Gweithredu gweithdrefnau cwmni mewn peirianneg ar y tir
URN: LANLEO2
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gweithredu gweithdrefnau cwmni mewn peirianneg ar y tir. Mae’n cynnwys rôl a chyfrifoldebau cyflogeion a’r systemau a’r gweithdrefnau a geir yn y gweithle, e.e. strwythur cwmni, dulliau cyfathrebu ac adfer gwybodaeth, adrodd a chofnodi gwybodaeth.
Mae hefyd yn cynnwys y gweithdrefnau mewn cwmnïau peirianneg ar y tir yn ymwneud â chynllunio, cwblhau a gweinyddu gweithgareddau yn y swydd, e.e. gweithrediadau gwasanaeth a chynnal a chadw, archwiliadau cyn dosbarthu, archwiliadau arfarnu peiriannau, systemau a gweithrediadau gwarant, gweithrediadau rhannau, adrodd technegol, taflenni amser, cardiau gwaith a chofnodion milltiroedd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn peirianneg ar y tir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cymhwyso gweithdrefnau a pholisïau perthnasol cwmni wrth gyflawni gweithgareddau yn y gweithle peirianneg ar y tir
- adrodd ar wybodaeth gan ddefnyddio’r dulliau gofynnol, a allai gynnwys dulliau llafar, ysgrifenedig neu electronig
- gweithredu’r gweithdrefnau cwmni perthnasol sy’n rheoli’r tasgau sydd yn cael eu cynnal
- cwblhau’r gweinyddu sy’n berthnasol i’r dasg yn unol â gofynion y cwmni
- dilyn gweithdrefnau gwarant yn unol â gofynion cynhyrchwyr a chyflenwyr
- cael mynediad at, ffeilio a storio dogfennau technegol a data electronig yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y cwmni
- gosod diweddariadau meddalwedd fel y bo angen
- ysgrifennu adroddiadau a chofnodi gwybodaeth dechnegol yn unol â gofynion y cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gweithdrefnau a pholisïau’r cwmni sy’n berthnasol i’ch rôl a pham y maent yn angenrheidiol
- eich rôl bersonol a lefel eich cyfrifoldeb yn y cwmni
- strwythur y cwmni ac wrth bwy yr ydych yn adrodd
- sut i gynllunio a chwblhau tasg benodol yn unol â gweithdrefnau’r cwmni
- y dulliau cyfathrebu o fewn yr adran a’r cwmni
- pam mae gweithdrefnau a pholisïau’r cynhyrchwyr yn angenrheidiol
- sut i asesu a defnyddio catalogau electronig a chopi caled a gweithdrefn y cwmni ar gyfer cael rhannau
- y gweithdrefnau, telerau ac amodau ar gyfer gwaith a wneir o dan warant a’r gofynion ar gyfer gweithredu a chofnodi
- y dulliau a ddefnyddir i ffeilio a chael mynediad i wybodaeth dechnegol, meddalwedd ddiagnostig, dogfennau a gweithdrefnau sy’n ofynnol i wneud tasg
- sut i gwblhau dogfennau’n ymwneud â gwaith a’r gofynion cyfreithiol ar gyfer cadw cyfrinachedd cwsmeriaid
- sut i lunio adroddiadau a chofnodi gwybodaeth i’w defnyddio gan eraill, a allai gynnwys y cwmni, cydweithwyr, cynhyrchwyr a’r cwsmer
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
gweinyddu - e.e. taflenni amser, cardiau gwaith, archeb rhannau, cofnodion milltiroedd, cofnodion gwasanaeth, taflenni archwilio cyn dosbarthu, taflenni cyflwr peiriannau, cynnig a dyfynbrisiau atgyweirio, dogfennau trosglwyddo a gosod
gweithdrefnau a pholisïau cwmni - e.e. llawlyfr cyflogai, dogfennau polisi ac arweiniad y cwmni
adroddiadau - e.e. adroddiadau technegol, adroddiadau arfarnu peiriant, adroddiadau gwasanaeth allan o dymor, adroddiadau digwyddiadau, canlyniadau profion a gwybodaeth arall
tasgau - e.e. archwiliadau cyn dosbarthu, arfarnu peiriannau, gwasanaethau a chynnal a chadw wedi eu trefnu ac allan o dymor
pam mae polisïau a gweithdrefnau cwmni yn angenrheidiol ar gyfer e.e. safonau ansawdd, olrheiniadwyedd, effeithlonrwydd ac atebolrwydd
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO2
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2120
Geiriau Allweddol
gweithdrefnau cwmni; peirianneg; ar y tir