Gwasanaethu ac atgyweirio injanau yn drwyadl ar gyfarpar ar y tir
URN: LANLEO31
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio injanau yn drwyadl ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys injanau tanio gwreichion a thanio cywasgiad a’u cyfluniadau. Mae’n cynnwys adnabod a swyddogaeth cydrannau, symud ac amnewid cydosodiadau a chydrannau injanau a’r dulliau a’r technegau datgymalu, atgyweirio ac ailgydosod.
Mae’r safon yn cynnwys systemau a pherfformiad injanau gan gynnwys y systemau a ddefnyddir i ddosbarthu’r tanwydd (yn cynnwys carbwraduron a systemau chwistrellu) ac aer a gyflenwir gan faniffoldau mewnfa neu systemau derbyn yn llawn pwysedd yn ogystal â’r aer sydd yn ofynnol mewn proses tanio injan, y mathau, adeiladwaith a swyddogaeth y cydrannau.
Mae hefyd yn cynnwys y technegau a ddefnyddir i ganfod ac unioni namau injan fecanyddol a’r broses a ddefnyddir i ddilysu mesuriadau.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus /HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir sy’n defnyddio eu menter eu hun mewn rôl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid. Gallai gynnwys mentora cydweithiwr iau i gynorthwyo gydag agweddau o’r gwasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- sicrhau bod y cyfarpar ar y tir y mae angen ei wasanaethu a’i atgyweirio’n drwyadl yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
- cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau
- cynnal profion i bennu achos problemau gwahanol injan
- pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl
- nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
- archwilio cyflwr injanau a chydrannau ar gyfarpar ar y tir wrth wasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl ac ymchwilio i rannau sydd wedi methu neu dreulio
- symud ac amnewid cydrannau wedi eu treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- lle y bo’n berthnasol, datgymalu, atgyweirio ac adfer cydrannau system injan yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
- nodi ac unioni namau system injan
- pennu trefn tanio priodol ar gyfer injanau silindrau lluosog
- profi a gosod amserlen chwistrellu a thanio statig a deinamig
- addasu perfformiad injan o fewn terfynau gweithredu penodedig
- defnyddio cyfarpar mesur addas i ddilysu cydymffurfio â chydrannau injan
- defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
- ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
- y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl
- y peryglon sy’n cael eu creu gan ynni wedi ei storio a’r ffordd y dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
- y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
- y mathau o ffynonellau tanwydd sydd ar gael, sut i’w hadnabod a’r ffordd y mae hynny’n effeithio ar wasanaethu ac atygweirio injanau yn drwyadl
- y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gydag injanau ar gyfarpar ar y tir a nodi’r achos sylfaenol
- diffygion a namau arferol sydd yn digwydd gydag injanau ar gyfarpar ar y tir a sut gellir eu cywiro
- achosion traul eithafol injan
- y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl, fel cost, amcangyfrif o fywyd gwaith, angen brys am y cyfarpar
- y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio’n drwyadl a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
- mathau, adeiladwaith ac egwyddorion gweithredu injanau a chydrannau
- allyriadau pibellau mwg, rheoliadau a dulliau rheoli yn cynnwys hidlwyr a hylifau
- sut i symud ac amnewid injanau a/neu gydrannau ar gyfarpar ar y tir wrth wasanaethu ac atgyweirio’n drwyadl
- sut i ddatgymalu, atgyweirio ac adfer injanau a/neu gydrannau yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchwyr
- y cyfarpar, y dulliau a’r technegau ar gyfer cymryd mesuriadau penodol injanau
- effeithiau gwneud gwelliannau i systemau tanwydd a thanio
- y weithdrefn ar gyfer dilysu perfformiad injan
- y weithdrefn ar gyfer dilysu amseriad cywir injan ar gyfer amseru statig a deinamig
- y dulliau ar gyfer profi injanau wrth gwblhau gweithgaredd i gadarnhau eu bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn eu dychwelyd at y cwsmer
- sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydymffurfiad cydrannau injan - e.e.
• bylchu cylch piston
• silindr, leinin, meinhad, hirgrynedd ac allwthiad
• hirgrynedd ac ‘end-float’ mwnwgl crancsiafft
• cliriadau piston/pen
• falf, canllaw, sedd, dilyniant, system weithredu
• afluniad pen/bloc silindr
• cywasgiad
• defnydd o danwydd ac olew
Injanau a chydrannau - e.e.
• tanwyr gwreichion a thanwyr cywasgu a’u cyfluniadau
• aer wedi ei oeri a dŵr wedi ei oeri
• lleininau gwlyb a sych, monobloc
• yn anadlu’n naturiol ac wedi ei wefru gan bwysedd (i gynnwys cyfuno tyrbo ac uwchwefru)
• cydbwyswyr ac ataliad dirgryniad
• carbwraduron
• plygiau tanio
• pympiau chwistrellu
• pympiau dosbarthu tanwydd
• chwistrellwyr
• rheolwyr
• cymhorthion dechrau’n oer
• systemau hidlo aer
• systemau gwacáu
• tyrbo ac uwchwefrwyr
Problemau injan - e.e.
• perfformiad injan
• camdanio
• ôl-danio
• pwysedd olew injan
• gorgynhesu
• trawiad
• sŵn anarferol
• pallu cychwyn
• anadlu casyn cranc eithafol
• defnydd o olew
• dosbarthu tanwydd a phwysedd system
• pwysedd gwefru derbyniad aer
• defnydd anarferol o danwydd,
• amseru chwistrelliad, camsiafft a thanio
• allyriadau, e.e. mwg glas, gwyn neu ddu
• perfformiad injan ddim yn unol â manylebau’r cynhyrchwyr
• cymysgedd gwan a chyfoethog o danwydd
• derbyniad a llif aer gwacáu cyfyngedig
• dilysu gweithrediad llywodraethwr
Hidlwyr a hylifau:
• Catalydd Ocsideiddio Diesel (DOC)
• Hidlwr Gronynnau Diesel (DPF)
• Lleihau Catalytig Dethol (SCR)
• Hylif Gwacáu Diesel (DEF)
Ffynonellau tanwydd – e.e.
• petrol
• diesel
• hybrid
• LPG
• methan
• hydrogen
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
• tanwydd
• olewau
• hylifau
• nwyon
• llwch
• aer cywasgedig
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
• gofynion y cwsmer
• cyfarwyddiadau llafar
Dulliau diagnosis:
• archwiliadau gweledol
• profion swyddogaethol a gweithredol
• cyfarpar diagnostig
• rheolaeth electronig a systemau monitro o bell
• adolygu data technegol
Ynni wedi ei storio:
• springiau
• tyndra strap
• pwysedd hydrolig
• gollyngiad trydanol
• gollyngiad cronnwr
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO31
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
Peiriannau; ar y tir; amaethyddol; gwasanaeth; atgyweirio; canfod namau