Gwasanaethu ac atgyweirio systemau crogiant ar gyfarpar ar y tir
URN: LANLEO21
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio systemau crogiant ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys y systemau crogiant a geir ar gyfarpar ar y tir, (e.e. crogiant cabiau, crogiant echel flaen, rheoli gogwydd, cerbydau ffrâm crogiant llawn) a chynnal a chadw ac atgyweirio’r systemau hyn.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir sy’n defnyddio eu menter eu hunain mewn rôl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid. Gallai gynnwys mentora cydweithiwr iau i gynorthwyo gydag agweddau ar y gwasanaethu ac atgyweirio.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i wneud y gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
- cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau
- pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
- asesu defnyddioldeb rhannau crogiant
- nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gwaith
- symud ac amnewid systemau crogiant a’u cydrannau cysylltiedig ar gyfarpar ar y tir
- datgymalu, gwasanaethu ac atgyweirio ac adfer systemau a chydrannau crogiant yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchwyr
- symud ac amnewid cydrannau sydd wedi treulio ac wedi eu niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- cadarnhau bod cyfarpar wedi ei osod neu ei raddnodi’n gywir ar ôl ei wasanaethu a’i atgyweirio
- defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei ailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
- ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu’r risgiau wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i wneud y gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y gofynion cyfreithiol sy’n berthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio’r cyfarpar gwaith
- y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
- y peryglon sydd yn cael eu creu gan ynni wedi ei storio a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
- y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus allai fod yn bresennol a ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
- y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda systemau crogiant ar gyfarpar ar y tir a nodi’r achos sylfaenol
- diffygion a namau cyffredin sydd yn digwydd gyda systemau a chydrannau crogiant ar gyfarpar ar y tir
- effaith crogiant diffygiol, wedi treulio ar berfformiad cerbyd
- y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
- y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
- mathau, adeiladwaith ac egwyddorion gweithredu systemau crogiant a’u cydrannau
- sut i symud ac amnewid systemau a chydrannau crogiant ar gyfarpar ar y tir
- sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer systemau a chydrannau crogiant yn unol â manylebau’r gweithredwr/cynhyrchydd
- y dulliau ar gyfer gosod neu raddnodi cyfarpar ar ôl ei gynnal a’i gadw neu ei atgyweirio
- y dulliau o brofi systemau crogiant wrth gwblhau gwaith i gadarnhau eu bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn eu dychwelyd at y cwsmer
- sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n bergyglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Gweithio ar o leiaf dau o’r systemau crogiant canlynol:
1. crogiant nad yw’n annibynnol
2. crogiant annibynnol
3. crogiant aer
4. crogiant dur
5. crogiant hydrolig
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydrannau - e.e
· sbringiau deilen a choil
· bar dirdro
· sbringiau aer
· siocleddfwyr
· ôl-freichiau
· cymalau pêl
· atalwyr taro
· bariau atal rholio
· bariau sefydlogi
· breichiau pendiliog
Namau - e.e.
· uchder teithio (anghyfartal ac isel)
· traul
· synau wrth weithredu
· hylif yn gollwng
· teithio gormodol
· sbonciau
· ymdriniaeth gwael o’r cerbyd
· siocleddfwyr wedi treulio
· cymalau wedi treulio
· cysylltiadau wedi eu niweidio
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
• tanwydd
• olewau
• hylifau
• nwyon
• llwch
• aer wedi ei gywasgu
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• Cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
• gofynion y cwsmer
• cyfarwyddiadau llafar
Dulliau diagnosis:
• archwiliadau gweledol
• profion ymarferol a gweithredol
• cyfarpar diagnostig
• systemau rheoli a monitro electronig o bell
• adolygu data technegol
Ynni wedi ei storio:
• sbringiau
• tyndra strap
• pwysedd hydrolig
• gollyngiad trydanol
• gollyngiad cronnwr
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO21
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
ar y tir; cyfarpar; peiriannau; crogiant; gwasanaethu; atgyweirio