Ymdrin ag oeryddion
URN: LANLEO27
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys ymdrin ag oeryddion. Mae’n cynnwys unrhyw weithgareddau sydd yn cynnwys ymdrin ag oeryddion sydd yn gysylltiedig â systemau aerdymheru/rheoli hinsawdd a/neu oeri, (e.e. adfer, llifolchi a/neu ailwefru).
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio gydag oeryddion.
Noder – dylai unrhyw un sy’n ymdrin ag oeryddion feddu ar ardystiad dilys sydd yn cydymffurfio â rheoliadau cyfredol ymdrin â nwy F.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o’r peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig ag ymdrin ag oeryddion
- defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) addas wrth ymdrin ag oeryddion
- nodi math a galluoedd oeryddion a defnyddio’r offer a’r cyfarpar angenrheidiol i ymdrin ag oeryddion a chyflawni gweithgareddau yn unol â manylebau’r cynhyrchwyr
- casglu a throsglwyddo unrhyw ddeunydd gwastraff yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau’r cwmni
- cwblhau cofnodion fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig ag ymdrin ag oeryddion
- pwysigrwydd dewis, defnyddio a chynnal a chadw’r cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol wrth ymdrin ag oeryddion
- y ddeddfwriaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sydd yn cynnwys ymdrin â gwaredu oeryddion
- y gweithdrefnau sy’n berthnasol i ymdrin ag oeryddion yn ddiogel
- yr egwyddorion gweithredu a swyddogaeth systemau a chydrannau aerdymheru symudol (MAC) a/neu oeri peiriannau sefydlog
- y mathau o oerwyr cyfreithiol a’u nodweddion, eu rhinweddau a’u heffaith amgylcheddol
- sut i adnabod y nodweddion sydd yn gysylltiedig â chyfarpar ymdrin ag oeryddion gwahanol yn cynnwys cyfarpar sylfaenol ac awtomatig
- sut i ymdrin ag oeryddion mewn systemau aerdymheru symudol a/neu oeri peiriannau sefydlog
- sut i weithio mewn ffordd sy’n lleihau’r risg o unrhyw allyriadau oeryddion
- y gofyniad cyfreithiol i gadw cofnodion a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
gweithgareddau - e.e. adfer, llifolchi ac ailwefru
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO27
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
oerydd; aerdymheru; oeriad; adfer; ailwefru