Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – paratoi, ffurfio a chydosod deunydd

URN: LANLEO6
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – paratoi, ffurfio a chydosod deunydd. Mae’n cynnwys paratoi a gorffen deunyddiau, ffurfio a llunio deunyddiau â llaw ac offer pŵer a chydosod cydrannau gan ddefnyddio bachau wedi eu dolennu, heb eu dolennu neu gemegol.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi eich hyfforddi ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso cerbydau trydan gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.

Noder – yn unol â rheoliadau cyfredol, mae’n rhaid i waith trydan o’r prif gyflenwad gael ei wneud gan berson cymwys, trydanwr fel arfer.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o’r peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw, a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i wneud y gweithgaredd yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. dehongli gwybodaeth mewn perthynas â thasgau peirianneg o ddarluniau, brasluniau a chyfarwyddiadau peirianneg
  6. paratoi deunyddiau a nodi proffiliau yn unol â’r manylebau a ddarperir
  7. cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir i greu proffiliau neu gydrannau i fanylebau a goddefiant a ddarparwyd
  8. cydosod cydrannau neu is-gydosodfeydd i’r manylebau a ddarperir
  9. gweithio i ac o fewn manylebau a ddarparwyd
  10. dilysu bod cydosodfeydd a chydrannau’n cydymffurfio â’r manylebau a ddarparwyd
  11. prosesu deunyddiau ar gyfer y cymhwysiad a ddarparwyd
  12. gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
  13. ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
  14. cwblhau cofnodion fel y bo angen yn unol â chyfarwyddiadau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â pheirianneg ar y tir
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i wneud y gweithgaredd, a sut i’w dewis, eu paratoi, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. sut i ddehongli gwybodaeth o ddarluniau, brasluniau a chyfarwyddiadau peirianneg
  5. y technegau a’r offer a ddefnyddir ar gyfer nodi deunyddiau
  6. y prosesau a’r technegau a ddefnyddir ar gyfer paratoi deunydd
  7. y technegau a ddefnyddir ar gyfer ffurfio a llunio deunydd
  8. y prosesau a’r technegau a ddefnyddir ar gyfer gorffen materol
  9. y mathau gwahanol o fachau, eu nodweddion a’u cymwysiadau
  10. y dulliau o sicrhau cydrannau yn erbyn symudiad dirgrynnu a chylchdroi yn cynnwys rhai mecanyddol a chemegol/glynol
  11. nodweddion, gweithred a chymwysiadau deunydd a gasgedi cyfansawdd 
  12. y rhesymau dros, a’r dulliau o, alinio cydrannau i’w gilydd
  13. y rhesymau dros reoli ansawdd a’r dulliau o ddilysu cydymffurfio â manylebau
  14. pwysigrwydd gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
  15. sut i ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
  16. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  17. y cofnodion y mae angen eu cwblhau a gweithdrefn y cwmni ar gyfer hyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


cydosod cydrannau - e.e. cadw a lleoli cydrannau; llwybro pibau a thresi weirio; amseriad cydrannau i’w gilydd; gosod a symud gasgedi, cyfeiriadedd ac alinio cydrannau

bachau - e.e. bolltau, nytiau, wasieri, sgriwiau, allweddi, stydiau, rhybedion, pinnau, hoelbrennau, allweddi, cylchglipiau a modrwyon clec, cysylltwyr strapiau

gorffen - e.e. anelio, paentio, haenellu, sgleinio, caledu, caledu cistiau, tymheru, caledu wyneb called technegau ac offer 

nodi - e.e. glasu, templedi, jigiau

paratoadau sgrifellwr - e.e. glanhau, diseimio a digennu

ffurfio a llunio - e.e. malu, rhathellu, llifio, defnyddio gwres gosod, ocsi asetylen a thorri plasma a gosod pwysedd.

sefydlogi cydrannau - e.e. gwydr cab, wasieri spring, tabiau sefydlogi, nytiau hunan-gloi


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO6

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

peirianneg; egwyddorion; deunyddiau; paratoi; ffurfio; cydosod; ar y tir; cyfarpar; peiriannau