Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – egwyddorion mecanyddol

URN: LANLEO4
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2023

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – egwyddorion mecanyddol. Mae’n darparu’r wybodaeth danategol yn ymwneud â nodweddion a phriodweddau cynalyddion, llewys, seliau a phlygiau, eu lleoliad a’u dargadwad yn ogystal â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd yn ofynnol ar gyfer gosod cydrannau e.e. tyndra, llwytho ymlaen llaw, rhaglwyth, ‘end-float’, adlach, allwthiad, cliriad, addasiad ymyrraeth.

Mae hefyd yn cynnwys egwyddorion grym allgyrchol, trorym a chyflymder, craidd disgyrchiant, cydbwysedd deinamig a sefydlog, sefydlogrwydd, pwysedd daear, pwyntiau ffwlcrwm a nerth lifer.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi eich hyfforddi ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus /HaV) mae’n rhaid i’r dadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchwyr.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.

Noder – yn unol â rheoliadau cyfredol mae’n rhaid i waith trydan o’r prif gyflenwad gael ei wneud gan berson cymwys, trydanwr fel arfer.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o’r peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei gynnal
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol posibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i wneud y gweithgaredd yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. symud ac ailosod cydrannau gan gymhwyso egwyddorion a thechnegau mecanyddol craidd peirianneg ar y tir
  6. pennu a yw’r cynalyddion yn addas ar gyfer eu hailddefnyddio
  7. gwirio addasrwydd lleoliadau cynalyddion, seddi, mwnyglau, gorchuddion, consentrigrwydd hirgrynedd 
  8. gosod cynalyddion a llewys, dyfeisiadau cyfyngu trorymoedd, a chydrannau i gyd-fynd â’r cymhwysiad a manyleb y cynhyrchydd
  9. gosod olew, iraid, pwysedd, seliau llwch a dŵr lle bo angen
  10. profi a dilysu bod gosodiadau’r cydrannau‘n bodloni gofynion
  11. symud ac ailosod cydrannau wedi eu sicrhau gan addasrwydd amhariad, addasrwydd crebachu, rhwymyn cemegol
  12. gwirio cydrannau a pheiriannau am statig a chydbwysedd a sefydlogrwydd deinamig
  13. gosod cysylltedd a dewis cydrannau i gael y fantais fecanyddol uchaf posibl
  14. gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
  15. ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys rhai peryglus a rhai nad ydynt yn beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â chyfarwyddiadau a gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol 
  16. cwblhau cofnodion fel y bo angen yn unol â chyfarwyddiadau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â pheirianneg ar y tir
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd ei angen i wneud y gweithgaredd a sut i ddewis, paratoi, defnyddio, cynnal a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. mathau o gynalyddion a llewys, eu hadeiladwaith, eu cymhwysiant a’u nodweddion
  5. sut i symud cynalyddion, seliau a chydrannau eraill
  6. sut i sicrhau bod cynalyddion yn addas ar gyfer eu hailddefnyddio
  7. sut i wirio addasrwydd lleoliadau cynalyddion, seddi, mynyglau, gorchuddion, consentrigrwydd hirgrynedd ac ati
  8. y rheswm dros sefydlu cynalyddion ac effaith gosodiadau anghywir
  9. y dulliau o osod cynalyddion a chydrannau
  10. y dulliau o wirio gosodiadau cynalyddion a chydrannau
  11. adeiladwaith, nodweddion a dulliau gosod olew, iraid, pwysedd, seliau llwch a dŵr a’u pwysigrwydd yn atal gollyngiadau a mynediad
  12. y mathau o broffil offer dannedd a’u cymhwysiad, eu nodweddion a’u patrymau gafael
  13. y ffordd y mae cylchdroi cyfeiriol, symudiad cilyddol a chydbwysedd yn cael eu cyflawni
  14. egwyddorion trosglwyddo gyriant trwy siafftiau, pwlïau, dannedd olwynion, strapiau a chadwyni, eu hadeiladwaith, eu mathau, eu nodweddion a’u cymwysiadau
  15. pwysigrwydd gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
  16. sut i ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff (yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus) a achosir gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau, sy’n berthnasol i ofynion cyfreithiol ac arfer da amgylcheddol
  17. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  18. y cofnodion y mae angen eu cwblhau a gweithdrefn y cwmni ar gyfer gwneud hyn


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


mathau o gynalyddion a llewys - e.e. nodwydd, rholferyn, cynalyddion rholferyn tapr, peli traul, arnofio, hunanalinio, wedi’i selio, hunan-iro, llewys plaen, cynhalyddion cragen, cynalyddion gwthiant a wasieri

gwirio cydrannau a pheiriannau - e.e. llafnau cylchol, olwynion, silindrau dyrnwyr medi a chynaeafwyr cnwd porthi

gall cyfarwyddiadau fod yn llafar neu’n ysgrifenedig

gosod cysyllteddau - e.e. meintiau hyrddwyr hydrolig a niwmatig, cysyllteddau codi

dulliau ar gyfer gwirio gosodiadau cynalyddion a chydrannau - e.e. tyndroau trorym, mesuryddion teimlo, ymwrthedd treigl, mesuriad, prif weiren, glasu

dulliau gosod cysyllteddau a chydrannau - e.e. shimio, cyfrifiad, defnyddio tyndra a phwysedd

egwyddorion a thechnegau mecanyddol - e.e. trosoledd, pwysedd, effaith, llwytho sioc, ehangu a chyfangu

egwyddorion gyriant trosglwyddo - e.e. uniadau cyffredinol, uniadau CV, adnabod mathau o strapiau a’u hadrannau, strapiau sy’n cyd-fynd, cadwyni a therfynau eu defnyddioldeb

cymhwyso a manyleb cynhyrchwyr - e.e. rhaglwyth, ‘end-float’, allwthiad, cilfachu, rhwydo, trorym llithro

profi a dilysu gosodiadau cydrannau - e.e. ymwrthedd treigl, gosodiadau trorym, gosodiad, pwysedd clamp, tyndra

mathau o broffil offer dannedd - e.e. sbardun syth, troellog, hypoid


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO4

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

mecanyddol; peirianneg; egwyddorion; peirianwaith; cynalyddion; llewys; seliau; strapiau; cadwyni; siafftiau; pwlïau; dannedd olwyn; ar y tir; cyfarpar; peiriannau