Gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar cynaeafu a phrosesu ar y tir

URN: LANLEO18
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar cynaeafu a phrosesu ar y tir ac mae’n cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o osod a gweithredu’r cyfarpar a’r teclynnau.

Mae’n cynnwys nodi namau, dulliau atgyweirio, graddnodi a dilysu perfformiad. Mae’r cyfarpar cynaeafu a phrosesu sydd yn cael ei gynnwys i’w weld yn un neu fwy o’r sectorau cysylltiedig canlynol o beirianneg ar y tir, e.e. amaethyddiaeth, garddwriaeth, amwynderau, gofal daear, coedyddiaeth a choedwigaeth.

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i’r dadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. bod yn ymwybodol o’r peryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i wneud y gweithgaredd yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
  6. cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cnwd wedi ei gynaeafu, cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogiad a pheryglon lle bo angen
  7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau  
  8. pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
  9. nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gwaith
  10. symud ac amnewid cydrannau o gyfarpar cynaeafu a/neu brosesu ar y tir
  11. datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cyfarpar cynaeafu a/neu brosesu yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  12. symud ac amnewid cydrannau wedi eu treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  13. unioni namau mewn cyfarpar cynaeafu a/neu brosesu sy’n achosi colled, niwed, halogiad, ansawdd sampl gwael mewn cnydau neu gynnyrch
  14. sefydlu cyfarpar cynaeafu a/neu brosesu i gael y perfformiad gorau posibl er mwyn bodloni gofynion cwsmeriaid ac amodau cnwd/amgylcheddol
  15. defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
  16. ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni 
  17. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i nodi peryglon ac asesu risgiau wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir 
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio’r cyfarpar gwaith
  5. y ffordd y dylai cyfarpar ar y tir gael eu paratoi ar gyfer eu gwasanaethu a’u hatgyweirio
  6. y peryglon sydd yn cael eu creu gan ynni wedi ei storio a’r ffordd y dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi 
  7. y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw 
  8. y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda chyfarpar cynaeafu a phrosesu a nodi’r achos sylfaenol  
  9. diffygion a namau arferol sydd yn digwydd gyda chyfarpar cynaeafu a phrosesu ar y tir 
  10. y ffactorau sydd yn effeithio ar werth gwneud y gwasanaethu a’r atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
  11. y cydrannau sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau 
  12. sut i symud ac amnewid cydrannau o gyfarpar cynaeafu a/neu brosesu ar y tir
  13. sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cyfarpar cynaeafu a/neu brosesu yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  14. adeiladu a gweithredu cyfarpar cynaeafu a/neu brosesu
  15. egwyddorion gweithredu a chymwysiadau cyfarpar cynaeafu a/neu brosesu
  16. y ffactorau sy’n dylanwadu ar gynnyrch peiriannau cynaeafu
  17. y dulliau addas o symud rhwystrau o gyfarpar cynaeafu a/neu brosesu
  18. achosion colli neu ansawdd sampl gwael cnydau neu gynnyrch
  19. effaith math ac amodau cnwd neu gynnyrch ar weithrediadau cynaeafu a/neu brosesu
  20. sut i ddefnyddio data i sefydlu ac addasu cyfarpar cynaeafu a/neu brosesu i gael y perfformiad gorau posibl
  21. y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau’r gwaith i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
  22. sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni 
  23. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  24. y wybodaeth sydd angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Achosion colli cnwd neu gynnyrch - e.e. halogiad, niwed, gwastraff a diffyg cydymffurfio â manylebau

Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
tanwydd
olewau
hylifau
nwyon
llwch
aer cywasgedig

Cyfarwyddiadau a manylebau:
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
gofynion cwsmeriaid
cyfarwyddiadau llafar

Dulliau ac egwyddorion gweithredu - e.e.: symud deunydd o fewn y broses gynaeafu (dyrchafu, codi, cario, trosglwyddo, mesur a chyflwyno), prosesu e.e. gwahanu, sychu, pasteureiddio, cywasgu/clymu/lapio, gwaredu/gwasgaru cynnyrch gwastraff

Dulliau diagnosis:
archwiliadau gweledol
profion ymarferol a gweithredol
cyfarpar diagnostig
systemau rheoli a monitro electronig o bell
adolygu data technegol

Ynni wedi ei storio:
sbringiau
tyndra strap
pwysedd hydrolig
gollyngiad trydanol
gollyngiad cronnwr


Dolenni I NOS Eraill

Gweler LANLEO1 Adnabod a lleihau peryglon yn yr ardal waith peirianneg ar y tir, am arweiniad ar arferion gweithio diogel.

Gweler LANLEO4 Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – egwyddorion mecanyddol, am arweiniad yn ymwneud ag egwyddorion ac arferion sylfaenol peirianneg.

Gweler LANLEO29 Monitro trosglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir am arweiniad yn ymwneud â gofynion gweithredol.

Gweler LANLEO2 Gweithredu gweithdrefnau sefydliadol mewn peirianneg ar y tir am arweiniad yn ymwneud â chofnodi gweithdrefnol neu weinyddol ac arferion adrodd.






Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO18

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

ar y tir; cyfarpar; peiriannau; cynaeafu; prosesu