Gwasanaethu ac atgyweirio systemau aerdymheru/oeri ar y tir
URN: LANLEO28
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio systemau aerdymheru/oeri ar y tir yn cynnwys aerdymheru symudol (MAC) ac oeri peiriannau sefydlog.
Mae’r safon yn cynnwys egwyddorion gweithredol, gwiriadau swyddogaethol a chynnal a chadw MAC ac oeri peiriannau sefydlog, (e.e. adfer/sychu/gwefru, cyfradd/effeithiolrwydd oeri, llif/hidlo aer, cyplysiadau/pibellau/pibau, anwedd/inswleiddio/brigio, systemau gyriant, systemau TXV (falfiau ehangu thermol)/FOT (tiwb tyllau sefydlog)/rheoli hinsawdd). Mae hefyd yn cynnwys profi gollyngiadau, (e.e. uwchfioled, gweledol, profion nitrogen electronig a di-ocsigen).
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus /HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir sy’n defnyddio eu menter eu hun mewn rôl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid. Gallai gynnwys mentora cydweithiwr iau i gynorthwyo gydag agweddau o’r gwasanaethu ac atgyweirio.
Noder – dylai unrhyw un sy’n ymdrin ag oeryddion feddu ar ardystiad dilys sydd yn cydymffurfio â rheoliadau ymdrin â nwy cyfredol F.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- sicrhau bod y cyfarpar ar y tir y mae angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
- cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau
- pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
- nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
- symud ac amnewid systemau aerdymheru/oeri ar y tir a chydrannau cysylltiedig
- datgymalu, archwilio ac adfer systemau a chydrannau aerdymheru/oeri ar y tir
- cynnal gweithgareddau gwasanaethu neu atgyweirio gan ddilyn gofynion cyfreithiol a manylebau’r cynhyrchwyr
- adnabod ac unioni namau aerdymheru, rheoli hinsawdd neu oeri
- cynnal gwiriadau neu brofion gweithredol i sicrhau ymarferoldeb system
- symud a disodli cydrannau wedi treulio ac wedi eu niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
- ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
- y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
- y peryglon sy’n cael eu creu gan ynni wedi ei storio a’r ffordd y dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
- y cemegau, nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
- y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda systemau aerdymheru/oeri ar y tir a nodi’r achos sylfaenol
- diffygion a namau cyffredin sydd yn digwydd gyda systemau aerdymheru/oeri ar gyfarpar ar y tir
- y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gwaith, angen brys am y cyfarpar
- y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
- egwyddorion gweithredu systemau aerdymheru ac oeri a’u cydrannau
- mathau a chyfliniad systemau yn unol â’r cymhwysiad
- sut i symud a gwasanaethu neu amnewid cydrannau aerdymheru neu oeri
- sut i ddatgymalu, archwilio ac adfer cydrannau aerdymheru neu oeri yn unol â gofynion y cynhyrchydd
- sut i unioni namau aerdymheru, rheoli hinsawdd neu oeri
- y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau gweithgaredd i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
- sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gweithgareddau - e.e. profi (gollyngiad, pwysedd, gwactod) adfer, llifolchi ac ailwefru
Namau - e.e. methiant gyriant/cywasgwr, colli oerydd, oerydd/llif aer cyfyngedig, switsh a/neu reolyddion tymheredd diffygiol, tanddefnydd/gorddefnydd o oerydd neu iraid
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
• tanwydd
• olewau
• hylifau
• nwyon
• llwch
• aer cywasgedig
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• Cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
• gofynion cwsmeriaid
• cyfarwyddiadau llafar
Dulliau diagnosis:
• archwiliadau gweledol
• profion ymarferol a gweithredol
• cyfarpar diagnostig
• systemau rheoli a monitro electronig o bell
• adolygu data technegol
Gwiriadau gweithredol - e.e. gyriant cywasgwr, switshys/rheolyddion, cyflenwadau pŵer, cyfradd/effeithiolrwydd oeri, anwedd, inswleiddio, brigo, llif aer, hidlwyr
Ynni wedi ei storio:
• sbringiau
• tyndra strap
• pwysedd hydrolig
• gollyngiad trydanol
• gollyngiad cronnwr
Systemau a’u cydrannau - e.e. cywasgwr, cyplyswyr, pibellau a phibau, cyddwysydd, anweddydd, sychwr derbynnydd, cyfnewidwyr gwres, thermostatau, falfiau ehangu rheoli a thermol (TXV), tiwb tyllau sefydlog (FOT), hidlwyr/gwahanwyr
Mathau o systemau - e.e. Aerdymheru Symudol MAC, oeri peiriannau sefydlog, TXV – Falfiau ehangu thermol, FOT – tiwb tyllau sefydlog
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO28
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
ar y tir; aerdymheru; oeri; gwasanaethu; atgyweirio; cyfarpar; peiriannau