Gwasanaethu ac atgyweirio systemau trawsyrru ar gyfarpar ar y tir
URN: LANLEO26
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio systemau trawsyrru ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys symud, datgymalu, gwasanaethu, atgyweirio, ailgydosod ac adfer systemau trawsyrru a’u cydrannau, yr arferion profi, diagnosis ac atgyweirio sydd eu hangen ar gyfer trawsyriannau syml a chymhleth (e.e. symud pŵer, CVT yn cynnwys gyriant belt neu hydrostatig).
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir gan ddefnyddio eu menter eu hun mewn rôl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid. Gallai gynnwys mentora cydweithiwr iau i gynorthwyo gydag agweddau ar y gwasanaethu ac atgyweirio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- sicrhau bod y cyfarpar ar y tir y mae angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
- cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau
- categoreiddio namau a phennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
- nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
- dehongli darluniau systematig o drawsyriannau a’u cydrannau
- symud ac amnewid systemau trawsyrru a’u cydrannau perthnasol ar gyfarpar ar y tir
- datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer systemau trawsyrru yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd lle y bo’n berthnasol
- nodi’r cydrannau sy’n rheoli dilyniant cyflymder, cyfeiriad a newidiadau ystod
- gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
- symud ac amnewid cydrannau wedi eu treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- cadarnhau bod y cyfarpar wedi ei osod a’i raddnodi’n gywir ar ôl gwasanaethu ac atgyweirio
- defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r manylebau cyn ei dychwelyd at y cwsmer
- ailgylchu neu waredu mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
- y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
- y peryglon sy’n cael eu creu gan ynni wedi ei storio a’r ffordd y dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
- y cemegau, nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
- y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda systemau trawsyrru ar gyfarpar ar y tir a nodi’r achos sylfaenol
- diffygion a namau cyffredin sydd yn digwydd gyda systemau trawsyrru ar gyfarpar ar y tir
- y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gwaith, angen brys am y cyfarpar
- y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
- sut i ddehongli darluniau amlinellol o drawsyriannau a’u cydrannau
- sut i symud ac amnewid systemau trawsyrru a’u cydrannau ar gyfarpar ar y tir
- sut i sefydlu defnyddioldeb rhannau trawsyrru
- sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer systemau trawsyrru a’u cydrannau yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
- mathau, cynllun, adeiladwaith ac egwyddorion gweithredu systemau trawsyrru
- y dulliau a ddefnyddir i gyflawni ystod cyflymder a chyflymder gwahanol mewn systemau trawsyrru a’r berthynas rhwng cyflymder a throrym
- yr anghenraid i amseru cydrannau argylchol yn gywir
- y gweithdrefnau a ddefnyddir i wirio, cyfnodedd, aliniad a chydbwysedd siafftiau gyriant
- y mathau o ddyfeisiadau diogelwch ac amddiffyn a ddefnyddir i ddiogelu uniondeb systemau trawsyrru
- manyleb, cymhwysiad a nodweddion cynhalwyr
- y dulliau ar gyfer gosod neu raddnodi cyfarpar ar ôl gwasanaethu neu atgyweirio
- y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau gweithgaredd i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
- sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Gwaith ar ddau o’r mathau canlynol o systemau trawsyrru:
• symud pŵer
• hydrostatig
• systemau CVT (yn cynnwys gyriant strap)
• trawsyriant cydiwr deuol/lled-awtomatig
Nodi a chategoreiddio o leiaf dau o’r mathau canlynol o namau ar y trawsyriannau y mae gwaith yn cael ei wneud arnynt:
• mecanyddol
• hydrolig
• trydanol/electronig
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
• tanwydd
• olewau
• hylifau
• nwyon
• llwch
• aer cywasgedig
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• Cyfarwyddiadau cynhyrchwyr
• gofynion cwsmeriaid
• cyfarwyddiadau llafar
Dulliau diagnosis:
• archwiliadau gweledol
• profion ymarferol a gweithredol
• cyfarpar diagnostig
• systemau rheoli a monitro electronig o bell
• adolygu data technegol
Ynni wedi ei storio:
• sbringiau
• tyndra strap
• pwysedd hydrolig
• gollyngiad trydanol
• gollyngiad cronnwr
Dolenni I NOS Eraill
Gweler LANLEO4 Cymhwyso egwyddorion peirianneg craidd – egwyddorion mecanyddol, ar gyfer gosod cynhalwyr a pherthynas gêrs a phiniynau â’i gilydd a dulliau iro.
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO26
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
ar y tir; cyfarpar; peiriannau; trawsyriannau; gwasanaethu; atgyweirio