, cyn ac yn ystod y broses o odro
- nodi ac ymdrin ag anifeiliaid sy’n cynhyrchu llaeth sydd yn anaddas i gael ei ddefnyddio gan bobl
- symud a gosod unedau yn y safle cywir pan fydd llif y llaeth yn methu
- taenu’n triniaethau gofynnol ar yr anifeiliaid ar ôl cwblhau’r godro, yn unol â gofynion hylendid a pholisi busnes
- cwblhau gweithdrefnau godro o fewn y graddfeydd amser priodol
- cadarnhau bod y llaeth yn rhydd rhag halogiad
- ymdrin â llaeth sydd yn anaddas ar gyfer ei ddefnyddio gan bobl, yn ddiogel ac yn gywir
- symud yr anifeiliaid o’r ardal odro mewn ffordd sy’n achosi cyn lleied o straen â phosibl
- cwblhau gweithdrefnau glanhau ar ôl godro, gan adael yr ardal waith a’r cyfarpar yn y cyflwr cywir ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr a phobl eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gwneud eich gwaith i gyd yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â godro anifeiliaid
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y math o barlwr godro sy’n cael ei ddefnyddio a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol ar gyfer godro
- sut i gynnal a chadw a defnyddio’r cyfarpar, yn ddiogel ac yn gywir
- y gofynion hylendid a bioddiogelwch mewn perthynas â godro anifeiliaid
- sut i adnabod anifeiliaid iach ac arwyddion salwch
- y rhesymau dros fwydo anifeiliaid wrth eu godro, a’r dulliau gwahanol o wneud hyn
- safle cywir anifeiliaid yn yr ardal odro
- y ffyrdd y mae anifeiliaid yn ymateb i’ch ymddygiad, a’r dulliau ar gyfer ymdrin ag anifeiliaid anodd yn ddiogel
- y dulliau o baratoi cadeiriau/pyrsiau ar gyfer godro, i gynnwys glanhau a gwiriadau cyn godro
- sut i adnabod cadair lân
- arwyddion mastitis mewn anifeiliaid, y rhesymau pam y dylid gwaredu llaeth o’r fath a’r gweithdrefnau ar gyfer gwaredu
- y ffyrdd o nodi ac ymdrin ag anifeiliaid sy’n cynhyrchu llaeth sydd yn anaddas i gael ei ddefnyddio gan bobl
- y ffyrdd y gellir halogi llaeth a’r dulliau ar gyfer lleihau hyn
- sut i fonitro gweithrediad y cyfarpar godro
- y triniaethau y gellir eu taenu ar anifeiliaid ar ôl cwblhau’r gwaith o odro, a phryd fyddai angen y rhain
- y mathau o broblemau a allai ddigwydd wrth odro a therfynau eich cyfrifoldeb mewn perthynas â datrys problemau a nodir
- y rhesymau pam y mae graddfeydd amser yn bwysig wrth odro anifeiliaid
- dulliau profi llaeth a phwysigrwydd hyn
- y safonau diogelwch bwyd mewn perthynas â godro a phwysigrwydd cadw atynt
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
- eich cyfrifoldebau ar gyfer lles anifeiliaid yn unol â deddfwriaeth iechyd a lles anifeiliaid berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLP10
Galwedigaethau Perthnasol
Ffermwr, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Technegydd Anifeiliaid Fferm, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
buwch; gafr; dafad; cadair; godro