Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – cyfrifiadau
URN: LANLEO7
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir - cyfrifiadau. Mae’n cynnwys yr unedau mesur gyda ffactorau trosi (a allai gynnwys arwynebedd/cyfaint, hyd/trwch, mesuriad a ddefnyddir mewn amrywiaeth o systemau) a’r cyfreithiau cysylltiedig a’r cyfrifiadau’n ymwneud â nhw, e.e. deddf Ohm, deddf Pascal, Deddf mudiant Newton, deddf Boyle, cyflymder, pŵer, trorym, cyflymdra, pwysedd, cyfaint, llif, tymheredd, arwynebedd, trosoledd.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi eich hyfforddi ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn peirianneg ar y tir gan ddefnyddio eu menter eu hunain mewn rôl sy’n ymdrin â chwsmeriaid. Gallai gynnwys mentora cydweithiwr iau i gynorthwyo gydag agweddau o’r gwasanaeth ac atgyweirio.
Noder – yn unol â rheoliadau cyfredol mae’n rhaid i waith trydan o’r brif gyflenwad gael ei wneud gan berson cymwys, trydanwr fel arfer.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei gyflawni
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd ei angen i wneud y gweithgaredd yn unol â’r gofynion cyfreithiol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- cymhwyso cymarebau ac unedau mesur i fynegi gwerthoedd ym mherfformiad injanau, trawsyriant, hydrolig, niwmatig, trydanol a pheiriant
- cymhwyso ffactorau trosi i drosi gwerthoedd mesur o un uned fesur i un arall
- cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir i gyfrifo/mesur arwynebedd, pwysau, cyfeintiau, onglau, cyfraddau llif, trosoledd a chyflymderau fel y bo angen
- cymhwyso dulliau ffisegol a/neu ddamcaniaethol i sefydlu mesuriadau
- dilysu trwy gyfrifiad graddnodiad peiriannau a chyfarpar
- cyfrifo mesuriadau o ddarlun graddfa
- ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd hwn
- yr offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- yr unedau llinellog, arwynebedd, cyfaint, pwysau a thymheredd o fesuriadau a gwerthoedd
- yr unedau mesur a ddefnyddir i fynegi gwerthoedd mewn peiriannau trawsyriannau, perfformiad hydrolig, niwmatig, trydanol a pheiriant
- sut i ddefnyddio tablau trosi a’r ffactorau trosi ar gyfer cyfrifiadau
- y fformiwlâu mathemategol ar gyfer arwynebedd, cyfaint, cylchedd
- egwyddorion sylfaenol deddf Ohm, deddf mudiant Newton, deddf Boyle a deddf Pascal a phryd i’w cymhwyso
- y berthynas rhwng cyflymder a throrym
- grym allgyrchol a’i gymwysiadau a’i effeithiau
- sut i gyfrifo cyfraddau pŵer, trorym, grym, defnydd a chymhwysiant
- y dulliau a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni tasgau mesur gwahanol
- y ffactorau sydd yn gallu camlunio mesuriadau
- y dulliau a ddefnyddir i wirio cyfraddau graddnodi/cymhwyso
- graddfeydd pŵer a’r hyn y maent yn ei gynrychioli
- mesuriad cyflymder, cyflymdra, cyflymiad, arafiad a chyfernod ffrithiant
- sut i gyfrifo cyflymder o gymarebau a roddir a chyflymder mewnbwn ac allbwn
- dehongliad o raddfeydd a ddefnyddir mewn darluniau peirianneg
- sut i ailgylchu neu waredu mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y wybodaeth sydd angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
tasgau mesur – e.e. llithriad olwyn, defnydd injan o olew, cyfraddau gwaith, defnydd o danwydd fesul hectar, lefelau sŵn, galluoedd codi, gosodiadau trorym, cryfderau signal
cyfraddau pŵer - e.e. BHP (Marchnerth Brecio), KW (Cilowat)
unedau mesur - e.e. pŵer, egni, trorym, grym, disgyrchiant penodol, pwysedd, cyflymdra, arafiad, cyfraddau lleihau, ffrithiant, dwysedd, llif, ymwrthedd, llwyth, cerrynt a sŵn
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO7
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
peirianneg; cyfrifiadau; deddf Ohm; deddf Pascal; deddf Newton; deddf Boyle; cyflymder; pŵer; trorym; cyflymdra; pwysedd; cyfaint; llif; tymheredd; arwynebedd