Asesu effaith amgylcheddol eich busnes
Trosolwg
Mae cyfreithiau a rheoliadau amgylcheddol y mae’n rhaid i bob busnes gydymffurfio â nhw, a chyfreithiau a rheoliadau ar gyfer sectorau diwydiant penodol. Gall arferion amgylcheddol da fod yn gost-effeithiol pan fydd dulliau ailgylchu’n cael eu defnyddio. Gall mesurau gweithredu i amddiffyn yr amgylchedd wella enw da busnes, a gall hefyd gyfrannu at broffidioldeb eich busnes.
Gallech wneud hyn os bydd angen i chi
- sefydlu busnes neu fenter gymdeithasol
- symud eiddo
- newid arferion gweithio
- bod yn gyfrifol am arfer amgylcheddol yn y gweithle
Mae arfer amgylcheddol yn cynnwys
- gwybod am gyfreithiau a rheoliadau presennol a all effeithio ar fusnesau bach
- rhoi mesurau ar waith i gydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol
- datblygu arfer amgylcheddol da
- adolygu effeithiolrwydd arferion amgylcheddol eich busnes
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dysgu am ddeddfau a rheoliadau amgylcheddol allweddol
- nodi rheoliadau a gofynion sy’n benodol i sector eich diwydiant
- penderfynu pa ddeddfau a rheoliadau sy’n berthnasol i’ch busnes, ei gynnyrch neu ei wasanaethau
- penderfynu pa dasgau y mae angen eu gwneud, pryd a chan bwy, i gydymffurfio â’r deddfau a’r rheoliadau
- nodi’r bobl a’r sefydliadau lle y gallwch gael cyngor a chymorth ynghylch arfer amgylcheddol
- ystyried ffyrdd eraill y gallai eich busnes effeithio ar yr amgylchedd a meddwl am unrhyw newidiadau y gallech eu gwneud i leihau’r effaith
- penderfynu pa fesurau ychwanegol y gallwch eu cymryd i wneud eich busnes yn amgylcheddol gyfeillgar
- ymchwilio i gost a budd cyflwyno’r mesurau hyn
- penderfynu pwy ddylai gymryd rhan mewn gweithredu arferion amgylcheddol gyfeillgar a beth ddylai eu rôl fod
- nodi sut y gallai mabwysiadu unrhyw rai o’r mesurau hyn wella enw da eich busnes
- cynnal adolygiadau rheolaidd o arferion amgylcheddol eich busnes a nodi camau pellach i wella’u heffeithiolrwydd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Cyfreithiau a rheoliadau
K1 pa ddeddfau a rheoliadau y mae’n rhaid i chi gydymffurfio â nhw i leihau’r niwed y gall eich busnes ei achosi i’r amgylchedd (fel y deddfau a’r rheoliadau sy’n ymwneud ag allyriadau i’r aer, sŵn, gwastraff, deunyddiau crai, pecynnu, y defnydd o ynni a’r defnydd o ddŵr)
K2 sut i fodloni gofynion deddfau a rheoliadau amgylcheddol
K3 pwy sydd â’r pŵer i asesu eich busnes i orfodi deddfau a rheoliadau amgylcheddol
K4 beth all ddigwydd os byddwch yn methu cydymffurfio â deddfau amgylcheddol a rheoliadau eraill
Arfer amgylcheddol da
K5 pam mae gwella perfformiad amgylcheddol eich busnes yn syniad da, hyd yn oed os nad oes angen i chi wneud hynny yn ôl y gyfraith
K6 sut i asesu effaith amgylcheddol eich busnes a nodi beth gellir ei wella
K7 pa newidiadau syml y gallwch eu gwneud i wella perfformiad amgylcheddol, fel arbed ynni, ailgylchu, lleihau teithio a defnyddio llai o ddŵr
Buddion i fusnes
K8 sut gall arferion amgylcheddol da fod o fudd i enw da eich busnes
K9 sut i gyfleu eich ymrwymiad amgylcheddol i gyfranddalwyr, buddsoddwyr, cwsmeriaid, gweithwyr a’r cyhoedd
K10 sut gall cynnwys gweithwyr mewn trafodaethau amgylcheddol wella’u symbyliad
K11 pa gymhellion ariannol a all fod i wneud newidiadau (fel lwfansau cyfalaf a benthyciadau’r ymddiriedolaeth carbon)
K12 sut mae gallu dangos bod gan eich busnes bolisïau a gweithdrefnau amgylcheddol cadarn yn helpu i gael premiymau yswiriant cystadleuol
Cyngor a gwybodaeth broffesiynol
K13 pa wybodaeth sydd ar gael am gyfraith amgylcheddol ac o ba sefydliadau
K14 pam mae’n bwysig defnyddio cyngor cywir i ddysgu am y gyfraith a rheoliadau
K15 pa rôl sydd gan y cynghorydd proffesiynol
K16 sut i ddefnyddio ffynonellau cyngor sydd ar gael yn rhad ac am ddim, a ffynonellau y mae’n rhaid talu amdanynt