Gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar taenu triniaeth ar y tir
URN: LANLEO32
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar taenu triniaeth ar y tir ac mae’n cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o osod a gweithredu’r cyfarpar a’r teclynnau.
Mae’n cynnwys nodi namau, dulliau atgyweirio, graddnodi a dilysu perfformiad. Mae’r cyfarpar sydd wedi eu cynnwys ar gael yn un neu fwy o’r sectorau cysylltiedig canlynol o beirianneg ar y tir, e.e. amaethyddiaeth, garddwriaeth, amwynderau, gofal daear, coedyddiaeth a choedwigaeth.
Mae cyfarpar a ddefnyddir i ddosbarthu deunyddiau at ddiben amddiffyn a thwf cnydau, fel deunyddiau hylif, solet neu ronynnol wedi eu cynnwys yn y safon hon e.e. chwistrellwyr, dosbarthwyr gwrtaith, cyfarpar dyfrhau, neu gyfarpar chwistrellu biswail.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus /HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- sicrhau bod y cyfarpar ar y tir y mae angen ei wasanaethu a’i atgyweirio’n drwyadl yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
- cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau
- pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
- nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
- symud ac amnewid cydrannau wedi eu treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cyfarpar taenu triniaeth ar y tir a’u cydrannau yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
- symud ac amnewid cydrannau wedi eu treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- gosod cyfarpar llusgo a chodi i ryngwynebu â’r prif symudwr
- graddnodi cyfraddau taenu chwistrellwyr, hylif, gwrtaith gronynnol a solet
- gweithredu gosodiadau maes yn unol â manylebau’r cynhyrchydd a gofynion y cwsmer ar gyfarpar taenu triniaeth ar y tir
- defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
- ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
- y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl
- y peryglon sy’n cael eu creu gan ynni wedi ei storio a’r ffordd y dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
- y cemegau, nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
- y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda chyfarpar taenu triniaeth ar y tir a nodi’r achos sylfaenol
- diffygion a namau cyffredin sydd yn digwydd gyda chyfarpar taenu triniaeth ar y tir
- y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gwaith, angen brys am y cyfarpar
- y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
- mathau, adeiladwaith a swyddogaeth cyfarpar taenu triniaeth ar y tir a ddefnyddir i dyfrhau, gwrteithio, chwistrellu a lledaenu
- sut i symud ac amnewid cydrannau o gyfarpar taenu triniaeth ar y tir
- sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer peiriannau a chyfarpar sefydliad taenu triniaeth ar y tir yn unol â manyleb a safonau’r cynhyrchydd
- egwyddorion a chymwysiadau gweithredu cyfarpar sefydlu taenu triniaeth ar y tir
- y dulliau a’r mecanweithiau a ddefnyddir i fesur cyfraddau taenu chwistrellau, gwrtaith, hylifau a solidau a’u graddnodi
- sut i osod a dilysu perfformiad cyfarpar taenu triniaeth ar y tir yn unol â manylebau’r cynhyrchydd
- sut i ddefnyddio data i osod ac addasu cyfarpar taenu triniaeth ar y tir i gael y perfformiad gorau posibl
- effaith mathau o driniaeth hylif a solet, y tywydd a’u dylanwad ar osodiadau perfformiad cyfarpar
- y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau gweithgaredd i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
- sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
• tanwydd
• olewau
• hylifau
• nwyon
• llwch
• aer cywasgedig
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
• gofynion y cwsmer
• cyfarwyddiadau llafar
Dulliau diagnosis:
• archwiliadau gweledol
• profion swyddogaethol a gweithredol
• cyfarpar diagnostig
• rheolaeth electronig a systemau monitro o bell
• adolygu data technegol
Ynni wedi ei storio:
• springiau
• tyndra strap
• pwysedd hydrolig
• gollyngiad trydanol
• gollyngiad cronnwr
Cyfarpar taenu triniaeth - e.e. chwistrellwyr a lledaenwyr hylif, deunyddiau gronynnol a solet
Dolenni I NOS Eraill
Gweler LANLEO1 Adnabod a lleihau peryglon yn yr ardal waith peirianneg ar y tir, am arweiniad ar arferion gweithio diogel.
Gweler LANLEO4 Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – egwyddorion mecanyddol, am arweiniad yn ymwneud ag egwyddorion ac arferion sylfaenol peirianneg.
Gweler LANLEO29 Monitro trosglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir am arweiniad yn ymwneud â gofynion gweithredol.
Gweler LANLEO2 Gweithredu gweithdrefnau sefydliadol mewn peirianneg ar y tir am arweiniad yn ymwneud â chofnodi gweithdrefnol neu weinyddol ac arferion adrodd.
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO3
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
ar y tir; cyfarpar; peiriannau; chwistrellwr, lledaenwr