Cyflawni trosglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir
URN: LANLEO29
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cyflawni trosglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir. Defnyddir y term gosod yn y cyd-destun hwn i olygu unrhyw agwedd ar y defnydd cychwynnol o gynnyrch neu wasanaeth.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb dros osod cyfarpar ar y tir mewn unrhyw un o’r sectorau ar y tir, e.e. amaethyddiaeth, garddwriaeth, amwynderau, gofal daear, coedyddiaeth, coedwigaeth.
Mae angen i’r unigolyn hefyd roi cymorth i gwsmeriaid wrth drosglwyddo a gosod o fewn terfynau eu hawdurdod eu hunain ac i ddatrys ymholiadau a phroblemau cwsmeriaid.
Mae’r safon hon yn gofyn am gadw at yr holl ddeddfwriaeth a’r rheoliadau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw, a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- trefnu amser a lleoliad addas i gyflawni trosglwyddo a gosod y cyfarpar ar y tir
- cyflawni trosglwyddo a gosod yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd a’r cwmni
- adolygu a chadarnhau dealltwriaeth y gweithredwr o weithrediad y cyfarpar
- cadarnhau dealltwriaeth y gweithredwr o’r ffordd i ddefnyddio data o’r cyfarpar i gynyddu perfformiad
- gadael cyfarpar mewn cyflwr diogel a chwbl weithredol ar ôl cwblhau’r trosglwyddo a’r gosod
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â throsglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i wneud y gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y rhesymau dros a buddion trosglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir
- unrhyw nodweddion cyfarpar y mae’n rhaid eu hystyried wrth gyflawni trosglwyddo a gosod
- sut i nodi’r hyn y mae angen ei gynnwys yn ystod trosglwyddo a gosod
- sut i gyflawni gosodiad gan ddefnyddio proses systematig a’r systemau rheoli ansawdd perthnasol
- sut i gadarnhau lefel dealltwriaeth y gweithredwr o’r cyfarpar ar ôl trosglwyddo a gosod
- cyfrifoldebau a chyfyngiadau eich awdurdod eich hun wrth gyflawni’r trosglwyddo a’r gosod
- y cyngor technegol a’r cymorth y gellir ei gynnig i gwsmeriaid
- sut i ymdrin ag ymholiadau neu broblemau yn ystod y trosglwyddo a’r gosod
- pwysigrwydd gadael cyfarpar mewn cyflwr diogel ar ôl trosglwyddo a gosod
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
nodweddion cyfarpar - e.e. dimensiynau ffisegol, gosodiadau trafnidiaeth/gwaith
systemau rheoli ansawdd - e.e. llawlyfrau, gweithdrefnau atal, materion diogelwch, technegau rheoli a gweithredu, cynnal a chadw, amserlenni gwasanaeth, gwarant a thelerau ac amodau
rhesymau - e.e. cyfreithiol, economaidd periant, perfformiad, effeithlonrwydd, proffesiynoldeb
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO29
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
ar y tir; cyfarpar; peirianneg; trosglwyddo; gosodiad