Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – prosesau uno thermol
URN: LANLEO9
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – prosesau uno thermol. Mae’n cynnwys tymheredd uchel ac isel, technegau ymdoddi a rhai nad ydynt yn ymdoddi, a ddefnyddir mewn atgyweirio a chynhyrchu.
Nid yw hyn yn cynnwys atgyweirio cydrannau hanfodol diogelwch.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau foltedd uchel (foltedd peryglus /HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.
Noder – yn unol â rheoliadau cyfredol mae’n rhaid i waith trydan o’r brif gyflenwad gael ei wneud gan berson cymwys, trydanwr fel arfer.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o’r peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE) a chadarnhau bod system awyru addas yn cael ei defnyddio yn unol â gofynion iechyd a diogelwch
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw, a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i wneud y gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- nodi deunyddiau i gael eu huno a’u haddsrwydd ar gyfer uno thermol, naill ai prosesau weldio, weldio efydd neu sodro
- paratoi’r gweithle a’r cyfarpar i gyflawni proses uno thermol
- paratoi’r deunyddiau a’r cymalau yn unol â’r broses uno thermol sydd yn cael ei defnyddio
- cymhwyso egwyddorion a thechnegau craidd peirianneg ar y tir i gyflawni uno thermol, gan gynhyrchu cymalau o’r fanyleb ofynnol
- nodi namau mewn cymalau wedi eu weldio, weldio efydd ac wedi eu sodro gan ddefnyddio technegau archwilio perthnasol
- archwilio a chynnal a chadw cyfarpar a ddefnyddir i gyflawni uno thermol a newid y deunydd traul a ddefnyddir mewn prosesau uno
- cau’r cyfarpar i lawr a’i adael mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau gweithgareddau uno thermol
- gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
- ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
- cwblhau cofnodion fel y bo angen yn unol â chyfarwyddiadau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig ag uno thermol, yn cynnwys mygdarthau, ffrwydriadau, tân, ymylon miniog, malurion yn yr aer ac anaf personol, a sut gellir diogelu rhag y rhain
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd a phwysigrwydd system awyru addas
- yr offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- sut i adnabod deunyddiau fferrus a rhai nad ydynt yn fferrus a’u prosesau uno thermol perthnasol
- nodweddion prosesau uno thermol gwahanol
- yr amrywiaeth o dechnegau sydd yn angenrheidiol i baratoi deunydd cyn uno thermol
- y gweithdrefnau paratoi ac uno ar gyfer cymalau
- yr egwyddorion a’r technegau ar gyfer uno deunyddiau fferrus a rhai nad ydynt yn fferrus gan ddefnyddio dulliau weldio a sodro nwy neu drydan
- sut i reoli afluniad a weldio diffygion
- sut i ddewis, paratoi a gosod y cyfarpar nwy neu drydan perthnasol i gyflawni prosesau uno thermol
- nodweddion a diben fflwcs
- swyddogaeth sorod weldio a’i dynnu
- sut i ganfod a nodi namau yn gywir a’u hachosion mewn cymalau wedi eu weldio, weldio efydd a’u sodro, gan ddefnyddio archwiliad gweledol, gweithdrefnau nad ydynt yn ddinistriol a dinistriol, gan brofi am ollyngiadau
- pwysigrwydd gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
- sut i ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achosir gan y gweithgaredd, yn unol â chyfarwyddiadau a gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y cofnodion y mae angen eu cwblhau a gweithdrefn y cwmni ar gyfer hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
cyfarpar trydan – yn cynnwys arc metel (MMA), nwy anadweithiol metel (MIG), nwy gweithredol metel (MAG), nwy anadweithiol tungsten (TIG) a chyfarpar sodro
namau - e.e. tandorri, trapiau sorod, treiddiad annigonol, cracio
cyfarpar nwy – yn cynnwys Ocsi asetylen
archwilio a chynnal a chadw cyfarpar - e.e. glanhau blaenau nwy, newid silindrau nwy a sbwliau weiren weldio
cymalau – yn cynnwys bôn, gorunol, rhimyn, unigol, cymalau aml-rediad, hoelio, gosod a chlampio
paratoi cyfarpar – yn cynnwys gosod pwysau, ac amperedd, folteddau, dewis meintiau electrodau, meintiau blaenau a dewis fflycsiau ar gyfer weldio efydd a sodro
uno thermal yn cynnwys weldio ac uno nad yw’n ymasio, e.e. sodro a phresyddu.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO9
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
peirianneg; egwyddorion; weldio; sodro; presyddu; ar y tir; cyfarpar; peiriannau