Gwasanaethu ac atgyweirio systemau rheoli a monitro electronig ar gyfarpar ar y tir
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio systemau rheoli a monitro electronig ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys y cydrannau a’r systemau trydanol ac electronig a ddefnyddir i greu, prosesu a throsglwyddo data a ddefnyddir wrth reoli a monitro cyfarpar ar y tir a’u gweithgareddau cysylltiedig.
Mae hefyd yn cynnwys y sgiliau a’r wybodaeth hanfodol i alluogi’r technegydd i ddeall swyddogaeth a chymhwyso’r cydrannau a’r systemau a ddefnyddir, y dechnoleg a ddefnyddir a sut i ddilysu perfformiad system, rhoi diagnosis a chywiro diffyg cydymffurfio system â manylebau’r cynhyrchydd.
Dylid graddnodi unrhyw gyfarpar profi a ddefnyddir yn unol â gofynion y cynhyrchydd.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i’r dadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael ei hyfforddi yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes perianneg ar y tir gan ddefnyddio eu menter eu hunain mewn rôl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid. Gallai gynnwys monitro cydweithiwr iau mewn agweddau ar y gwasanaethu a’r atgyweirio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
 - bod yn ymwybodol o’r effaith bosibl ar yr amgylchedd sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
 - dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
 - dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchdd ac arferion y cwmni
 - profi a dilysu uniondeb y cyfarpar diagnostig
 - sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
 - cymryd y rhagofalon cywir i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogiad a pheryglon lle bo angen
 - defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau mewn cyfarpar, systemau rheoli a monitro electronig a chydrannau ar y tir, yn cynnwys namau ysbeidiol
 - pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
 - nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sy’n ofynnol ar gyfer y gweithgaredd
 - gwasanaethu/atgyweirio a/neu amnewid cydrannau i gadarnhau perfformiad dibynadwy systemau rheoli a monitro electronig
 - adfer/dehongli/mudo gwybodaeth wedi ei storio o systemau rheoli a monitro electronig
 - gosod paramedrau, graddnodi, a dilysu perfformiad systemau rheoli a monitro electronig
 - cynnal cyfarpar rheoli a monitro electronig i gadarnhau perfformiad dibynadwy
 - cydnabod nodweddion maes electromagnetig a’r dylanwad y mae hyn yn ei gael ar gylchedau cysylltiedig
 - cadarnhau bod cyfarpar yn cael ei osod neu ei raddnodi’n gywir ar ôl gwasanaethu ac atgyweirio
 - defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â manyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
 - ailgylchu neu waredu mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
 - cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
 - y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
 - yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd a pholisi’r cwmni
 - y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
 - sut i brofi a dilysu uniondeb cyfarpar diagnostig
 - y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
 - y peryglon sy’n cael eu creu gan ynni wedi ei storio a’r ffordd y dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
 - y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â’r rhain
 - y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda systemau rheoli a monitro electronig ar gyfarpar ar y tir, yn cynnwys namau ysbeidiol, a nodi’r achos sylfaenol
 - y defnydd o gyfathrebu electronig, telemetreg, i gasglu data a sut i ddehongli data digidol
 - diffygion a namau cyffredin sydd yn digwydd gyda systemau rheoli a monitro electronig ar gyfarpar ar y tir a’r ffactorau sydd yn dylanwadu ar fethiant cydrannau electronig
 - y ffactorau sydd yn effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel y gost, amcangyfrif o fywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
 - y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
 - y ffordd y caiff arwyddion trydanol, electronig a di-wifr eu creu a’u cyfathrebu
 - swyddogaeth a gweithrediad system rheoli a monitro electronig ar y tir
 - y mathau gwahanol o systemau rheoli a monitro a ddefnyddir ar gyfarpar ar y Tir
 - swyddogaeth cydrannau system rheoli a monitro electronig allweddol
 - swyddogaeth, mathau a chymhwyso sgrinio ar gyfer cydrannau electronig er mwyn llesteirio dylanwad electronig allanol
 - y dylliau a ddefnyddir i atgyweirio neu amnewid cydrannau systemau rheoli a monitro electronig cyfarpar ar y tir
 - y dylliau a ddefnyddir i wirio a chynnal uniondeb systemau rheoli a monitro electronig
 - sut i adennil, dehongli ac adfer gwybodaeth sydd wedi ei storio mewn unedau rheoli electronig (ECU)
 - sut i raddnodi a dilysu gweithrediad cywir o systemau rheoli a monitro electronig
 - systemau rheoli peiriannau hunanlywodraethol a robotig
 - cymhwyso a defnyddio cyfarpar ffermio manwl gywir
 - y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau gwaith i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
 - sut i ailgylchu neu waredu gwastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
 - yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei chael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
 - y wybodaeth sydd angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Systemau rheoli a monitro - e.e.
- rheolaeth injan
 - rheoli trawsyriant
 - rheolaeth pentir
 - monitro perfformiad
 - monitro teledu cylch cyfyng
 - offeru cyfarpar
 - gwybodaeth gyrrwr
 - rheoli crogiant
 - rheoli hydrolig
 - llywio peilot
 - gwasanaeth gosod byd-eang (GPS)
 - trawsyrru
 - Trawsgyweiriad Lles Curiad (PWM)
 - CAN Bus, LIN Bus, ISOBUS
 - telemetreg
 - systemau tywys awtomatig
 
Cydrannau - e.e.
- datgelwyr
 - rheoleiddwyr
 - gwrthyddion
 - thermistorau
 - troswyr
 - trosglwyddwyr
 - unedau rheoli electronig (ECU)
 
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
- tanwydd
 - olewau
 - hylifau
 - nwyon
 - llwch
 - aer cywasgedig
 
Cyfarwyddiadau a manylebau:
- darluniau/cynlluniau
 - amserlenni
 - datganiadau dull
 - Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
 - Cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
 - gofynion cwsmeriaid
 - cyfarwyddiadau llafar
 
Dulliau diagnosis:
- archwiliadau gweledol
 - profion ymarferol a gweithredol
 - cyfarpar diagnostig
 - systemau rheoli a monitro electronig o bell
 - adolygu data technegol
 
Ynni wedi ei storio:
- sbringiau
 - tensiwn strap
 - pwysedd hydrolig
 - gollyngiad trydanol
 - gollyngiad cronnwr