Gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar trafnidiaeth, ymdrin a storio ar y tir

URN: LANLEO20
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2022

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar trafnidiaeth, ymdrin a storio ar y tir ac mae’n cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o osod a gweithredu’r:

  • cyfarpar a’r teclynnau
  • cyfarpar sefydlog a chyfleusterau storio.

Mae’n cynnwys nodi namau, dulliau atgyweirio, graddnodi a dilysu perfformiad. Gellir dod o hyd i’r cyfarpar sydd wedi eu cynnwys yn un neu fwy o sectorau cysylltiedig canlynol peirianneg, e.e. amaethyddiaeth, garddwriaeth, amwynderau, gofal daear, coedyddiaeth a choedwigaeth.

Y cyfarpar sydd wedi ei gynnwys yn y safon hon yw cyfarpar trafnidiaeth ac ymdrin a allai gynnwys codi, cydio/tynnu, taradrau, codwyr, cludwyr, tanceri ôl-gerbydau, bowserau, cludwyr hunan-yrru, sugnwr/chwythwr, anfonwyr coed, winshis a systemau cêbl.

Mae rhai cyfarpar yn y safon hon yn ymwneud â storio cyfarpar y gallai naill ai fod yn sefydlog neu’n symudol ond gallent gynnwys tanciau, clampiau, seilos, biniau storio, systemau storio wedi eu rheoli’n amgylcheddol neu bio-gynnyrch.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi eich hyfforddi neu’n meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.

Noder – Gall gweithredu cyfarpar codi, e.e. wagenni fforch godi, er mwyn sicrhau eu bod yn weithredol ofyn am hyfforddiant penodol i fodloni gofynion cyfreithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i wneud y gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o’r ffynonellau pŵer lle bo angen
  6. cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
  7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau 
  8. pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
  9. nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
  10. symud ac amnewid cydrannau o gyfarpar trafnidiaeth, ymdrin neu storio ar y tir
  11. datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cyfarpar trafnidiaeth ac ymdrin ar y tir yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  12. datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cyfarpar storio ar y tir yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  13. symud a disodli cydrannau wedi treulio neu eu niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  14. symud rhwystrau o gyfarpar trafnidiaeth, ymdrin neu storio ar y tir
  15. cadarnhau bod cyfarpar yn cael ei osod neu ei raddnodi’n gywir ar ôl ei wasanaethu a’i atgyweirio
  16. defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
  17. ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
  18. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i wneud y gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio’r cyfarpar gwaith
  5. y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
  6. y peryglon sydd yn cael eu creu trwy storio ynni a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
  7. y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
  8. y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu’r diffygion a’r namau gyda chyfarpar trafnidiaeth, ymdrin a storio ar y tir a nodi’r achos sylfaenol 
  9. diffygion a namau cyffredin sydd yn digwydd gyda chyfarpar trafnidiaeth, ymdrin a storio ar y tir
  10. y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gwaith, angen brys am y cyfarpar
  11. y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
  12. pwysigrwydd glanhau cyfarpar trafnidiaeth, ymdrin a storio i osgoi croes-halogi
  13. sut i symud ac amnewid cyfarpar a/neu gydrannau trafnidiaeth, ymdrin a storio ar y tir
  14. sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cyfarpar a/neu gydrannau trafnidiaeth, ymdrin a storio ar y tir yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchwyr
  15. sut i nodi ac ynysu gwasanaethau o gyfarpar sefydlog
  16. egwyddorion adeiladu a gwaith cyfarpar trafnidiaeth ac ymdrin ar y tir
  17. egwyddorion adeiladu a gwaith cyfarpar storio mawr
  18. y dulliau o fyrhau, ymestyn ac uno codwyr a chludwyr
  19. y dulliau addas o symud rhwystrau o gyfarpar trafnidiaeth, ymdrin neu storio ar y tir
  20. egwyddorion gweithredu a chymwysiadau cyfarpar trafnidiaeth, ymdrin a storio ar y tir
  21. sut i osod a chomisiynu cyfarpar trafnidiaeth, ymdrin a storio ar y tir newydd
  22. y dylliau ar gyfer gosod neu raddnodi cyfarpar ar ôl cynnal a chadw neu atgyweirio
  23. sut i ddewis y cyfuniad cywir o brif gyfarpar symud a chludo
  24. pwysau crynswth trenau, uchafswm galluoedd cario, gofynion brecio, terfynau lled, a’r gofynion ar gyfer defnyddio cyfarpar trafnidiaeth ar y briffordd
  25. y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau gwaith i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â manyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
  26. sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus a achosir gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
  27. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  28. y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth digoelu data

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:

  • tanwydd
  • olewau
  • hylifau
  • nwyon
  • llwch
  • aer cywasgedig

Cyfarwyddiadau a manylebau:

  • darluniau/cynlluniau
  • amserlenni
  • datganiadau dull
  • Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
  • Cyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr
  • gofynion cwsmeriaid
  • cyfarwyddiadau llafar

Dulliau diagnosis:

  • archwiliadau gweledol
  • profion ymarferol a gweithredol
  • cyfarpar diagnostig
  • systemau rheoli a monitro electronig o bell
  • adolygu data technegol

Cyfarpar storio - e.e. cnwd, porthiant, storfeydd biswail/seilos, tanciau llaeth, llyncwyr

Ynni wedi ei storio:

  • sbringiau
  • tyndra strap
  • pwysedd hydrolig
  • gollyngiad trydanol
  • gollyngiad cronnwr

gwasanaethau - e.e. olew, dŵr, nwy, trydan, tanwydd

cyfarpar trafnidiaeth ac ymdrin - e.e.

  • cyfarpar codi e.e. trinwyr, craeniau, fforch godi, llwythwyr, llwyfannau codi
  • systemau cydio/tynnu
  • taradrau, codwyr, cludwyr
  • ôl-gerbydau, tanceri, bowserau, wagenni bwyd/cymysgwr/porthiant, cludwyr hunan-yrru, e.e. mul, bygis golff
  • sugnwyr a chwythwyr
  • anfonwyr coed, winshis, llinellau awyr a systemau cêbl

Dolenni I NOS Eraill

​Gweler LANLEO1 Adnabod a lleihau peryglon yn yr ardal waith peirianneg ar y tir, am arweiniad ar arferion gweithio diogel.

Gweler LANLEO4 Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – egwyddorion mecanyddol, am arweiniad yn ymwneud ag egwyddorion ac arferion sylfaenol peirianneg.

Gweler LANLEO29 Monitro trosglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir am arweiniad yn ymwneud â gofynion gweithredol.

Gweler LANLEO2 Gweithredu gweithdrefnau sefydliadol mewn peirianneg ar y tir am arweiniad yn ymwneud â chofnodi gweithdrefnol neu weinyddol ac arferion adrodd.


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO20

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

gwasanaethu; atgyweirio; cyfarpar ymdrin; cyfarpar storio; ar y tir; peiriannau