Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – offer a chyfarpar
URN: LANLEO5
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – offer a chyfarpar. Mae’n cynnwys adnabod, dewis, cynnal a chadw a defnydd diogel o offer llaw, offer pŵer, a chyfarpar gweithdy sefydlog a symudol a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n ofynnol i gwblhau gweithgareddau a wneir mewn peirianneg ar y tir.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi eich hyfforddi ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i’r dadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant priodol yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.
Noder – yn unol â rheoliadau cyfredol mae’n rhaid i waith trydan o’r prif gyflenwad gael ei wneud gan berson cymwys, trydanwr fel arfer.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o’r peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle mae i fod cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol posibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellid rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- cymhwyso egwyddorion peirianneg ar y tir a defnyddio’r offer llaw, yr offer pŵer, cyfarpar sefydlog a symudol cywir i wneud y gweithgaredd gofynnol
- archwilio offer llaw, offer pŵer, cyfarpar sefydlog a symudol i sefydlu eu cyflwr
- paratoi’r offer a’r cyfarpar trwy gynnal gwiriadau a gweithredoedd cyn eu defnyddio yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion cwmni
- nodi’r ffynhonnell bŵer gywir sydd yn angenrheidiol ar gyfer offer a chyfarpar pŵer
- dewis a defnyddio’r cyfarpar gofynnol i godi, cefnogi a sefydlogi peiriannau tra bod y gweithgaredd yn cael ei gwblhau
- dewis a defnyddio cyfarpar perthnasol i wneud y tasgau mesur gofynnol
- defnyddio’r offer a’r technegau gofynnol i gefnogi clampio, cywasgu a thynnu cydrannau a chydosodiadau
- dewis a defnyddio offer arbennig pan fo angen
- cynnal a chadw offer a chyfarpar mewn cyflwr diogel a gweithredol yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- archwilio a chynnal a chadw cyfarpar PPE i gadarnhau ei fod mewn cyflwr gweithredol
- archwilio cyfarpar codi i gadarnhau ei fod mewn cyflwr gweithredol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
- ailwefru pecynnau pŵer offer cludadwy yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
- gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
- storio offer a chyfarpar, yn cynnwys PPE, yn ddiogel yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau a gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
- cwblhau cofnodion fel y bo angen yn unol â chyfarwyddiadau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â pheirianneg ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr amrywiaeth o offer llaw, offer pŵer, cyfarpar sefydlog a symudol sydd ar gael i wneud gweithgareddau mewn peirianneg ar y tir a sut i ddewis yr offer neu’r cyfarpar cywir ar gyfer y gweithgaredd
- y technegau sydd yn ofynnol i baratoi a defnyddio offer llaw, offer pŵer, cyfarpar sefydlog a symudol yn ddiogel
- y ddeddfwriaeth sydd yn gysylltiedig â pharatoi a defnyddio cyfarpar gwaith (PUWER)
- y ddeddfwriaeth sydd yn gysylltiedig â defnyddio a phrofi cyfarpar codi (LOLER)
- sut i adnabod ffynonellau pŵer gwahanol ar gyfer offer pŵer
- sut i ynysu cyfarpar trydanol y prif gyflenwad
- sut i ddefnyddio cyfarpar i godi, cefnogi a sefydlogi peiriannau tra bod gweithgaredd gofynnol yn cael ei gwblhau
- sut i dorri ac adfer edau, tynnu stydiau sydd wedi torri a symud gosodiadau sydd wedi cloi
- y technegau a ddefnyddir i glampio, dal a sefydlogi deunyddiau a chydrannau tra bod tasgau peirianneg yn cael eu cyflawni
- sut i nodi pan fydd offer arbennig yn ofynnol a’r amrywiaeth o offer arbennig sydd ar gael
- y gofynion cynnal a chadw ar gyfer offer llaw, offer pŵer, cyfarpar sefydlog a symudol
- pwysigrwydd archwilio a chynnal PPE i gadarnhau ei fod mewn cyflwr gweithredol
- sut i wefru pecynnau pŵer offer symudol
- pwysigrwydd gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
- y ffordd y dylid storio offer, cyfarpar a PPE
- sut i ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau a gofynion cyfreithol ac amgylcheddol perthnasol
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y cofnodion sydd angen eu cwblhau a gweithdrefn y cwmni ar gyfer hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
cyfarpar sefydlog a symudol - e.e. gweisg, llifiau peiriannol, jaciau, stondinau echel, gwefrwyr batris, cywasgwyr aer, dynamofesurydd neu brofwyr chwistrellu
offer llaw - e.e. rhathellau, cynion, tyllwyr, tynwyr, tapiau a deiau, darnau dril, ehangwyr, clampiau, sbaneri, socedi tyndroadau, tyrnsgriwiau, gefeiliau, torwyr a chyllellodau, cyfarpar mesur a nodi, mesuryddion ac echdynwyr
cyfarwyddiadau a manylebau:
• lluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• Cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
• Gofynion cwsmeriaid
• cyfarwyddiadau llafar
cyfarpar codi - e.e. jaciau, craeniau peiriannau, llwyfannau codi, offer cynnal nenbontydd - e.e. hogi, storio, glanhau, llyfnhau
cyfarpar mesur - e.e. dangosydd prawf digidol, caliperau fernier, microfesurydd, mesuryddion teimlo, thermomedr, tacomedr, amlfesurydd, dynamofesurydd, tyndro trorym hydrofesurydd a mesuryddion ymwrthedd rholio
cyflenwadau pŵer - e.e. cyfnod unigol, 3 chyfnod, pecynnau pŵer symudol, aer cywasgedig
offer pŵer – yn cynnwys offer trydanol ac aer e.e. driliau, melinau malu, offer aer, gynnau gwres
cyfarpar diogelu - e.e. masgiau, gogls, sgriniau, masgiau gorchudd wyneb
offer arbennig - e.e. tynwyr, gweisg, amddiffynwyr sêl, stydiau canllaw, dolïau lleoli a chanoli, rheiliau a throlïau rhannu
tasgau - e.e. torri, llifio, ffurfio, mesur, nodi, gosod, symud, profi, dal, drilio, codi, torri edau ac echdynnu stydiau
offer a thechnegau - e.e. stondinau, clampiau, feisiau, tynwyr, morthwylion llithro, gweisg, cywasgwyr sbring
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO5
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
peirianneg; egwyddorion; offer; cyfarpar; ar y tir