Paratoi a chyflenwi porthiant a dŵr i anifeilaid fferm

URN: LANLP1
Sectorau Busnes (Suites): Cynhyrchu Anifeiliaid Fferm
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon yn cynnwys paratoi a chyflenwi porthiant a dŵr i anifeiliaid fferm.

Bydd hyn yn unol â gofynion deietegol, milfeddygol a chynhyrchu.

Wrth weithio gydag anifeiliaid fferm neu offer dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol, lle bo angen.

Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd.

Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sydd yn paratoi porthiant a dŵr i anifeiliaid fferm.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd i’w gyflawni

  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas

  3. dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r offer sy’n ofynnol i baratoi porthiant i anifeiliaid fferm, yn ddiogel ac yn gywir

  4. sicrhau bod yr offer sy’n cael ei ddefnyddio i gyflenwi bwyd a dŵr i anifeiliaid fferm yn lân ac mewn cyflwr gweithredol da

  5. cynnal hylendid a bioddiogelwch yn unol ag arferion busnes

  6. storio porthiant anifeiliaid fferm yn gywir yn yr amodau gofynnol

  7. cylchdroi stoc lle bo angen

  8. monitro ansawdd a lefelau stoc porthiant a hysbysu’r person priodol ynghylch y rhain

  9. sicrhau bod y cyfleusterau ar gyfer storio a pharatoi porthiant a dŵr yn lân ac yn rhydd rhag plâu a chnofilod

  10. paratoi porthiant ar gyfer anifeiliaid fferm yn unol â’r rhaglen ddeietegol a’r cyfarwyddiadau

  11. cyflenwi porthiant i anifeiliaid fferm yn y meintiau cywir yn unol â’r rhaglen ddeietegol a’r cyfarwyddiadau

  12. cynnal cyflenwad o ddŵr glân, ffres, yn unol â gofynion anifeiliaid fferm

  13. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo

  14. prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion busnes

  15. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau busnes

  16. cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a’r busnes


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg

  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd

  3. y mathau o offer sy’n ofynnol ar gyfer paratoi porthiant ar gyfer anifeiliaid fferm a sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r rhain yn ddiogel ac yn gywir

  4. y dulliau o lanhau a chynnal a chadw’r offer a ddefnyddir i gyflenwi porthiant a dŵr i anifeiliaid fferm, a sicrhau ei fod mewn cyflwr da ac yn gwbl weithredol ac nad yw’n gallu anafu’r anifeiliaid fferm

  5. y gofynion hylendid a bioddiogelwch mewn perthynas â pharatoi a chyflenwi porthiant a dŵr i anifeiliaid fferm

  6. y math o gyfleuster storio a’r amodau sy’n ofynnol ar gyfer storio porthiant anifeiliaid fferm

  7. pwysigrwydd glanhau’r cyfleuster a’r offer a ddefnyddir i storio a pharatoi porthiant

  8. arwyddion plâu a chnofilod a’r camau i’w cymryd os caiff y rhain eu canfod

  9. y dulliau o atal niwed neu halogiad i stoc porthiant anifeiliaid fferm

  10. diben cylchdroi stoc

  11. pwysigrwydd cynnal lefelau stoc porthiant a sut i hysbysu bod angen ail-archebu stoc

  12. math, ansawdd a maint y porthiant sydd ei angen i fodloni gofynion anifeiliaid fferm, yn unol â’r rhaglen ddeietegol

  13. y dulliau cywir o baratoi a chyflenwi porthiant anifeiliaid fferm

  14. glendid, ansawdd a maint y dŵr yfed sydd ei angen i fodloni gofynion anifeiliaid fferm a’r dulliau gwahanol o gyflenwi dŵr i anifeiliaid fferm

  15. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn

  16. sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol ac arferion busnes

  17. eich cyfrifoldebau ar gyfer llesiant anifeiliaid fferm yn unol â deddfwriaeth iechyd a llesiant anifeiliaid, codau ymarfer a pholisïau busnes perthnasol

  18. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau busnes

  19. y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLP1

Galwedigaethau Perthnasol

Ffermwr, Gweithiwr Fferm Cyffredinol, Gweithiwr Fferm Dofednod, Gweithiwr Fferm Foch

Cod SOC

9111

Geiriau Allweddol

deiet; porthiant; stoc; anifail; iechyd; maeth; anifeiliaid fferm