Archwilio a phrofi peiriannau a chyfarpar ar y tir

URN: LANLEO30
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys archwilio a phrofi peiriannau a chyfarpar ar y tir, dadansoddi a dehongli canfyddiadau a ffurfio ac argymell gweithredoedd. 

Mae’n cynnwys casglu’r holl wybodaeth berthnasol trwy gasglu gwybodaeth, profion diagnostig neu brofion gweithredol er mwyn caniatáu pennu cydymffurfio a rhoi diagnosis o namau a methiannau mewn peiriannau a chyfarpar ar y tir.

Mae’n cynnwys dadansoddi a dehongli gwybodaeth trwy ystyried data, cymhariaeth, efelychu, yn ogystal â phrofi data i alluogi diagnosis gwybodus.

Mae hefyd yn cynnwys argymell camau i’w cymryd, e.e. y tu hwnt i atgyweirio economaidd, atgyweirio, amnewid, cyfnewid gwasanaeth, atgyflyru.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus /HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir sy’n defnyddio eu menter eu hun mewn rôl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid. Gallai gynnwys mentora cydweithiwr iau i gynorthwyo gydag agweddau o’r gwasanaethu ac atgyweirio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. sefydlu amcanion yr archwiliad neu’r prawf a allai ddod o fewn un neu fwy o gategorïau
  5. casglu gwybodaeth berthnasol i gynorthwyo dealltwriaeth glir o beiriannau a chyfarpar, cyflwr, cymhwyso a pherfformiad
  6. casglu hanes gwasanaethu a data cyfeiriadau technegol i gynorthwyo’r archwiliad neu’r prawf
  7. nodi profion neu weithdrefnau addas i gasglu data, yn cynnwys rhai i ganfod namau ysbeidiol
  8. dewis cyfarpar sydd yn ofynnol ar gyfer y dasg gan sicrhau ei fod yn ddefnyddiol, wedi ei raddnodi a bod yr holl ardystiadau yn gyfredol
  9. gwneud unrhyw waith paratoi a phrofion neu weithdrefnau angenrheidiol o fewn y graddfeydd amser y cytunwyd arnynt
  10. archwilio rhannau sydd wedi methu
  11. cofnodi’r holl ganfyddiadau yn unol â gofynion y cwmni
  12. sicrhau bod y data sydd wedi ei gasglu yn realistig ac yn drylwyr ac yn ystyried amodau’r prawf
  13. dadansoddi’r data gan ddefnyddio dulliau a gweithdrefnau cymeradwy y diwydiant
  14. ystyried a dileu unrhyw ffactorau allanol sy’n effeithio ar berfformiad peiriannau neu gyfarpar
  15. cymharu’r dadansoddiad yn erbyn manyleb y cynnyrch a nodi unrhyw namau neu amrywiadau o’r fanyleb
  16. nodi achosion y methiannau a phennu goblygiadau’r canfyddiadau 
  17. nodi ac argymell gweithredoedd
  18. cadarnhau bod y gweithredoedd a argymhellir yn bodloni’r safonau perthnasol a gofynion y cwsmer
  19. cyfiawnhau a chofnodi argymhellion 
  20. cyflwyno arsylwadau ac argymhellion a pharatoi dogfennau
  21. cyfrifo cost a pharatoi amcangyfrifon/dyfynbrisiau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir 
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. y diben a’r amcanion sy’n ymwneud â chais am archwiliad neu brawf
  4. y camau sydd yn ofynnol ar gyfer y mathau gwahanol o archwiliad a phrofion
  5. sut i gasglu a dilysu gwybodaeth berthnasol
  6. sut i flaenoriaethu a threfnu gweithdrefnau profi
  7. dulliau o ymchwilio i namau ysbeidiol
  8. y dulliau, diagnosteg a’r cyfarpar arbenigol perthnasol a ddefnyddir i sefydlu cydymffurfiad peiriant neu gyfarpar ar y tir
  9. sut i wahaniaethu rhwng nodwedd peiriant a chamweithio
  10. sut i nodi, casglu a chofnodi data perthnasol yn unol â gofynion y cwmni
  11. sut i gymharu, dadansoddi a dehongli data a geir wrth brofi ac archwilio
  12. y dulliau a’r technegau dadansoddi perthnasol o ganfod nam
  13. achosion a symptomau methiant cyfarpar a chydrannau
  14. addasrwydd a chyfyngiadau’r peiriannau neu’r cyfarpar sydd yn cael eu harchwilio i gyflawni’r dasg ofynnol
  15. effaith addasrwydd y cnwd, pridd, amgylchedd gwaith a’r tywydd ar berfformiad peiriannau
  16. yr amrywiaeth o weithredoedd y gellid eu hystyried
  17. achosion ac effaith methiannau
  18. y goblygiadau’n ymwneud â’r ateb arfaethedig, yn arbennig gwarant, cost, atgyweirio yn y dyfodol a’r effaith ar weithrediadau cwsmeriaid
  19. sut i gyflwyno arsylwadau ac argymhellion i’r cwsmer, y sefydliad a’r cyn-hyrchydd
  20. sut i baratoi cyngor gwasanaeth
  21. sut i nodi pryd mae angen hyfforddiant gweithredwr er mwyn osgoi ailadrodd methiannau
  22. sut i ddosbarthu atgyweiriad
  23. sut i gyfrifo costau a rhoi amcangyfrifon/dyfynbrisiau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


gweithredoedd - e.e.
· atgyweirio neu amnewid (gwarant neu atygweirio gan y manwerthwr)
· gwasanaethu neu gynnal a chadw
· y tu hwnt i atgyweirio economaidd (scrap neu israddio)
· anaddas ar gyfer cymhwyso (amnewid neu addasu)
· anniogel i barhau i’w ddefnyddio (atafael neu anablu)
· bodloni cydymffurfiad y cynhyrchydd
· angen hyfforddiant gweithredwr

dulliau a thechnegau dadansoddi - e.e. trwy ddileu rhesymegol, efelychu, cymharu, ynysu cydrannau, diffinio manyleb a pherfformiad yn erbyn data’r cynhyrchwyr

categorïau - e.e. cydymffurfio, dilysu atgyweirio, damwain neu ddigwyddiad, diagnosis, archwiliad cyn dosbarthu

dosbarthu atgyweiriad - e.e. gwarant, hawlio yswiriant, torri wedi ei orfodi, diffyg cynnal a chadw, ymyrraeth heb awdurdod, difrodi, gorlwytho, cam-drin gan y gweithredwr, cymhwyso amhriodol

blaenoriaethu a threfnu gweithdrefnau profi - e.e. diogelwch, economeg, safle a lleoliad y peiriant neu’r cyfarpar i gael ei brofi, cyflwr y cyfarpar sydd yn cael ei brofi (e.e. ddim yn addas ar gyfer ei brofi)

gwybodaeth berthnasol - e.e. holi llafar, gweithrediad personol, cofrestrau namau, arsylwi, efelychu, cymharu

safonau perthnasol – deddfwriaeth berthnasol, rheoliadau, safonau’r diwydiant a chanllawiau’r cynhyrchwyr sydd yn cynnwys cyfarpar ar y tir


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO30

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

PDI; diagnosis; dadansoddi; ar y tir; peirianneg; cyfarpar; peiriannau; archwilio; profi