Gwasanaethu ac atgyweirio systemau niwmatig ar gyfarpar ar y tir
URN: LANLEO25
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio systemau niwmatig ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys diagnosis, symud, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cylchedau, systemau a chydrannau niwmatig yn unol â manylebau’r cynhyrchydd, (e.e. mecanweithiau brecio aer neu wedi eu cychwyn gan aer).
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus /HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir sy’n defnyddio eu menter eu hun mewn rôl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid. Gallai gynnwys mentora cydweithiwr iau i gynorthwyo gydag agweddau o’r gwasanaethu ac atgyweirio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- sicrhau bod y cyfarpar ar y tir y mae angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
- cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau
- pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
- nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
- nodi, symud ac amnewid cydrannau system niwmatig ar gyfarpar ar y tir
- rhyddhau pwysedd aer wedi ei storio ac anwedd mewn systemau a chylchedau
- datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer systemau a chydrannau niwmatig yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchwyr
- symud ac amnewid cydrannau wedi eu treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- canfod gollyngiadau aer a selio cydrannau a ddefnyddir mewn systemau niwmatig
- paratoi’r system niwmatig i gael ei phrofi a chynnal profion
- defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
- ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
- y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
- y peryglon sy’n cael eu creu gan ynni wedi ei storio a’r ffordd y dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
- y cemegau, nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
- cymwysiadau systemau niwmatig ar gyfarpar peirianneg ar y tir
- y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda systemau niwmatig ar gyfarpar ar y tir a nodi’r achos sylfaenol
- prif achosion methiannau niwmatig a’u symptomau
- y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gwaith, angen brys am y cyfarpar
- y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
- y symbolau a ddefnyddir mewn diagramau cylchedau niwmatig
- sut i ddarllen a dehongli diagramau cylchedau niwmatig
- sut i symud ac amnewid cydrannau niwmatig
- sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cydrannau a systemau niwmatig yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
- y mathau gwahanol o gylched niwmatig
- adeiladwaith, mathau a swyddogaeth cydrannau system niwmatig
- y dulliau o ganfod gollyngiadau mewn systemau aer
- sut i adnabod mathau o bibellau niwmatig a’u gosodiadau perthnasol
- sut i gydosod ac atgyweirio a chynhyrchu pibellau niwmatig
- sut i gynnal profion diagnostig ac addasu cydrannau a systemau niwmatig yn unol â manylebau’r cynhyrchydd a gosodiadau’r ffatri
- y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau gweithgaredd i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
- sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Achosion methiannau niwmatig - e.e. dŵr, lludded, halogiad, gollyngiadau
Profion diagnostig - e.e. profion pwysedd, addasu falfiau cyfyngu a rhyddhau pwysedd, gosod falfiau cychwyn brêc aer
Offer diagnostig - e.e. mesurau pwysedd uchel ac isel, pwysedd
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
• tanwydd
• olewau
• hylifau
• nwyon
• llwch
• aer cywasgedig
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• Cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
• gofynion cwsmeriaid
• cyfarwyddiadau llafar
Dulliau diagnosis:
• archwiliadau gweledol
• profion ymarferol a gweithredol
• cyfarpar diagnostig
• systemau rheoli a monitro electronig o bell
• adolygu data technegol
Cylched niwmatig - e.e. llinell unigol a llinell ddeuol
Cydrannau system niwmatig - e.e.
• cywasgwyr aer
• falfiau rheoleiddio pwysedd aer, falfiau rhyddhau, falfiau dadlwytho
• falfiau rheoli pwysedd aer, falf brêc llaw, falfiau brêc troed, falfiau wedi eu gweithredu â diaffram
• silindrau wedi eu cychwyn gan aer, clustogau aer, cydrannau system methu diogel/brys
• derbynwyr aer a sychwyr
Ynni wedi ei storio:
• sbringiau
• tyndra strap
• pwysedd hydrolig
• gollyngiad trydanol
• gollyngiad cronnwr
Dolenni I NOS Eraill
Mae profion a diagnosteg sylfaenol wedi eu cynnwys yn LANLEO30 Archwilio a phrofi cyfarpar ar y tir
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO25
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
ar y tir; cyfarpar; peirianneg; niwmatig; gwasanaethu; atgyweirio