Gwasanaethu ac atgyweirio systemau trydanol ar gyfarpar ar y tir
URN: LANLEO22
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio systemau trydanol ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys yr egwyddorion, y cydrannau a’r systemau trydanol a geir mewn cyfarpar ar y tir. Mae hefyd yn cynnwys rhai agweddau ar drydan o’r prif gyflenwad ond oherwydd rheoliadau cyfredol, dylai trydanwr cymeradwy fod yn gysylltiedig wrth weithio gyda thrydan o’r prif gyflenwad.
Mae’r safon hon yn cynnwys systemau a chydrannau AC, (e.e. unigol, 3-gwedd, foltedd a chodau lliw - 415, 240, 110) a DC (e.e. cylchedau cychwyn, systemau tanio, gwefru/batris, cynnau/offerwaith a systemau ategol).
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle mae’n cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw, a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i wneud y gweithgaredd yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- sicrhau bod y cyfarpar ar y tir y mae angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
- cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau
- pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
- nodi a sefydlu argaeledd y cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
- nodi, symud ac amnewid cydrannau ar systemau trydanol ar gyfarpar ar y tir
- lle bo angen, datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cydrannau a chylchedau trydanol yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
- cadarnhau ac unioni namau mewn systemau a chydrannau trydanol
- defnyddio cyfarpar profi i fesur a dehongli yn gywir
- cynnal uniondeb gorau systemau trydanol
- dilysu gwethrediad cywir dyfeisiadau diogelwch
- cyflawni’r gwasanaeth ac atgyweirio systemau trydanol, yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- symud a disodli cydrannau wedi treulio ac wedi eu niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
- ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i wneud y gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
- y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
- y peryglon sydd yn cael eu creu gan ynni wedi ei storio a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
- y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
- y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda systemau trydanol ar gyfarpar ar y tir a nodi’r achos sylfaenol
- diffygion cyffredin a namau sydd yn digwydd gyda systemau trydanol ar gyfarpar ar y tir
- y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwneud y gwasanaethu a’r atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
- y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
- egwyddorion, adeiladwaith a swyddogaeth cylchedau trydanol a’r mathau o gydrannau
- deddf Ohm a’i chymhwysiad
- egwyddorion ac effeithiau electromagneteg
- y mathau o ddiogelu a rheoli cylchedau
- y mathau gwahanol o fatris a’u manylebau
- sut i wefru a chynnal a chadw mathau gwahanol o fatris
- y risgiau a gyflwynir i systemau trydanol a chydrannau gan weithgareddau/digwyddiadau eraill
- sut i atal a chywiro cyrydiad
- sut i sefydlu cylched agored, cylched byr, cymalau ymwrthedd uchel, cymalau sych
- dulliau o gyfnewid cylchedau trydanol
- sut i lwybro a sicrhau ceblau a harneisiau trydanol
- sut i brofi, atgyweirio a dilysu systemau trydanol ar gyfarpar ar y tir gan ddefnyddio technegau ac offer addas yn unol â chanllawiau’r cynhyrchydd
- y dulliau o brofi systemau trydanol wrth gwblhau gwaith i gadarnhau eu bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn eu dychwelyd at y cwsmer
- sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Diogelu a rheoli cylchedau - e.e. ffiwsiau ynysu batris, switshys thermol, cyfnewid foltedd drosodd-oddi tano, ynysu batri, cyfnewidiadau, RCCD (Dyfais Cylched Cerrynt Gweddilliol), asio daear, inswleiddio dwbl
Folteddau cyffredin - e.g. 6, 10, 12, 18, 24, 110, 240, 415
Cylchedau trydanol a’u cydrannau - e.e.
• cylchedau cychwynnol
• cylchedau tanio
• cylchedau gwefru
• cylchedau cynnau
• offeru
• tanio gwreichionen
• cylchedau ategol
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
• tanwydd
• olewau
• hylifau
• nwyon
• llwch
• aer cywasgedig
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
• gofynion cwsmeriaid
• cyfarwyddiadau llafar
Uniondeb systemau trydanol - e.e. harneisiau weirio, cysylltiadau, daear, defnyddwyr trydanol (batris)
Dulliau diagnosis:
• archwiliadau gweledol
• profion ymarferol a gweithredol
• cyfarpar diagnostig
• systemau rheoli a monitro electronig o bell
• adolygu data technegol
Risgiau a gyflwynir i systemau a chydrannau trydanol gan weithgareddau/digwyddiadau eraill - e.e. weldio, cylched byr, cylched agored batri, gorwefru, polaredd o chwith
Dyfeisiadau diogelwch - e.e. diogelu cylched, ffiwsiau, switshys diogelwch
Ynni wedi ei storio:
• sbringiau
• tyndra strap
• pwysedd hydrolig
• gollyngiad trydanol
• gollyngiad cronnwr
Cyfarpar profi i fesur a dehongli - e.e. foltedd, llif cerrynt, parhad daear, ymwrthedd
Mathau o fatri - e.e. asid plwm, gel a dim cynnal a chadw
Dilysu cydymffurfio - e.e. prawf fflach, archwiliad gweledol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO22
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
ar y tir; cyfarpar; peiriannau; trydanol; peirianneg